Sgiliau

Byddwn yn cefnogi amcanion ffyniant trwy gyd-ddatblygu a chyflwyno hyfforddiant sgiliau, a darparu cyfleoedd newydd i ddysgwyr feithrin perthynas gryfach â’i gilydd yn ogystal ag ymgysylltu â deunyddiau cwrs. Er enghraifft:

 

  • Mae ein Clinig Cyfnewid Gwybodaeth a’n gweithdai yn byrth ar gyfer dysgu gan fyfyrwyr, gweithwyr proffesiynol a’r gymuned.
  • Byddwn yn cynnal sesiynau datblygu proffesiynol mewnol ac allanol parhaus.
  • Wrth i’r Ganolfan Ddeialog ddatblygu, byddwn yn cefnogi ymgysylltiad gyda ieuenctid a chyfleoedd dysgu rhwng cenedlaethau i helpu pobl ifanc i ddatblygu.
  • Rydym yn datblygu cyfleoedd hyfforddi gyda modiwlau hwyluso proffesiynol, arweinyddiaeth gydweithredol a dulliau deialog a fydd yn datblygu’n rhaglen achredu broffesiynol.