Digwyddiadau i ddod

Doing Democracy Differently

Doing democracy differently

4:00yp, Dydd Mawrth 28 Mai 2024

Meadow Stage, Gŵyl y Gelli, Gelli Gandryll

Ymunwch â Dr Anwen Elias, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, a Dr Jennifer Wolowic, Prif Arweinydd Canolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth, wrth i ni drafod y modd y mae Prifysgol Aberystwyth yn ceisio cefnogi’r gwaith hwn trwy gelfyddyd, ffotograffiaeth a collage dan arweiniad y gymuned, a hynny i helpu i lunio polisïau a sefydliadau ar gyfer dyfodol egnïol.

Mwy o wybodaeth

Peace Appeal

Inspiration for a New Generation: The Welsh Women’s Peace Petition

11:30yb, Dydd Iau 30 Mai 2024

Meadow Stage, Gŵyl y Gelli, Gelli Gandryll

Ymunwch â Mererid Hopwood a Jenny Mathers, golygyddion Yr Apêl 1923–24, wrth iddynt drafod stori ryfeddol Deiseb Heddwch Menywod Cymru gyda’r newyddiadurwraig Betsan Powys, a cheisio ysbrydoliaeth ar gyfer cenhedlaeth newydd o heddychwyr. Bydd y drafodaeth hon yn tynnu cymariaethau â gwrthdaro cyfoes, gan gynnig mewnwelediad i’r ymchwil barhaus am heddwch a rôl dinasyddion cyffredin wrth lunio byd heb ryfel.

Mwy o wybodaeth

Penguin

Penguins, Rhinos, and Poverty: tackling uncomfortable questions in biodiversity conservation

1:00yp, Dydd Sul 2 Mehefin 2024

Spring Stage, Gŵyl y Gelli, Gelli Gandryll

Ymunwch â sgwrs rhwng Pennaeth Ysgol Milfeddygaeth Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Darrell Abernethy, a chynrychiolydd o WWF i drafod sut mae gweithgareddau dynol ac argyfyngau naturiol yn effeithio ar rai o rywogaethau mwyaf gwerthfawr y byd.

Mae’r sesiwn hon yn argoeli i fod yn archwiliad goleuedig o’r heriau sy’n wynebu cadwraeth bioamrywiaeth heddiw.

Mwy o wybodaeth