Digwyddiadau’r Gorffennol

Wrth weithio ar brosiectau, mae’r Ganolfan Ddeialog yn defnyddio dulliau cyfnewid gwybodaeth a hwyluso trawsffurfiol i gefnogi effaith ymchwil y Brifysgol yn ogystal â’i hamcanion cenhadaeth ddinesig ac ymgysylltiad cyhoeddus. Dyma flas o’r digwyddiadau yr ydym wedi’u trefnu neu eu cefnogi fel rhan o’n rhaglen barhaus o weithgareddau.

People gathered in dicussion around a range of tables at Amgueddfa Ceredigion Museum.

7 Mawrth 2024

Sedd rheng flaen yn gohebu ar newid hinsawdd: Sgwrs gyda Golygydd Hinsawdd y BBC Justin Rowlatt

Trafodaeth hynod ddifyr ar effeithiau newid hinsawdd, yn ystyried trothwyon negyddol tyngedfenol ynghyd ag ambell lygedyn o obaith.

People gathered in dicussion around a range of tables at Amgueddfa Ceredigion Museum.

1-7 Tachwedd 2023

Hawlio Heddwch – Gŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth  2023 

Am y tro cyntaf, bu’r Ganolfan Ddeialog yn gyfrifol yn 2023 am gydlynu Gŵyl Ymchwil y Brifysgol.

Ar draws rhaglen 7-diwrnod o drafodaethau, gweithdai, arddangosion ymchwil a gweithgareddau creadiogl, fe ddenodd yr ŵyl dros 600 o fynychwyr gan ddod ag ymchwilwyr ynghyd ag ystod o gymunedau gwahanol.

7 Medi 2023

Gweithdy Prosiect CAYC – Sut gall y trydydd sector ddylanwadu ar y llywodraeth

Cynhaliwyd dau weithdy wyneb yn wyneb unigryw i bawb oedd am gael eu clywed gan Lywodraeth Cymru.

Roedd y gweithdai’n tynnu ar ganfyddiadau ymchwil gan Dr. Amy Sanders ar sut y dylanwadodd sefydliadau trydydd sector ar Lywodraeth Cymru, sy’n golygu bod y technegau a’r awgrymiadau a ddysgwyd gan gyfranogwyr yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn o’r ‘hyn a weithiodd’.

Awst 2023

Agoriad Tŷ Trafod

Mae’r lleoliad cyfoes yma ar gampws Penglais y Brifysgol yn fan lle gall ymchwilwyr, partneriaid allanol a chymunedau ddod ynghyd i drafod, cydweithio a rhannu gwybodaeth a syniadau.

Gydag ystod o osodiadau hyblyg, mae modd defnyddio ystafelloedd y Tŷ Trafod ar gyfer cyfarfodydd anffurfiol yn ogystal â digwyddiadau deialog a chyfnewid gwybodaeth.

Manylion pellach am Tŷ Trafod…

 

 

 

 

 

Gorffennaf 2023

Hyfforddiant Allanol

Ar y cyd â WISERD, cyflwyno hyfforddiant yng Nghaerdydd ar wrthsefyll polareiddio cymdeithasol a gwleidyddol.

7 September 2023

RWIF Project Workshop – How the third sector can influence government

Two unique in-person workshops were held for everyone who wanted to be heard by the Welsh Government.

The workshops drew on the findings of research by Dr. Amy Sanders on how third-sector organizations influenced the Welsh Government, meaning that the techniques and tips participants learned were based on sound evidence of ‘what worked’.

Mehefin 2023

Aberystwyth Ffyniannus

Cydweithrediad â’r FlourishCafe™ i edrych ar ffyrdd o gefnogi diwydiant creadigol, entrepreneuriaid a chymuned ffyniannus yn ardal Aberystwyth.

 

Mai – Mehefin 2023

Dylunio a Hwyluso

Digwyddiad ymchwil a chyfnewid gwybodaeth yn y Senedd ym Mae Caerdydd, yn dwyn ynghyd academyddion, gwleidyddion a mudiadau trydydd sector i drafod yr heriau a’r cyfleoedd ynghlwm wrth sicrhau bod Cymru yn Genedl Noddfa.

 

Mai – Mehefin 2023

Hyfforddiant Staff

Trefnu cyfleoedd hyfforddi i staff academaidd a gwasanaethau proffesiynol prifysgolion ar effaith polisi, hwyluso ac ymgysylltu â’r cyhoedd.

 

Ebrill 2023

Hwyluso Mewnol

Datblygu ac arwain gweithdy strategol ar gyfer Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol. Mae cynigion tebyg ar gael fel rhan o’n gwasanaeth ymgynghori.

 

Mawrth 2023

Hyfforddi

Hyfforddiant un-i-un ar brosesau deialogaidd gydag ymchwilwyr yn arwain cymunedau ymarfer yn ymwneud â heneiddio iach a thrafnidiaeth.

Mawrth 2023

Deialogau Iechyd

Cynnal digwyddiadau i ddwyn ynghyd a chryfhau partneriaethau rhwng Bwrdd Iechyd Hywel Dda a’r Brifysgol.

Tach 2022 – Ebrill 2023

Prosiectau RWIF

Darparu cyllid sbarduno trwy Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru (CAYC) Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a gweithio gydag academyddion ar brosiectau sy’n defnyddio prosesau deialogaidd i ymgysylltu â chymunedau a chyd-greu atebion.

 

Chwefror 2023

Sgiliau a Hyfforddiant

Cynnal gweithdai ar brosesau deialogaidd ar gyfer myfyrwyr gradd Meistr mewn Newid Ymddygiad a staff y brifysgol, gan ganolbwyntio ar beth mae cynllunio ac ymarfer deialog yn unigol yn ei olygu.

 

Tachwedd 2022

Digwyddiad Lansio

Sgwrs agored ar y pwnc ‘Deialog a natur gwybod, adnabod a gweld’ gyda chyn-Archesgob Caergrawnt, yr Athro Rowan Williams, a’r bardd arobryn ac Athro yn y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Mererid Hopwood, i lansio’r Ganolfan Ddeialog.