Beth rydyn ni'n ei wneud

Mae’r Ganolfan Ddeialog yn darparu hyfforddiant ac yn hyrwyddo arferion arloesol ac arweinyddiaeth gydweithredol drwy weithio mewn dulliau ychydig yn wahanol. Mae cyfranogwyr yn aml yn rhannu straeon, cyfranogi mewn gweithgareddau ymarferol sydd wedi cael eu cynllunio’n ofalus, a thrafod syniadau ar y cyd yn hytrach na dadlau â’i gilydd am safbwyntiau gwahanol. Mae’r dull hwn yn tueddu i feithrin empathi, annog creadigrwydd, ac ysgogi meddwl mewn dulliau newydd.

Mae gweithgareddau a gynhelir gan y Ganolfan Ddeialog yn creu mannau lle mae cyfranogwyr yn symud o gwmpas, gwrando ar straeon grymus, meddwl gan ddefnyddio eu dwylo, a siarad gan gyfeirio at eu profiadau a’u harbenigeddau. Mae pob profiad yn cael ei drin fel profiad gwerthfawr, ac rydyn yn annog y rhai sydd mewn swyddi uchel i wrando, dysgu, ac ymgysylltu ag eraill fel cydweithwyr o statws cyfartal.

Hyfforddiant

Mae ein cyrsiau hyfforddi yn canolbwyntio ar sgiliau angenrheidiol ar gyfer cydweithredu, cyfathrebu, hwyluso ac ymdrin â gwahaniaethau yn effeithiol mewn lleoliadau cymunedol, sefydliadol ac ymchwil.

Yn ogystal â’n cynigion rheolaidd, rydyn ni’n cynnig hyfforddiant wedi’u haddasu yn unswydd i anghenion ein cleientiaid. Mae gweithgareddau hyfforddi yn cynnwys:

  • Gweithdai a chyrsiau byr sy’n canolbwyntio ar arwain drwy gydweithredu, rheoli newid, datblygu sefydliadol, a chyfathrebu ag aelodau o’r gymuned, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau.
  • Hyfforddiant preswyl byr sy’n helpu i ymchwilwyr feithrin sgiliau a hyder wrth hwyluso cydweithredu. 
  • Ar y gweill: Cyfleoedd dysgu i fyfyrwyr a fydd yn galluogi myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth i gael profiad ymarferol ar gyfer hwyluso deialog, gweithredu cymunedol a meithrin cyswllt â’r cyhoedd er mwyn helpu i ddatrys heriau’r byd go iawn.

Man cyfarfod Gwerth Uchel

Lle pwrpasol ar gyfer deialog, cydweithio a chyfnewid gwybodaeth yw Tŷ Trafod yn y Ganolfan Ddelweddu ar Gampws Penglais. Mae Tŷ Trafod wedi cael ei gynllunio’n fedrus er mwyn gallu hybu gwell drafod a chydweithio.

   

Mae manteision y man yn cynnwys:

  • Lleoliad ymgynnull agored a chroesawgar gyda llawer o olau naturiol
  • Camerâu, meicroffonau a seinyddion ar gyfer digwyddiadau hybrid.
  • Cwpwrdd llawn deunyddiau ysgrifennu a chreu er mwyn hwyluso cyfranogi creadigol. Hefyd, mae cegin syml fach ar gael.
  • Trefniadau ystafell hyblyg sy’n addas ar gyfer gweithdai, cyfarfodydd, digwyddiadau cyhoeddus, a gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth. Gellir aildrefnu’r man ar gyfer cynlluniau lolfa, theatr, pwyllgor neu weithdy deialog. Mae yna ddigon o le ar gyfer:
  • Hyd at 40 o gyfranogwyr ar gyfer gweithdai
  • Hyd at 60 o gyfranogwyr mewn cynllun llawr theatr

Defnydd Mewnol

  • Gall staff y Brifysgol archebu’r lle am ddim drwy e-bostio dialogue@aber.ac.uk. Mae’n rhaid i’r digwyddiadau anelu at ddatrys problemau’n gydweithredol.

Llogi Allanol

  • Gall sefydliadau allanol ddefnyddio Tŷ Trafod drwy gysylltu â’n gwasanaethau cynadledda.
  • Mae’r Swyddfa Gynadledda ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau 09:00 – 17:30 ac ar ddydd Gwener 09:00 – 16:30 Ffôn: (01970) 621960 E-bost: conferences@aber.ac.uk

Meithrin Cyswllt â'r Cyhoedd a Chyfnewid Gwybodaeth

Mae’r Ganolfan Ddeialog yn cefnogi Prifysgol Aberystwyth ac ymchwilwyr eraill i feithrin cysylltiadau ystyrlon â’r cyhoedd, llunwyr polisi, ac ymarferwyr. Rydym yn dylunio ac yn darparu gweithgareddau sy’n cyfuno ymchwil, profiad byw ac ymarfer, gan greu lle ar gyfer gwrando, dysgu drwy gydweithredu, a llunio dyfodol gwell.

