Astudiaethau Achos AberCollab

Rheoli poblogaethau crancod Tsieineaidd goresgynnol drwy gydweithio Ewropeaidd hinsawdd a llunio polisïau

Chinese mitten crab

Mae cynnydd yn nifer y crancod Tsieineaidd goresgynnol yn achosi problemau yn nyfroedd Cymru a rhannau eraill o’r DU. 

Rhestri y crancod yma ymhlith y 100 rhywogaeth infertebrata goresgynnol gwaethaf yn y byd a chredir eu bod wedi cyrraedd Ewrop yn nŵr balast llongau. 

Gall gweithgarwch cloddio y creadur niweidio glannau afonydd, tra bod ei effaith ar fioamrywiaeth dyfrol yn bygwth rhywogaethau brodorol a stociau pysgodfeydd. 

Mae Dr Joe Ironside o Adran y Gwyddorau Bywyd ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r myfyriwr PhD Oscar Norton Jones wedi bod yn cydweithio ar ganfod dulliau o fonitro a rheoli’r rhywogaeth goresgynnol hon. 

Gyda chyllid gan ein rhaglen AberCollab 2024-25, teithiodd y ddau ymchwilydd i Dresden yn yr Almaen i gyflwyno eu gwaith yng nghynhadledd flynyddol CLANCY sef grŵp Rheoli Tir a Môr Arfordirol ar gyfer Addasu i’r Hinsawdd ac Ymwrthedd yn Rhanbarth Môr y Gogledd a ariennir gan raglen Interreg Môr y Gogledd yr UE. 

Dywedodd Dr Joe Ironside: “Yn dilyn Brexit, nid oes modd i sefydliadau yn y DU gael cyllid o gronfa Interreg Môr y Gogledd nac ymuno fel partneriaid llawn ar brosiectau Interreg Môr y Gogledd, ond mae partneriaid CLANCY yn cydnabod fod ein gwaith ni ar grancod Tsieineaidd goresgynnol yn ategol i’w gwaith nhw a chawsom wahoddiad felly i fynychu eu cynhadledd flynyddol. 

“Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar eneteg y crancod a sut y gallwn ni ganfod eu presenoldeb yn well drwy ddefnyddio DNA amgylcheddol (eDNA) a thrapiau lloches. Rydym hefyd wedi llunio meini prawf ar gyfer asesu safleoedd yn gyflym er mwyn gosod trapiau sefydlog yno. 

“Bu modd i ni gyflwyno ein canfyddiadau i gynulleidfa oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Asiantaeth Amgylchedd Fflandrys, Talaith Dwyrain-Fflandrys a Phrifysgol Antwerp (Gwlad Belg), CSLN a GEMEL (Ffrainc), Prifysgolion Dresden a Kiel ac Athrofa Alfred Wegener (Yr Almaen), a Phrifysgol Skövde (Sweden).” 

Roedd cyfarfod Dresden hefyd yn cynnwys ymweliad â thrap crancod sefydlog ar Afon Elbe, gan roi cyfle i’r gwyddonwyr o Aberystwyth gymharu dyluniad yr Almaen â’u prototeip eu hunain. 

O ganlyniad i’r gynhadledd, mae Dr Ironside a’i ymchwilydd PhD bellach yn cydweithio â Dr Sonja Leidenberger (Prifysgol Skövde) ar ddefnyddio eDNA i ganfod poblogaethau crancod dwysedd isel, ac â Dr Christine Ewers (Prifysgol Kiel) ar eneteg poblogaeth crancod yn Ewrop. 

Ychwanegodd Oscar Norton Jones: “Bu modd i ni gyfrannu at goeden benderfyniadau CLANCY ar gyfer rheoli crancod, ac mae llawer o ddiddordeb wedi bod yn ein dyluniadau ar gyfer trapiau lloches fel dull o ganfod a samplu crancod Tsieineaidd, yn oedolion ac ifanc, ar draws Ewrop, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn arwain at brosiect cydweithredol pellach. 

“Rydym bellach yn aelodau cysylltiol o brosiect CLANCY, gyda’r gallu i fynychu eu cyfarfodydd misol ar-lein a chael mynediad at adnoddau ar-lein y prosiect. Bydd y cyfnewid parhaus hwn o wybodaeth ac arbenigedd yn amhrisiadwy i’n hymchwil ni yma yn ogystal ag i’n partneriaid yn yr UE wrth i ni geisio atal y difrod a achosir gan y rhywogaeth goresgynnol hon.” 

Dr Joe Ironside presenting his research to the meeting
Scientists discuss common concerns during a visit to a mitten crab trap on the River Elbe

Adroddiad AberCollab ac Astudiaethau Achos

 

Adroddiad AberCollab
2024-25

 

Rôl ffermwyr mewn gwyddoniaeth hinsawdd a llunio polisïau

 

Creu Cylchgrawn
Cydweithredol: Adfywio Economaidd
a 
Datblygu Cymunedol