Hawlio Heddwch - Rhaglen 2023

Trosolwg

Rhaglen

Cwestiynau Cyffredin

1 Tachwedd

Gweddïo am Heddwch

Tocynnau am ddim

Amser: 12:00 – 12:45

Dyddiad: 1 Tachwedd

Lleoliad: Gofod Ffydd, Campws Penglais

Ymunwch â ni i agor yr ŵyl eleni gyda chyfle i fyfyrwyr, staff ac academyddion ddod at ei gilydd mewn myfyrdod a gweddi rhyng-ffydd.

Heddwch dros ginio

Tocynnau am ddim

Amser: 12:30 – 14:00

Dyddiad: 1 Tachwedd

Lleoliad: Tŷ Trafod Ymchwil, Y Ganolfan Ddelweddu

Mae’r digwyddiad hwn yn gwahodd pob ymchwilydd o bob rhan o’r brifysgol i fwyta, meddwl a thrafod sut y gall ein gwaith ym Mhrifysgol Aberystwyth hyrwyddo heddwch a datrys gwrthdaro yn lleol hyd at raddfa fyd-eang.

Mae pob ymchwilydd yn ymwneud â llunio dyfodol mwy heddychlon p’un a yw’n gweithio ym maes celf, y gyfraith, daearyddiaeth, theori, gwleidyddiaeth, hinsawdd, bwyd, Deallusrwydd Artiffisial, economeg, heneiddio, roboteg, cludiant, ysgrifennu creadigol, neu faes astudio arall.

Rhannwch eich syniadau, dewch o hyd i gyfleoedd a rhannu pryd o fwyd gyda’ch gilydd.

Dangosiad Ffilm: A Call for Peace

Tocynnau am ddim

Amser: 12:30 – 14:00

Dyddiad: 1 Tachwedd

Lleoliad: Sinema Canolfan y Celfyddydau 

Mae’r rhaglen ddogfen am y trafodaethau heddwch rhwng llywodraeth Colombia a Lluoedd Arfog Chwyldro Colombia – Byddin y Bobl, a phawb sydd wedi cyfrannu ati, yn tanlinellu’r holl heriau cymhleth sy’n gysylltiedig â’r broses o gadw heddwch, ac yn brawf o’r hyn y gall cymuned fyd-eang ei wneud, wrth gydweithio i ddod â gwrthdaro treisgar i ben. (2020 Juan Carlos borrero a Melodie Carli)

Ceredigion Gynaliadwy: Caffi sgwrsio ar hinsawdd a heddwch

Tocynnau am ddim

Amser: 19:00 – 21:00

Dyddiad: 1 Tachwedd

Lleoliad: Amgueddfa Ceredigion

Mae Amgueddfa Ceredigion ac ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn eich gwahodd i ymuno â ni ar gyfer trafodaethau am ymchwil, celf, ac ymdrechion i wneud ein byd yn fwy cynaliadwy a heddychlon.

Os oes gennych chi stori am y pethau rydych chi’n eu gwneud i helpu, neu chwilfrydedd am yr hyn y mae eraill yn ei wneud, ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad rhyngweithiol sy’n canolbwyntio ar ein cryfderau lleol. Bydd pawb yn cael cyfle i siarad a gwrando mewn sgwrs ag ymchwilwyr, sefydliadau lleol, aelodau o’r gymuned, a myfyrwyr graddedig sy’n ymwneud â newid hinsawdd a masnachu moesegol.

2 Tachwedd

Dangosiad Ffilm: Lost and Found

Tocynnau am ddim

Amser: 13:10 – 14:00

Dyddiad: 2 Tachwedd

Lleoliad: Sinema Canolfan y Celfyddydau 

Yng nghanol anrhefn gwersyll ffoaduriaid mwyaf y byd, mae Kamal Hussein yn fflam o obaith. O’i gwt bach simsan, gyda dim ond meicroffon, mae wedi ymgymryd â’r dasg o geisio aduno y miloedd o deuluoedd Rohingya sydd wedi cael eu rhwygo gan drais a glanhau ethnig ym Myanmar.