Mae ein gwaith yn cynnwys:

  • Dylunio a Chynnal Digwyddiadau cymunedol sy’n cynnwys ymchwilwyr, arweinwyr meddyliol, ac aelodau o’r gymuned. Rydym yn canolbwyntio ar faterion cymdeithasol pwysig ac ar ddatrys problemau drwy gydweithredu. Mae’r digwyddiadau hyn yn agored i’r cyhoedd. Fe’u cynlluniwyd er mwyn ennyn diddordeb cynulleidfaoedd amrywiol.
  • Cymorth ar gyfer prosiectau ymchwil strategol, gan gynnwys hwyluso ymchwil academaidd a chymhwysol ar ddeialog, datrys gwrthdaro, a newid systemau.
  • Trefnu fforymau cyhoeddus ac ystyried polisi sy’n ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ymchwil.
  • Cydweithredu a chreu partneriaethau gyda phrifysgolion, sefydliadau trydydd sector, asiantaethau’r llywodraeth, a phartneriaid rhyngwladol er mwyn mynd i’r afael â heriau lleol a byd-eang trwy ddulliau a seilir ar ddeialog.

Gwasanaethau Ffi-am-Wasanaeth ar gyfer Hwyluso

Mae’r Ganolfan Ddeialog yn darparu gwasanaethau hwyluso ac adeiladu tîm a gynllunnir yn unswydd er mwyn cryfhau cydweithredu, adeiladu ymddiriedaeth, a chefnogi timau i weithio’n dda gyda’i gilydd. Mae’r hwyluso rydyn ni’n ei ddarparu’n helpu grwpiau i feithrin ymdeimlad o ddiogelwch seicolegol er mwyn cynnal trafodaethau llawn parch a gonestrwydd. Hefyd, rydyn ni’n gallu helpu grwpiau i symud ymlaen drwy ystyried heriau sy’n eu hwynebu.

Rydym yn addasu pob sesiwn yn unswydd i’ch anghenion chi. Mae pob sesiwn trafod yn cael ei ffurfio ar sail eich amcanion chi. Fel rheol, maent yn gynnwys:

  • Cynllunio a dylunio agenda cyn i’r sesiwn ddechrau
  • Pob deunydd i’r gweithgareddau
  • Cynnal a hwyluso proffesiynol

 

Mae ein gwasanaethau yn addas ar gyfer cyd-destunau busnes, cymunedol, addysg a’r sector cyhoeddus, gan gynnwys gweithio ar strategaethau, datblygu partneriaethau, diwrnodau cwrdd i ffwrdd i staff, a phrosiectau sy’n ysgogi newid.

Fformatau a Phrisiau

Mae pris hwyluso yn gymesur â hyd y sesiwn a’r anghenion paratoi. Mae ffioedd ychwanegol yn berthnasol am sesiynau dwyieithog yn Gymraeg a Saesneg.

Mae’r cynlluniau nodweddiadol yn cynnwys:

  • Sesiynau byr (1–1.5 awr)
    Gweithgareddau â ffocws penodol a gynlluniwyd er mwyn creu cysylltiadau ac egni mewn digwyddiadau, cyfarfodydd, neu gynadleddau.
  • Sesiynau hanner diwrnod (3–4 awr)
    Cyrsiau strwythuredig a addaswyd yn unswydd i’ch amcanion. Maent yn cyfuno trafodaeth wedi’i hwyluso gydag ymarferion wedi’u cymhwyso a gweithgareddau ymarferol i’w cofio.
  • Sesiynau diwrnod llawn (6–7 awr)
    Rhaglenni cynhwysfawr sy’n cefnogi myfyrio, cydweithio a chynllunio gweithredu. Addas ar gyfer diwrnodau tîm cwrdd i ffwrdd, cyfarfodydd partneriaethau, a gweithdai i’r sefydliad i gyd.
  • Gwasanaethau am gyfnodau hirion

Cefnogaeth barhaus ar gyfer dylunio a chyflawni prosiectau newid neu ymgynnull hirdymor gan alluogi grwpiau i weithio trwy faterion cymhleth a datrys problemau gyda’i gilydd.

Camau Nesaf
Os hoffech ystyried gweithio gyda ni, cysylltwch â ni i drafod eich amcanion. Byddwn yn argymell dull penodol ac yn darparu cynnig wedi’i addasu i’ch cyd-destun a’ch cyllideb chi.

Prosiectau Lleol

Mae’r Ganolfan Ddeialog yn gweithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â heriau a chyfleoedd lleol. Mae gan ein prosiectau berthynas gref â’u lleoliad. Maent yn cyfrannu at Strategaeth y Brifysgol, sef newid bywydau er gwell drwy feithrin gwybodaeth, adeiladu cymunedau, ac atgyfnerthu Cymru.

Mae’r meysydd gwaith presennol yn cynnwys:

  • Dinas Llên UNESCO
  • Sofraniaeth Bwyd
  • Arloesi Democrataidd
  • Lles Iechyd ac Economïau
  • Treftadaeth a Dyfodol y Dref