Astudiaethau achos
![Teal turret outline](https://dialogue.aber.ac.uk/wp-content/uploads/sites/40/2023/08/Teal-turret-outline-1.png)
Fel Canolfan Ddeialog, ry’n ni’n awyddus i rannu cymaint o wybodaeth â phosib am ein gwaith gan gynnwys adrodd yn ôl ar ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau gwahanol. Mae’n hastudiaeth achos cyntaf yn crynhoi’r sgyrsiau, trafodaethau ac argymhellion digwyddiad a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2023 gyda’r FlourishCafe™ a chynrychiolwyr o’r diwydiannau creadigol yn lleol. Byddwn ni’n ychwanegu mwy o astudiaethau achos at y dudalen yma wrth i ni fynd yn ein blaenau felly mae’n werth dychwelyd yma o dro i dro i gael y diweddaraf. Os oes unrhyw gwestiwn yn y cyfamser, e-bostiwch ni ar deialog@aber.ac.uk.