Serch hynny, wrth ddod o hyd i aelodau coll o’r teulu a dod â nhw nôl at ei gilydd, nid helpu nhw’n unig y mae Kamal. Mae’n canfod heddwch iddo fe ei hun hefyd.

Llwybrau tuag at Heddwch yn y 21ain Ganrif

Tocynnau am ddim

Amser: 18:00 – 19:30

Dyddiad: 2 Tachwedd

Lleoliad: Tŷ Trafod Ymchwil, Y Ganolfan Ddelweddu

Does neb yn esgus bod adeiladu heddwch yn hawdd. Ond mae adeiladu heddwch heddiw yn ymddangos hyd yn oed yn fwy heriol nid lleiaf o ystyried y gwahanol ddealltwriaeth o beth yw heddwch – ai absenoldeb rhyfel yn unig yw hynny, neu a ddylai gynnwys datblygu cynaliadwy a chyfiawnder cymdeithasol? A ellir ei adeiladu o’r brig i lawr gan lywodraethau drwy gytundebau rhyngwladol, neu a yw’n dibynnu ar ymgyrchu ar lawr gwlad? A all ddibynnu ar yr hyn a ddisgrifiodd y Seneddwr Mitchell yn ystod proses heddwch Gogledd Iwerddon fel ‘datgomisiynu meddylfryd’ neu a oes angen gweithredu uniongyrchol fel y gwelwyd yng Nghomin Greenham yn y 1980au a Gwrthryfel Difodiant heddiw?

Bydd y drafodaeth bord gron hon yn dod ag amrywiaeth o safbwyntiau at ei gilydd, o’r academydd i’r ymgyrchydd ac o arweinwyr crefyddol i gymdeithas sifil i drafod agweddau ar adeiladu heddwch heddiw.

3 Tachwedd

Arddangosfeydd Ymchwil, Teithiau rhyngweithiol a Ffair Wirfoddoli

Nid oes angen tocyn

3 Tachwedd – 4 Tachwedd

Lleoliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Gan ddechrau am 3yp ac yn para drwy’r penwythnos, bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal arddangosfeydd arbennig o Ymchwil Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r arddangosfeydd hyn yn rhannu ymchwil ym maes amaethyddiaeth, gwleidyddiaeth amlrywogaeth, profiadau ffoaduriaid, cyfrifiadureg a gwyddor gwleidyddiaeth mewn ffyrdd sy’n cofleidio celf, creadigrwydd ac adrodd straeon mewn fformatau newydd.

Ffair Wirfoddoli

Gardd gymunedol PA

AberAid a Ukraine Train

Clwb Rotari Aberystwyth

Arddangosfeydd Ymchwil: Ffoaduriaid yng Nghymru a ddihangodd rhag Sosialaeth Genedlaethol: Dysgu oddi wrth y Gorffennol i lywio’r Dyfodol

Mae’r arddangosfa hon yn olrhain hanes ffoaduriaid yng Nghymru o’r 1930au hyd heddiw. Fe’i gwelwyd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, y Senedd, Dau Dŷ Senedd y DU ac yng nghanolfan Pontio Bangor. Mae’n adrodd hanesion y rhai a ffodd rhag Sosialaeth Genedlaethol yng Nghanolbarth Ewrop i chwilio am noddfa, gan nodi cyffelybiaethau â ffoaduriaid cyfoes.

Arddangosfeydd Ymchwil: Sgyrsiau creadigol am ddyfodol cyfansoddiadol Cymru

Mae’r arddangosfa hon yn rhannu lluniau a gludweithiau ar y thema ‘dyfodol cyfansoddiadol Cymru’, a grëwyd fel rhan o ymchwil parhaus sy’n treialu ffyrdd arloesol a chreadigol o ddechrau sgyrsiau am sut y caiff Cymru ei llywodraethu.

Arddangosyn Ymchwil Sidebodies: Cyfres o gerddi gweledol

 

Gellid clymu’r cyfan at ei gilydd i siarad â chwestiynau ynghylch sut mae datblygu syniadau am heddwch mewn cyd-destun ‘mwy na dynol’ yn hanfodol yng nghyd-destun newid hinsawdd.

