Tŷ Trafod Ymchwil

Tŷ Trafod Ymchwil ar Gampws Penglais

Yn 2023, agorodd y Ganolfan Ddeialog y Tŷ Trafod Ymchwil yn y Ganolfan Ddelweddu ar Gampws Penglais.

Mae’r lle wedi’i ddylunio’n arbennig i gynnig man ymgynnull agored i ymchwilwyr a phartneriaid allanol yn ogystal ag ystod o osodiadau ystafell ar gyfer digwyddiadau cyfnewid gwybodaeth a deialog.

Mae dwy ystafell oddi mewn i’r Tŷ Trafod. Ar y llawr gwaelod, mae yna lolfa a man cyfarfod gyda byrddau gwyn, soffas, byrddau a chadeiriau, ynghyd â chegin ar gyfer coffi a the. Ar y llawr cyntaf, mae yna ystafell gyfarfod ar gyfer grŵpiau llai, wedi’i gosod ar ffurf ystafell fwrdd.

Fel rheol, mae’r lleoliad yn agored i holl staff ymchwil y Brifysgol fel man i ymgasglu, i drafod, i weithio ac i gwrdd â gwesteion allanol. Mae gan bob aelod o staff ymchwil fynediad i’r Tŷ Trafod rhwng 9yb a 5yp yn ystod yr wythnos trwy eu cerdyn staff.

Gall unrhyw staff ymchwil academaidd hefyd gadw’r Tŷ Trafod Ymchwil ar gyfer digwyddiadau a chyfarfodydd arbennig.

Mae gan y Tŷ Trafod ddodrefn a chyflenwadau ychwanegol er mwyn cwrdd â gofynion gwahanol fathau o ddigwyddiadau cyfnewid gwybodaeth. Gall y brif ystafell gael ei gosod ar ffurf lolfa, theatr, pwyllgor neu weithdai deialog. Mae yna le i 40 o fynychwyr weithio’n gyfforddus pan mae’r ystafell wedi’i gosod ar gyfer gweithdai neu i 60 o fynychwyr ar ffurf theatr. Y sawl sy’n trefnu’r digwyddiad sy’n gyfrifol am drefnu’r dodrefn yn unol â’u hanghenion nhw. 

O fis Hydref 2023 ymlaen, bydd gan yr ystafell ar y llawr gwaelod offer camera, meicroffonau a seinyddion ar gyfer cynnal digwyddiadau hybrid.

I gadw’r Tŷ Trafod ar gyfer eich digwyddiad chi, anfonwch ddyddiad, amser, teitl a phwrpas eich digwyddiad at deialog@aber.ac.uk gan ddefnyddio ‘Tŷ Trafod’ yn y llinell destun.

Gall staff y Brifysgol ddarganfod pryd mae’r Tŷ Trafod wedi’i neilltuo gan eraill trwy chwilio am ‘Tŷ Trafod’ ar y Rhestr Ystafelloedd yn Microsoft Outlook. Ar bob adeg arall, mae’r Tŷ Trafod ar agor i’w ddefnyddio’n anffurfiol gan ymchwilwyr.