Pobl

Dr Jennifer Wolowic

 

Prif Arweinydd y Ganolfan Ddeialog

Mae Dr Jennifer Wolowic wedi’i phenodi’n Brif Arweinydd Canolfan Ddeialog ym Mhrifysgol Aberystwyth a bydd yn cychwyn ar ei swydd newydd ym mis Ionawr 2023. Yn anthropolegydd, ethnograffydd ac arbenigwr ar ymgysylltu cyhoeddus, mae’r Dr Wolowic yn gweithio ar hyn o bryd yng Nghanolfan Ddeialog Prifysgol Simon Fraser (SFU) a Sgwâr Cyhoeddus SFU yn Vancouver.