Dadorchuddio Plac Porffor i Anrhydeddu Annie Hughes Griffiths 

Plac porffor yn anrhydeddu Annie Hughes Griffiths / Purple plaque honouring peace envoy Annie Hughes Griffiths

Nid oes angen tocyn

Amser: 13:00 – 13:30 

Dyddiad: 3 Tachwedd

Location: 4 Maes Lowri, Aberystwyth 

Dewch i weld un o’r placiau porffor uchel eu bri, sy’n dathlu cyfraniad menywod rhyfeddol yng Nghymru, yn cael ei ddadorchuddio i anrhydeddu Annie Hughes Griffiths (1872–1942), menyw eithriadol oedd yn flaenllaw ym myd cyhoeddus Cymru yn ei dydd.

Caiff y plac ei osod ar wal ei chyn gartref yn rhif 4 Maes Lowri, Aberystwyth, a bydd yn cydnabod ei rôl fel arweinydd Dirprwyaeth Heddwch Menywod Cymru i America yn 1924 a’i chysylltiad gydag Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru yn enwedig. 

Aelodau o deulu Annie Hughes Griffith fydd yn dadorchuddio’r plac ac fe fydd Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jane Hutt AS, ymhlith y siaradwyr. Hwn fydd y 14eg Plac Porffor yng Nghymru. Am fanylion pellach am yr ymgyrch, gweler https://purpleplaques.cymru

Canolbarth Cymru: Arwain Dyfodol Heddychlon

Tocynnau am ddim

Amser: 15:30 – 16:45

Dyddiad: 3 Tachwedd

Lleoliad: Y Drwm,

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynhyrchu amrywiaeth eang o syniadau a dulliau arloesi sy’n gallu cyfrannu’n sylweddol at fyw’n heddychlon.

Ymunwch â ni wrth i ni archwilio sut mae ymchwil ym maes gwleidyddiaeth wledig, AI, ysgrifennu creadigol a phrofiadau ceiswyr lloches, diogelwch bwyd a mwy yn diffinio sut gallwn leihau gwrthdaro a chyd-greu dyfodol heddychlon gyda’n gilydd.

Lansio Llyfr Yr Apêl: Stori deiseb heddwch menywod Cymru 1923-24 

Tocynnau am ddim

Amser: 17:00 – 18:30

Dyddiad: 3 Tachwedd

Lleoliad: Archif Ddarlledu Cymru, 

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ymunwch â ni ar gyfer lansiad y llyfr dwyieithog hynod ddiddorol hwn gan nifer o awduron, sy’n rhannu stori ryfeddol y ddeiseb 7 milltir a drefnwyd gan fenywod Cymru i’w hanfon ben arall y byd i America.

Dyma stori wir am fenywod o bob cefndir a heriodd awdurdod.

Yn annerch y digwyddiad fydd cyfranwyr y llyfr, gan gynnwys Eirlys Barker; Meg Elis, awdur a chyfieithydd; Jill Evans, Heddwch Nain Mamgu a chyn Aelod Senedd Ewrop; Mererid Hopwood a Jenny Mathers, Prifysgol Aberystwyth; Craig Owen, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru; Annie Williams, awdur ac ymchwilydd; a Catrin Stevens a Sian Rhiannon Williams, Archif Menywod Cymru.

4 Tachwedd

Gweithdy Ysgrifennu: Ysgrifennu a Darllen a lle i’r enaid gael llonydd

Tocynnau am ddim

Amser: 10:00 – 12:30

Dyddiad: 4 Tachwedd

Location:Ystafell y Cyngor,

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Yn cael trafferth dod o hyd i le ar gyfer eich meddyliau eich hun? Yn crefu heddwch mewn byd prysur? Mae ‘Lle i’r Enaid gael Llonydd’ yn sesiwn ymarferol sy’n amlygu’r ymchwil diweddaraf mewn darllen, ysgrifennu a chreadigrwydd i archwilio beth mae heddwch yn ei olygu i ni heddiw a sut gallwn ei gyflawni drosom ein hunain.

