8 Tachwedd

Daeth dros 600 o bobl at ei gilydd ar gyfer gweithgareddau amrywiol Gŵyl Ymchwil y Brifysgol a gynhaliwyd rhwng 1 a 7 Tachwedd 2023.

Hawlio Heddwch oedd y thema eleni, wedi’i hysbrydoli gan ganmlwyddiant Deiseb Heddwch Merched Cymru 1923-24.

Yn ystod rhaglen wythnos o hyd, cafwyd ystod o drafodaethau, gweithdai, arddangosion ymchwil a gweithgareddau creadigol ar y thema heddwch, gyda thros 20 o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal mewn 10 lleoliad gwahanol ar gampws Penglais, yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yng nghanol y dref.

Un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd yr ŵyl oedd lansio llyfr dwyieithog, amlgyfrannog – Yr Apêl / The Appeal (Y Lolfa) – yn adrodd stori ryfeddol y ddeiseb heddwch a lofnodwyd yn 1923-24 gan 390,296 o fenywod Cymru yn galw ar eu chwiorydd Americanaidd i ymuno eu hymgyrch dros fyd heb ryfel.

Daeth mwy na 100 o bobl ynghyd yn y Llyfrgell Genedlaethol ar gyfer lansiad y gyfrol, a gyd-olygwyd gan yr Athro Mererid Hopwood a Dr Jenny Mathers o’r Brifysgol ac sy’n cynnwys penodau gan saith o gyfranwyr gwahanol.

Trefnwyd y lansiad i gydfynd â  dadorchuddio Plac Porffor ym Maes Lowri yn Aberystwyth i anrhydeddu Annie Hughes Griffiths, y wraig a arweiniodd y ddirprwyaeth heddwch i’r Unol Daleithiau ym 1924.

Yn ystod wythnos yr ŵyl, trefnwyd noson arbennig gan Aberaid i godi arian i’r elusen sy’n gweithio dros hawliau ffoaduriaid a mudiad Trên Wcráin yn ogystal ag i gefnogi Prosiect Cinio Syria.

Cynhaliwyd y noson ‘Gobaith a Chytgord’ yng Nghanolfan Fethodistaidd St Paul’s yng nghanol Aberystwyth ac, wedi swper a baratowyd gan Brosiect Cinio Syria, cafwyd cyngerdd yn cynnwys perfformiadau gan y gerddorfa a rhai o feirdd y Brifysgol sef Mererid Hopwood, Matthew Jarvis ac Eurig Salisbury.

Prif westai’r ŵyl oedd Eileen Weir, gweithwraig gymunedol o Belfast a siaradodd yn ysbrydoledig am ei magwraeth yn ystod cyfnod yr Helyntion a’i gwaith cymunedol yn hwyrach gyda Chanolfan Menywod y Shankill, yn creu pontydd rhwng rhaniadau gwleidyddol, crefyddol a rhaniadau eraill ar draws ynys Iwerddon.

Trefnwyd digwyddiad ‘Celf Heddwch’ poblogaidd yn adeilad Undeb y Myfyrwyr ar gampws Penglais, lle’r oedd cyfle i glywed cerddoriaeth a barddoniaeth a gweld gwaith celf gan fyfyrwyr.

Mewn cyfres o drafodaethau difyr eraill, bu craffu ar sut mae creu llwybrau tuag at heddwch yn yr 21ain ganrif, sut mae goresgyn rhaniadau gwledig i greu heddwch mewn cymunedau, a beth yw’r cysylltiadau rhwng Ceredigion, newid hinsawdd a hawlio heddwch – sesiwn a ddaeth â phobl leol ynghyd mewn deialog yn Amgueddfa Ceredigion.

Bu’r Brifysgol yn cydweithio ag ystod o bartneriaid i drefnu gweithgareddau’r Ŵyl, gan gynnwys y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Ceredigion, Academi Heddwch, Placiau Piws Cymru a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion.

Hwn oedd y tro cyntaf i’r Ganolfan Ddeialog fod yn gyfrifol am gydlynu gweithgareddau Gŵyl Ymchwil y Brifysgol ac, wrth fwrw golwg yn ôl ar yr wythnos, dywedodd Dr Jennifer Wolowic, Prif Arweinydd y Ganolfan:

“Gyda Deiseb Heddwch Menywod Cymru a’i chysylltiadau cryf ag Aberystwyth yn ysbrydoliaeth, fe aethon ni ati i greu rhaglen Hawlio Heddwch o amgylch yr unigolion, y grwpiau a’r syniadau sydd wedi llunio heddwch yn y gorffennol a’u defnyddio i drafod sut mae llunio dyfodol heddychlon, gan ddod ag ymchwilwyr i mewn i sgyrsiau gyda chymunedau. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at lwyddiant yr ŵyl – yn siaradwyr, yn drefnwyr, yn bartneriaid, yn staff technegol a lletygarwch ac yn gynulleidfaoedd gwych. Diolch o galon i bawb.”