Hawlio Heddwch

Trosolwg

Rhaglen

Cwestiynau Cyffredin

Hawlio Heddwch

1 – 7 Tachwedd 2023

 

Wedi ei hysbrydoli gan yr hanes hwn, bydd Gŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth 2023 yn rhoi sylw i’r modd y gall dyhead unigolion a phenderfyniad cydweithredol gael dylanwad sylweddol yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Nod yr ŵyl hon yw dathlu’r unigolion, y grwpiau, a’r syniadau sydd wedi llunio heddwch yn y gorffennol, ynghyd ag archwilio ffyrdd y gellir llunio dyfodol o heddwch.

Ymunwch â ni o 1-7 Tachwedd, 2023, i ddathlu dulliau a luniodd heddwch yn y gorffennol ac i archwilio ffyrdd o ddiffinio presennol a dyfodol heddychlon. Bydd yr ŵyl yn cynnwys lansiadau llyfrau, trafodaethau cyweirnod a fydd yn cwmpasu disgyblaethau amrywiol, ffair gymunedol, celfyddyd a cherddoriaeth, yn ogystal â deialogau, gweithdai a phob math o weithgareddau a fydd a’u heffaith yn bell-gyrhaeddol.

Wrth i ni wynebu amgylchiadau anodd gan gynnwys pandemig byd-eang, rhyfeloedd yn Ewrop a chyfandiroedd eraill, a grymoedd dybryd yr argyfwng hinsawdd, mae cenhedlaeth newydd o ddinasyddion, arweinwyr, a meddylwyr arloesol o Aberystwyth a mannau eraill yn codi i chwilio am atebion i heriau heddiw. Maent yn sefydlu rhwydweithiau dylanwadol ac yn chwilio am yr heolydd all hawlio dyfodol heddychlon a llewyrchus.

Hawlio Heddwch yng Ngogledd Iwerddon: Sgwrs gydag Eileen Weir

Amser: 13:00 – 14:00

Dyddiad: 4 Tachwedd

Lleoliad: Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o groesawu Eileen Weir fel y prif siaradwr ar gyfer yr Ŵyl Ymchwil eleni.

Yn y flwyddyn sy’n nodi 25 mlynedd ers Cytundeb Dydd Gwener y Groglith, rydym yn ffodus i glywed gan rywun sydd â phrofiad helaeth, personol o’r actifiaeth gymunedol a osododd y seiliau ar gyfer y cytundeb hwnnw.

Tocynnau am ddim

Lansio Llyfr Yr Apêl: Stori deiseb heddwch menywod Cymru 1923-24 

Amser: 17:00 – 18:30

Dyddiad: 3 Tachwedd

Lleoliad: Archif Ddarlledu Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ymunwch â ni ar gyfer lansiad y llyfr dwyieithog hynod ddiddorol hwn gan nifer o awduron, sy’n rhannu stori ryfeddol y ddeiseb 7 milltir a drefnwyd gan fenywod Cymru i’w hanfon ben arall y byd i America.

Dyma stori wir am fenywod o bob cefndir a heriodd awdurdod.

Tocynnau am ddim

Canolbarth Cymru: Arwain Dyfodol Heddychlon

Dyddiad: 3 Tachwedd

Lleoliad: Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynhyrchu amrywiaeth eang o syniadau a dulliau arloesi sy’n gallu cyfrannu’n sylweddol at fyw’n heddychlon.

Ymunwch â ni wrth i ni archwilio sut mae ymchwil ym maes gwleidyddiaeth wledig, AI, ysgrifennu creadigol a phrofiadau ceiswyr lloches, diogelwch bwyd a mwy yn diffinio sut gallwn leihau gwrthdaro a chyd-greu dyfodol heddychlon gyda’n gilydd.

Tocynnau am ddim

Ymunwch â ni o 1-7 Tachwedd, 2023, i ddathlu dulliau a luniodd heddwch yn y gorffennol ac i archwilio ffyrdd o ddiffinio presennol a dyfodol heddychlon. Bydd yr ŵyl yn cynnwys lansiadau llyfrau, trafodaethau cyweirnod a fydd yn cwmpasu disgyblaethau amrywiol, ffair gymunedol, celfyddyd a cherddoriaeth, yn ogystal â deialogau, gweithdai a phob math o weithgareddau a fydd a’u heffaith yn bell-gyrhaeddol.