Trafod

Rydym yn cynllunio ac yn darparu fforymau sy’n dod â phobl at ei gilydd o feysydd llunio polisi, diwydiant, cymdeithas sifil a’r byd academaidd i ystyried materion brys ac i gyfrannu at newid cymdeithasol. Mae enghreifftiau yn cynnwys:

 

  • Gweithio gydag academyddion sy’n arwain cymunedau ymarfer lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ac ymgynnull i drafod amrywiaeth o faterion.
  • Ymchwilwyr y Brifysgol yn creu partneriaethau gyda’r Ganolfan Ddeialog i ymgysylltu â grwpiau sy’n cael eu heffeithio, llunwyr polisi a busnes i ddatblygu atebion cydweithredol ac i oresgyn rhwystrau i effaith.
  • Ein gwasanaeth ymgynghori, sy’n gweithio gydag ymchwilwyr, sefydliadau addysg uwch, busnes a chleientiaid o’r sector cyhoeddus i hwyluso grwpiau sy’n cael ei heffeithio o ran dulliau trafod democrataidd a gwneud penderfyniadau ystyriol.