Menter

Rydym yn cefnogi datblygu busnes, twf entrepreneuriaeth a buddsoddiad trwy gysylltu meddylwyr arloesol ag adnoddau, hyfforddiant sgiliau a chyfleoedd i feithrin rhwydweithiau ac ymgysylltu â defnyddwyr terfynol. Er enghraifft, rydym yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol i gefnogi:

 

  • Y Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth a Menter yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi sy’n darparu porth i sefydliadau allanol ddarganfod a chyfranogi mewn cyfnewid gwybodaeth.
  • Ymchwilwyr sy’n cydweithio ag ymchwil a datblygu busnes i greu cyfleoedd masnachol ac Eiddo Deallusol.
  • Partneriaethau rhwng cymunedau a diwydiant sy’n sbarduno ffyniant economaidd.
  • Ystod gynyddol o raglenni Prifysgol sy’n helpu arloeswyr i ddatblygu syniadau, dechrau busnes, a chysylltu â chyfleoedd academaidd, corfforaethol, diwydiannol a llywodraethol.