Astudiaethau Achos AberCollab

Rôl ffermwyr mewn gwyddoniaeth hinsawdd a llunio polisïau

Farmer

Mae ffermwyr yn dod o dan bwysau cynyddol wrth i lunwyr polisïau edrych fwyfwy tuag at amaethyddiaeth fel modd o fynd i’r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

Gyda chyllid gan raglen AberCollab 2024-25, nod y prosiect ymchwil hwn oedd dod i ddeall yn well lle ffermwyr yn y broses llunio polisïau.

Nod arall oedd asesu i ba raddau y mae ffermwyr yn cael eu cydnabod fel deiliaid gwybodaeth werthfawr a chyfranwyr at ganlyniadau polisi llwyddiannus.

Trafodaethau bwrdd crwn

Cynhaliodd y prosiect gyfres o drafodaethau bwrdd crwn gyda ffermwyr lleol, llunwyr polisi a gwyddonwyr ym maes defnydd tir i gasglu eu barn a’u dealltwriaeth nhw o’r broses llunio polisïau hinsawdd, a lle a gwerth y gymuned amaethyddol o fewn y broses hon.

Daeth y bedwaredd a’r olaf o’r sesiynau â chynrychiolwyr o bob un o’r grwpiau hyn ynghyd i drafod canfyddiadau allweddol yn ogystal ag i nodi dulliau posibl ar gyfer datblygu cydweithio yn y dyfodol, ehangu’r astudiaeth beilot hon a dyfeisio modelau llunio polisïau hinsawdd mwy cynhwysol.

Prosiect rhyngddisgyblaethol

Prosiect rhyngddisgyblaethol oedd hwn dan arweiniad Dr Hannah Hughes o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol a’r Athro Mariecia Fraser, Pennaeth Canolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran sy’n rhan o Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).

Dywedodd Dr Hannah Hughes: “Caniataodd y prosiect AberCollab hwn inni gychwyn sgwrs ar ddulliau rhyngddisgyblaethol a all bontio a hwyluso cydweithio rhwng gwyddoniaeth, arferion ffermio a llunio polisïau hinsawdd cenedlaethol a rhyngwladol. Yn hollbwysig, caniataodd y prosiect inni gychwyn meithrin perthynas â’r gymuned ffermio leol – i glywed eu barn a’u safbwyntiau ac i rannu barn a safbwyntiau gwyddonwyr hinsawdd a llunwyr polisïau gyda nhw.”

Ychwanegodd yr Athro Mariecia Fraser: “Dadlenodd ein hastudiaeth ganfyddiad o ddiffyg ymddiriedaeth a chyfathrebu rhwng y gwahanol grwpiau yn ogystal â diffyg tryloywder ynghylch sut mae polisi’n cael ei lunio a’r dystiolaeth sy’n sail iddo. Drwy ffurfio’r cydweithrediadau hyn, ein gobaith yw tynnu sylw at bwysigrwydd cynnwys ffermwyr yn gynnar mewn llunio polisïau llwyddiannus – a’r cyfoeth o wybodaeth sydd ganddynt am y tir a natur.”

Mae’r tîm ymchwil bellach yn bwriadu ehangu’r prosiect i’w galluogi i nodi ac archwilio modelau newydd o gyd-greu polisi hinsawdd gydag amrywiaeth o gymunedau lle mae lliniaru ac addasu i’r hinsawdd yn golygu bod angen ffyrdd newydd o drefnu a chynnal eu bywydau a’u bywoliaeth.

Adroddiad AberCollab ac Astudiaethau Achos

 

Adroddiad AberCollab
2024-25

 

Rheoli poblogaethau crancod Tsieineaidd goresgynnol drwy gydweithio Ewropeaidd  

Creu Cylchgrawn
Cydweithredol: Adfywio Economaidd
a 
Datblygu Cymunedol