Cenhadaeth Ddinesig

Cenhadaeth Ddinesig a Meithrin Cyswllt â’r Cyhoedd

Wrth wraidd strategaeth CAYC Prifysgol Aberystwyth mae twf a datblygiad y Ganolfan Ddeialog—uned sy’n arloesi wrth feithrin cysylltiadau a chreu effaith, sy’n ymroddedig i weithio o fewn a thu allan i’r brifysgol i gefnogi cyfnewid gwybodaeth ar y cyd, i sbarduno economïau cynaliadwy, annog dinasyddiaeth weithredol, a gwella ansawdd bywyd yng Nghymru.   

Mae’r Ganolfan Ddeialog yn hyrwyddo deialog a chydweithio fel elfennau craidd diwylliant y brifysgol a arweinir gan ymchwil. Mae’n gwneud hyn trwy weithredu fel sbardun i ysgogi cysylltiadau sy’n atebol, i hwyluso gwaith creadigol, a chyfnewid gwybodaeth   Mae’r Ganolfan yn meithrin amgylchedd sy’n blaenoriaethu cysylltiadau sy’n gallu addasu dros dymor hir, cyfathrebu agored, cydweithredu rhyngddisgyblaethol, ac anghenion ac arbenigedd rhanddeiliaid allanol.   

Yn unol ag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae’r Ganolfan Ddeialog hefyd yn archwilio ffyrdd o integreiddio’r diwylliant a’r iaith Gymraeg yn ei gweithgareddau.  Drwy hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ac ymgorffori arferion diwylliannol Cymru, mae’r Ganolfan yn cyfrannu at warchod a dathlu hunaniaeth Gymreig.  Mae’r dylanwad diwylliannol hwn o fewn y brifysgol yn gwella cynwysoldeb a chydlyniad cymunedol ac yn cefnogi ffyniant diwylliannol ehangach Cymru.