Wedi’i threfnu gan Ganolfan Creadigrwydd a Lles Prifysgol Aberystwyth, cewch gyfle i roi cynnig ar ymarferion ysgrifennu a darllen, gweithgareddau unigol a grŵp, gyda’r nod o ddod o hyd i’r ffocws anniffiniol hwnnw a all ddod i’r golwg drwy greadigrwydd.

Does dim angen profiad – dewch draw i ymuno â ni.

Ar drywydd heddwch yng Ngogledd Iwerddon: Sgwrs gydag Eileen Weir

Tocynnau am ddim

Amser: 13:00 – 14:00

Dyddiad: 4 Tachwedd

Lleoliad: Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch iawn o groesawu Eileen Weir fel prif siaradwr yr Ŵyl Ymchwil eleni.

Yn y flwyddyn sy’n nodi 25 mlynedd ers Cytundeb Gwener y Groglith, rydym yn ffodus o glywed gan rywun sydd â phrofiad helaeth a phersonol o’r ymgyrchu cymunedol a osododd sylfeini’r cytundeb hwnnw.

Mae Weir wedi gweithio gyda grwpiau menywod yn ogystal ag undebau llafur, mae wedi helpu i sefydlu rhwydweithiau cymdogaeth a chreu cysylltiadau sy’n ymestyn ar draws rhaniadau gwleidyddol, crefyddol ac eraill ledled ynys Iwerddon.

Yn unol ag ysbryd y pwyslais mae Weir yn ei roi ar ddeialog, bydd yr araith hon ar ffurf sgwrs, rhwng Weir a chadeirydd y digwyddiad i ddechrau, ac yna’n agored i gynnwys y gynulleidfa. 

Ymunwch â ni ar achlysur a fydd yn hynod a chofiadwy.

Gweithdy Galw Heibio ar Greadigrwydd ar gyfer Lles

Tocynnau am ddim

Amser: 14:15 – 16:00

Dyddiad: 4 Tachwedd

Lleoliad: Archif Ddarlledu Cymru,

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Galwch heibio ac ymunwch â Chanolfan Creadigrwydd a Lles Prifysgol Aberystwyth wrth i ni roi cynnig ar weithgareddau darllen ac ysgrifennu cyflym gyda’r nod o wella ein lles.

O gemau geiriau i straeon doniol, byddwn yn edrych ar sut gallwn wella ein hiechyd meddwl a chorfforol drwy weithgareddau creadigol.

Does dim angen profiad. Galwch heibio i weld beth sy’n digwydd.

Heddwch ar Strydoedd Aber: Gweithdy Trafnidiaeth Gymunedol Rhyngweithiol

Tocynnau am ddim

Amser: 14:15 – 15:15

Dyddiad: 4 Tachwedd

Lleoliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Pam na all gyrwyr, beicwyr a cherddwyr gyd-dynnu? Ymunwch â phrosiect ymchwil y Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) am sesiwn ryngweithiol ar greu strydoedd heddychlon a llai dig ar gyfer cerddwyr a beicwyr, tra’n ystyried gwahanol safbwyntiau a sut i wella pethau. Rydyn ni eisiau clywed eich straeon!

Broceru heddwch mewn cymunedau? Sut i oresgyn rhaniadau gwledig

Tocynnau am ddim

Amser: 15:30 – 16:30

Dyddiad: 4 Tachwedd

Lleoliad: Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

Gadewch i ni osgoi’r jargon a siarad â’n gilydd. Ymunwch ag arweinwyr cymunedol ac ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth mewn sgwrs sy’n ystyried mentrau i oresgyn rhaniadau a phegynnu mewn cymunedau a gwrth eithafiaeth. Sut gall hyn fod yn berthnasol i Ganolbarth Cymru? Gadewch i ni rannu beth sy’n gweithio a beth sydd ddim. Cawn gyfle i glywed wrth:

Sunder Katwala (British Future)

Nick Olson (Cydlynydd Cydlyniant Cymunedol Caerdydd)

