Astudiaethau Achos AberCollab
Creu Cylchgrawn Cydweithredol: Prosiect Ymchwil Creadigol ar Adfywio Economaidd a Datblygu Cymunedol
O dwf cynyddol mewn siopa ar-lein a datblygiadau ar gyrion trefi i gostau uwch a gwariant is, mae busnesau canol tref yn wynebu ystod o heriau cymdeithasol ac economaidd.
Mae’n bwnc sy’n destun prosiect ymchwil cydweithredol dan ofal Ysgol Busnes Aberystwyth.
Gyda chyllid gan ein rhaglen AberCollab 2024-25, mae Dr Lyndon Murphy yn defnyddio technegau creu cylchgronau creadigol fel ffordd arloesol o archwilio a deall adfywio economaidd a datblygu cymunedol yn nhrefi Aberystwyth yng Ngheredigion a Mürzzuschlag yn Awstria.
Mae’r ddau le yn wynebu heriau tebyg ac mae staff o’r ysgolion busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol y Gwyddorau Cymhwysol Wiener Neustadt yn Awstria yn cydweithio i ddod o hyd i atebion.
Ym mis Mai 2025, cynhaliwyd dau weithdy ar yr un pryd – un ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda pherchnogion busnes, staff y Brifysgol ac aelodau eraill o’r gymuned leol, ac un arall ym Mürzzuschlag gyda grŵp tebyg o bobl.
Aeth y grwpiau ati i greu gylchgronau yn seiliedig ar eu profiadau, eu gwerthoedd a’u gweledigaeth ar gyfer dyfodol eu cymunedau gyda’r ddau weithdy yn cloi gyda thrafodaeth strwythuredig yn trafod dehongliadau ar ddatblygiad economaidd a chymunedol yn Aberystwyth a Mürzzuschlag yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
Esboniodd Dr Murphy: “Drwy greu’r cylchgronau fel testunau diwylliannol, rydyn ni’n gallu dadansoddi sut mae perchnogion a rheolwyr busnes, swyddogion awdurdodau lleol a thrigolion yn gweld gwirioneddau, gwerthoedd a heriau economaidd-gymdeithasol eu hardal. Bu’r gweithdai’n sbardun ar gyfer deialog greadigol sy’n parhau i ddatblygu.
“Mae’r defnydd o gylchgronau i ddadansoddi a gwerthuso adfywiad economaidd yn greadigol yn ddull ymchwil cymharol newydd sy’n hwyluso cyfranogiad ac yn helpu i ddod â sgyrsiau i’r wyneb nad ydynt efallai’n deillio o ddulliau ymchwil traddodiadol sy’n cael eu harwain gan gyfweliadau neu grwpiau ffocws. Mae’r dull arloesol hwn wedi rhoi mewnwelediad newydd i adfywiad economaidd a datblygiad cymunedol yn Aberystwyth a Mürzzuschlag, ochr yn ochr â fframweithiau dadansoddol mwy traddodiadol.”
Camau nesaf
Caiff canfyddiadau’r prosiect eu rhannu gyda Chyngor Sir Ceredigion ac awdurdod dinesig Mürzzuschlag Gemeinderat yn Awstria.
Mae grŵp cymunedol newydd hefyd wedi’i sefydlu ym Mürzzuschlag yn dilyn y gweithdy creu cylchgrawn fel bod y sgyrsiau a gafwyd am adfywiad economaidd y dref yn parhau.
Mae cydweithio yn parhau hefyd rhwng Ysgol Busnes Aberystwyth ac Ysgol Busnes Prifysgol y Gwyddorau Cymhwysol Wiener Neustadt, gyda phartneriaeth ffurfiol yn cael ei sefydlu rhwng y ddau sefydliad.
Adroddiad AberCollab ac Astudiaethau Achos
Adroddiad AberCollab
2024-25