Newyddion


Gŵyl Hawlio Heddwch yn denu cannoedd
8 Tachwedd 2023
Daeth dros 600 o bobl at ei gilydd ar gyfer gweithgareddau amrywiol Gŵyl Ymchwil y Brifysgol a gynhaliwyd rhwng 1 a 7 Tachwedd 2023.

Dadorchuddio Plac Porffor i Anrhydeddu Cennad Heddwch
3 Tachwedd 2023
Bydd un o’r placiau porffor uchel eu bri yn cael ei ddadorchuddio yn Aberystwyth heddiw (dydd Gwener 3 Tachwedd) i anrhydeddu cyfraniad rhyfeddol menyw a arweiniodd ddirprwyaeth i’r Unol Daleithiau ym 1924 i gyflwyno deiseb heddwch wedi’i llofnodi gan bron i 400,000 o fenywod Cymru.


Tŷ Trafod – lleoliad newydd ar gyfer cyfnewid gwybodaeth ac ymchwil
Hydref 2023
Os ydych chi wedi bod yn y Ganolfan Ddelweddu ar gampws Penglais yn ddiweddar, byddwch wedi sylwi ar ambell newid. Yn gyntaf, mae’r brif fynedfa wedi symud i ochr yr adeilad. Yn bwysicach fyth, mae cyntedd y llawr gwaelod wedi cael ei drawsnewid.
Darllenwch yr eitem ar dudalennau 10 a 11 o Newyddion Aber.


Hawlio Heddwch – Gŵyl Ymchwil
Hydref 2023
Cynhelir Gŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth 2023 rhwng 1 a 7 Tachwedd. Trwy amryw ddulliau a gweithgareddau bydd yn rhoi darlun o’r ymchwil sy’n cael ei chyflawni ym mhob rhan o’r Brifysgol, er mwyn ennyn diddordeb cynulleidfaoedd, o fyfyrwyr a staff academaidd y Brifysgol i gymunedau yn Aberystwyth, ar draws Cymru a thu hwnt.
Darllenwch yr eitem ar dudalennau 8 a 9 o Newyddion Aber.

Gobaith a Chytgord: Noson o gerddoriaeth, barddoniaeth a bwyd Syriaidd
25 Hydref 2023
Bydd noson o fwyd ac adloniant yn cael ei chynnal yn Aberystwyth i godi arian i achosion lleol sy’n cynorthwyo’r rhai sydd wedi dioddef effeithiau rhyfel.

Llyfr newydd i nodi canmlwyddiant Deiseb Heddwch Menywod Cymru
17 Hydref 2023
Bydd cyfrol ddwyieithog yn adrodd stori ryfeddol deiseb heddwch, a lofnodwyd ganrif yn ôl gan 390,296 o fenywod Cymru a’i chludo draw i America, yn cael ei lansio’n swyddogol yng Ngŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth ar 3 Tachwedd.

Ar drywydd heddwch yng Ngogledd Iwerddon: Sgwrs gydag Eileen Weir
10 Hydref 2023
Yr heddychwr arobryn o Ogledd Iwerddon, Eileen Weir, yn myfyrio ar ei phrofiadau personol yn ymgyrchydd cymunedol fydd digwyddiad cyweirnod Gŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth.

Dathliadau Hawlio Heddwch ym Mhrifysgol Aberystwyth
21 Medi 2023
Bydd academyddion, ymgyrchwyr heddwch ac aelodau o’r cyhoedd yn dod at ei gilydd i drin a thrafod yr ymdrechion i ‘Hawlio Heddwch’ mewn cyfres o ddigwyddiadau dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth.
Cynhelir Gŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth 2023 rhwng 1 a 7 Tachwedd, ar thema Hawlio Heddwch.

Canolfan Ddeialog Yn Agor Tŷ Trafod Ymchwil ar Gampws Penglais
31 Awst 2023
Mae’r Ganolfan Deialog wedi agor Tŷ Trafod Ymchwil newydd yn y Ganolfan Ddelweddu ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth.
Mae’r lle wedi’i ddylunio’n arbennig i gynnig man ymgynnull agored i ymchwilwyr a phartneriaid allanol yn ogystal ag ystod o osodiadau ystafell ar gyfer digwyddiadau cyfnewid gwybodaeth a deialog.

Adeiladu Pontydd: Democratiaeth Cymru – nawr, ac ar gyfer ein dyfodol
19 Gorffennaf 2023
Cymerodd Dr Jennifer Wolowic a Dr Anwen Elias ran mewn bord gron y Sefydliad Materion Cymreig, sef trafodaeth a oedd yn dwyn y teitl ‘Democratiaeth Cymru: Nawr ac yn y Dyfodol’.
Yn seiliedig ar y drafodaeth bord gron, crëwyd adroddiad newydd, yn galw am fesurau i gryfhau democratiaeth Cymru y tu hwnt i’r cylch etholiadol ac yn rhybuddio yn erbyn effeithiau pesimistiaeth wleidyddol os ydym am oresgyn ein ‘hanniddigrwydd democrataidd’.

Canolfan Ddeialog Yn Agor Tŷ Trafod Ymchwil ar Gampws Penglais
16 Mehefin 2023
Mae gwaith wedi dechrau ar greu Tŷ Trafod Ymchwil newydd yn y Ganolfan Ddelweddu ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth.
Mae’r cyntedd ar lawr gwaelod yr adeilad yn cael ei drawsnewid i ddarparu man cwrdd wedi’i ddylunio’n bwrpasol ar gyfer gweithgareddau ymchwil a chyfnewid gwybodaeth, dan ofal Canolfan Ddeialog y Brifysgol.

Sgwrsio â Dr Jen Wolowic, Prif Arweinydd newydd Canolfan Ddeialog y Brifysgol
Mawrth 2023
Darllenwch yr eitem ar dudalennau 14 i 16 o Newyddion Aber.

Prifysgol Aberystwyth yn croesawu Prif Arweinydd y Ganolfan Ddeialog newydd
20 Ionawr 2023
Mae arbenigwraig flaenllaw ar y berthynas rhwng deialog a chyfnewid gwybodaeth wedi cychwyn ar ei swydd fel Prif Arweinydd Canolfan Ddeialog newydd Prifysgol Aberystwyth.

Cyn Archesgob Caergaint yn brif siaradwr digwyddiad lansio Canolfan Ddeialog y Brifysgol
21 Tachwedd 2022
Rôl deialog wrth greu dyfodol gwell fydd testun sgwrs agored rhwng cyn Archesgob Caergaint yr Athro Rowan Williams a’r prifardd ac ysgolhaig yr Athro Mererid Hopwood.