Cynrychiolydd o Sefydliad Jo Cox

‘Nation Shall Speak Peace Unto Nation’: y BBC, heddwch a darlledu cynnar

Tocynnau am ddim

Amser: 16:00 – 17:00

Dyddiad: 4 Tachwedd

Lleoliad: Archif Ddarlledu Cymru,

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

Roedd arwyddair y BBC, ‘Nation Shall Speak Peace Unto Nation’, a fabwysiadwyd yn 1927, yn adlewyrchu dyhead a diben y BBC ar y pryd. Ond beth am y cenhedloedd a luniodd y DU? Ai wrth ei gilydd ynteu wrth Lundain, canolbwynt grym corfforaethol, y buont yn siarad heddwch?

Mae hanesion llafar, sydd newydd eu rhyddhau, o archif y BBC yn taflu goleuni ar y berthynas rhwng Cymru a’r BBC yn Llundain.

Ymunwch â’r Athro Jamie Medhurst ac archwiliwch hanesion, straeon a gwersi blynyddoedd cynnar darlledu radio a theledu a chenhadaeth y BBC i hyrwyddo heddwch.

Noson codi arian – Gobaith a Harmoni: Noson o gerddoriaeth, barddoniaeth a bwyd Syriaidd

Noson codi arian

Amser: 18:30 – 20:30

Dyddiad: 4 Tachwedd

Lleoliad: Canolfan Fethodistaidd St Paul

 

Camwch i mewn i noson o hudoliaeth ac undod wrth i ni ddod at ein gilydd i gefnogi tri achos anhygoel: AberAid, Ukrain Train, a’r Syrian Dinner Project. Mae nifer y tocynnau’n gyfyngedig felly peidiwch â cholli’r cyfle unigryw hwn i ddod ynghyd, mwynhau noson wych, a chael effaith ystyrlon ar fywydau eraill yn ystod Hawlio Heddwch, Gŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth eleni.

Danteithion Cinio (6:30 – 7:30 pm)

Mwynhewch flas bwyd dilys a baratowyd gyda chariad a gofal gan Brosiect Cinio Syria. Bydd eu cogyddion dawnus yn gweini gwledd o seigiau traddodiadol a fydd yn cludo eich blasbwyntiau i galon Syria. Ni fydd alcohol yn cael ei weini.

Perfformiadau (7:30 – 8:30 pm)

Bydd beirdd a cherddorion yn mynd â chi ar daith drwy straeon heddwch. Byddwch yn barod i gael eich symud gan bŵer geiriau, alawon ac emosiynau. Bydd perfformiadau cerddoriaeth glasurol yn cael eu perfformio gan PhiloMusica o dan gyfarwyddyd Iwan Teifion Davies. Darlleniadau barddoniaeth gan Mererid Hopwood, Mathew Jarvis ac Eurig Salisbury.

6 Tachwedd

Dangosiad Ffilm: Afghanistan Through Women’s Eyes

Tocynnau am ddim

Amser: 13:10 – 14:30

Dyddiad: 6 Tachwedd

Lleoliad: Sinema Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Ffilm ddogfen fer am fenywod sydd wedi cael eu tewi yn Affganistan, gan ganolbwyntio ar grŵp ffeministaidd sydd wedi bod yn gweithio y tu allan a’r tu mewn i Affganistan am flynyddoedd lawer, yn ymladd dros hawliau menywod yn heddychlon drwy syniadau am addysg ac iechyd, gan sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.

Rhyfel a Heddwch a Barddoniaeth Gymraeg

Tocynnau am ddim

Amser: 14:00 – 15:45

Dyddiad: 6 Tachwedd

Lleoliad: Tŷ Trafod Ymchwil,

Y Ganolfan Ddelweddu

O’r cofnodion cynharaf mae Rhyfel a Heddwch wedi bod yn themâu amlwg ym marddoniaeth yr iaith Gymraeg, a beirdd fel Aneirin a Thaliesin yn cael eu disgrifio’n aml fel y ‘gohebwyr rhyfel’ gwreiddiol.

