Awduron Aberystwyth

Trosolwg
Mae gan Aberystwyth hanes llenyddol cyfoethog ac amrywiol. Mae gan gannoedd o awduron, beirdd a dramodwyr gysylltiadau agos â’r dref ger y lli a thros y blynyddoedd, mae’r ardal wedi ysbrydoli ysgrifennu ar draws pob genre. Gan adeiladu ar seiliau gwaith ymchwil bywgraffiadol ar hanes llenydda yn Aberystwyth gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, aeth y prosiect hwn ati I bennu 24 o lenorion â chanddynt gysylltiad ag Aberystwyth ac a oedd gyda’i gilydd yn cwmpasu hanes ac arwyddocad llenyddol y lleoliad. Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth a chynhyrchu adnoddau dysgu ar gyfer ysgolion, roedd amcanion y prosiect yn cynnwys cefnogi diwydiant ymwelwyr yr ardal a datblygu cais Aberystwyth i ymaelodi â rhwydwaith Dinasoedd Llên UNESCO yn y dyfodol.
Gweithgareddau
Penodwyd Ceri Wyn Jones, sydd ei hun yn fardd Cymraeg o fri ac yn gyn-fyfyriwr Adran Saesneg y Brifysgol, yn Gynorthwyydd Ymchwil y proseict.
Sefydlwyd gweithgor o dri – Mererid Hopwood, Matt Jarvis a Ceri Wyn Jones – i gytuno ar feini prawf ar gyfer dewis 24 o awduron o gronfa ddata o 300.
Lluniwyd rhestr fer a ddosbarthai’r enwau posibl yn ôl rhyw, cyfnod, a genre, ac a allai, at ei gilydd, roi i’r darllenydd argraff o arwyddocâd eang Aberystwyth fel ‘dinas llên’.
Dewisiwyd y 24 enw terfynol o’r rhestr hon ac yn unol ag amcanion y prosiect, cynhyrchwyd cyfres o adnoddau o safon ar 12 o’r awduron dethol, yn cynnwys:
- tri phecyn adnoddau dysgu ar gyfer athrawon sy’n gweithio gyda disbyglion hyd at 16 oed, i gefnogi’r cwricwlwm newydd i Gymru.
- deunyddiau ar gyfer arddangosfa deithiol yn hyrwyddo hanes llenyddol Aberystwyth er nes llenyddol Aberystwyth, a thrwy hynny wella dealltwriaeth o’r dref fel canolfan lenyddol.
- Taflen dwyieithog yn hyrwyddo twristiaeth lenyddol drwy adrodd hanes llenorion y dref.