Beth yw Deialog a Chyfnewid Gwybodaeth

Nid Cymru yw’r unig wlad sy’n wynebu amryw o heriau.  Mae sgyrsiau ar hyd a lled y wlad yn adlewyrchu pryderon ynghylch yr argyfwng hinsawdd ac adnoddau naturiol, ffyniant rhanbarthol, fforddiadwyedd, iechyd a gofal cymdeithasol a seilwaith. Mae’r rhain a materion eraill yn debygol o ddiffinio ein dyfodol cyffredin dros y blynyddoedd nesaf.

Ar yr un pryd, mae ymchwilwyr, llywodraeth, busnes, y trydydd sector, sefydliadau cymunedol gwledig a threfol yn datblygu, profi ac uwchraddio datrysiadau newydd. Wrth iddyn nhw chwilio am atebion, maen nhw’n chwilio am gydweithrediadau a chyfleoedd sy’n arloesi ac yn effeithio’n gadarnhaol ar fywydau bob dydd.

Er mwyn creu dyfodol llewyrchus, rydym angen prosesau cydweithredol gwell sy’n datblygu dealltwriaeth o’n gwerthoedd, rhai gwahanol a rhai sy’n gorgyffwrdd, yn ogystal â natur gymhleth y problemau rydym yn eu hwynebu. Mewn prifysgolion a thu hwnt, mae angen i ni fynd ati o’r newydd i ddatblygu ymrwymiad unedig i werthoedd craidd, sgiliau a chymwyseddau deialog a chyfnewid gwybodaeth.

Mae’r Ganolfan Ddeialog ym Mhrifysgol Aberystwyth yn creu cyfleoedd arloesol ar gyfer cyfnewid gwybodaeth gydweithredol o fewn prifysgol sy’n cael ei harwain gan ymchwil. Drwy gynllunio a hwyluso digwyddiadau, darparu cyfleoedd hyfforddiant a chysylltu ymchwil, busnes, polisi, cymdeithas sifil a defnyddwyr terfynol eraill mewn ffyrdd sy’n cofleidio proses ac arfer deialog, rydym yn cydweithio i chwilio am atebion Cymreig i broblemau’r byd.

Beth Yw Deialog?

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae deialog yn arfer unigol ac yn broses wedi’i hwyluso o gyfnewid gwybodaeth.

Mae unigolion yn arfer neu’n defnyddio deialog trwy fynd ati i wrando, gofyn cwestiynau a chwilio am fath o adnabod, sy’n cael ei ddiffinio fel ‘bod â dealltwriaeth neu wybodaeth am rywbeth neu rywun, i fod yn gyfarwydd iawn â rhywbeth neu rywun neu feddu ar brofiad personol o rywbeth neu rywun.’

Mae’r broses ddeialog wedi’i hwyluso yn cynllunio gweithgareddau yn ofalus sy’n ei gwneud hi’n haws i grwpiau amrywiol greu ymdeimlad o adnabod gyda’i gilydd a datblygu datrysiadau arloesol.

 

Beth Yw Cyfnewid Gwybodaeth?

Mae cyfnewid gwybodaeth yn dwyn ynghyd staff academaidd, defnyddwyr ymchwil, diwydiant, sefydliadau a chymunedau i rannu syniadau, data, profiad ac arbenigedd er mwyn cynyddu manteision ymchwil.

Mae cyfnewid gwybodaeth yn elfen bwysig o ran sut mae effaith ymchwil a chenhadaeth ddinesig yn cael ei darparu ar draws pob adran ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Drwy ganoli deialog ar gyfnewid gwybodaeth, mae Prifysgol Aberystwyth yn blaenoriaethu datblygu cysylltiadau cydweithredol ac yn cydnabod y rôl y mae gwerthoedd craidd, byd-olwg ac emosiynau’n eu chwarae o ran effaith ac arloesi.