Dewch i ymuno â rhai o ddarlithwyr Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd a Dr Hywel Griffiths, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear i archwilio’r ymateb i ryfel a heddwch mewn cerddi o’r Oesoedd Canol hyd heddiw.

LAST DITCH (Anhrefn yng Nghymru): Dramodydd-Gyfarwyddwr, Perfformiwr, a Senograffydd Digidol yn adlewyrchu ar eu gwaith

Tocynnau am ddim

Amser: 17:00 – 19:00

Dyddiad: 6 Tachwedd

Lleoliad: Sinema, Adeilad Parry-Williams

 

Myfyrdod ar greu a pherfformio’r perfformiad llwyfan ar 28-30 Tachwedd yn Theatr y Castell, wedi’i gyd-gynhyrchu gan yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu (i ddathlu pen-blwydd yr adran yn 50 oed) a Chwmni Theatr Lurking Truth/Gwir sy’n Llechu.

7 Tachwedd

Digwyddiad Myfyrwyr: Rhannu Eich Celf Heddwch

Tocynnau am ddim

Amser: 11:00 – 15:00

Dyddiad: 7 Tachwedd

Lleoliad: Prif Neuadd, Undeb y Myfyrwyr

Mynegwch Eich Heddwch Mewnol i Ymlid Heddwch

Dathlwch eich creadigrwydd trwy rannu eich ‘heddwch’. Arddangoswch eich celf, crefftau, barddoniaeth a cherddoriaeth gyda phobl greadigol o’r un anian. Mwynhewch berfformiadau byw, meic agored barddoniaeth, a stondinau wedi’u hysbrydoli gan gelf. Dewch i fynegi eich heddwch a’ch dawn greadigol!

Diodydd a pizzas am ddim! Cyntaf i’r felin.

Trefnir gan fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.

Dangosiad Ffilm: Body Memory in Lola Arias’ Teatro de guerra [Theatre of War] (2018): Re-Presenting the Falklands / Malvinas War

Tocynnau am ddim

Amser: 12:00 – 13:45

Dyddiad: 7 Tachwedd

Lleoliad: Sinema Canolfan y Celfyddydau

Ymunwch â Dr. Jennifer Wood am gyflwyniad a dangosiad o ffilm 2018 Lola Arias ‘Teatro de guerra’ [Theatre of War] am brofiadau fetrans o Ryfel y Falklands/Malvinas. Mae’r ffilm, er ei bod wedi’i diffinio fel ffilm ddogfen, yn chwarae gyda chonfensiynau’r genre. Mae ‘Teatro de guerra’ yn ystyried sut i ailgyflwyno’r rhyfel, gan archwilio atgofion Arias ei hun yn ogystal ag atgofion fetrans o’r gwrthdaro gyda ffocws nid yn unig ar atgof llafar ond hefyd ar ail-greu trwy osod y corff yn gorfforol mewn cof a’i ail-berfformio yn y presennol.

 

 

Ar Drywydd Heddwch yn Wcráin

Tocynnau am ddim

Amser: 18:00 – 20:00

Dyddiad: 7 Tachwedd

Lleoliad: Prif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol

I’r rhan fwyaf ohonom, mae’r newyddion am y rhyfel yn Wcráin yn parhau i ddod â newyddion drwg ac mae cymhlethdod y sefyllfa yn anodd ei ddeall. Mae dros 8 miliwn o drigolion Wcráin wedi ffoi o’u gwlad. Mae cannoedd o filoedd wedi dioddef ar bob ochr. Mae sancsiynau ac ymateb mwy dwys yn rhoi Ewrop a’r byd ar y dibyn. Mae Rwsia ac Wcráin wedi sôn am drafodaethau, ond mae mynd ar drywydd heddwch yn anodd.

Ymunwch ag adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth am drafodaeth am y materion wrth fynd ar drywydd heddwch yn Wcráin. Cawn glywed wrth arbenigwyr a chael dealltwriaeth ddyfnach o gymhlethdodau rhyfel, y potensial i’r rhyfel ddwysau a’r llwybrau tuag at heddwch.