Prosiectau Lleol
Rydyn ni’n gweithio gydag ymchwilwyr, busnesau, arweinwyr cymunedol, a sefydliadau’r trydydd sector i gefnogi dysgu a gweithio ar y cyd.

Beth rydym ni’n ceisio ei gyflawni?
Mae Dinas Llên yn gyfle i ddefnyddio hunaniaeth Aberystwyth fel Dinas Llenyddiaeth UNESCO i greu newid cadarnhaol ar draws ein rhanbarth.
Mae’n dod â llenyddiaeth, iaith a chreadigrwydd ynghyd â rhai o’r cwestiynau mawr sy’n wynebu ein cymunedau, o’r amgylchedd a lles i iaith, twristiaeth a pherthyn. I staff y Brifysgol, mae’n creu cyfleoedd i roi cynnig ar syniadau newydd, gweithio gyda phartneriaid newydd a throi ymchwil, arbenigedd a chreadigrwydd yn weithgaredd sy’n creu argraff wirioneddol yn lleol.
Fel Dinas Llenyddiaeth UNESCO, rhaid i Aberystwyth ddangos sut mae llenyddiaeth a chreadigrwydd yn cyfrannu at ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd yr ardal. Er mwyn cynnal y penodiad, rhaid i ni ddangos sut mae teitl Dinas Llenyddiaeth yn arwain at dwf y ddinas dros amser. Rhaid i bob prosiect ddatblygu o leiaf un o’r themâu canlynol:
Darllen y Dirwedd
Nod: Harneisio diwylliant, iaith a llenyddiaeth i’n helpu i ddeall, tystio a chynyddu gwydnwch cymunedol mewn cyfnod o argyfwng amgylcheddol.
Mae Darllen y Dirwedd yn seiliedig ar y ddealltwriaeth bod heriau amgylcheddol, yn ogystal â bod yn faterion gwyddonol neu dechnegol, yn gymdeithasol a diwylliannol hefyd. Mae’r thema hon yn archwilio sut y gall llenyddiaeth, creadigrwydd ac adrodd straeon helpu pobl i wneud synnwyr o amgylcheddau sy’n newid a chryfhau’r berthynas â lle. Uchelgais y golofn hon yng ngwaith Dinas Llên o ran newid tymor hir yw meithrin gwell dealltwriaeth, cysylltiad a gwytnwch cymunedol trwy greu ffyrdd newydd i bobl ymgysylltu â thirweddau, gwybodaeth amgylcheddol a dyfodol a rennir.
Geiriau a Straeon Bob Dydd
Nod: Sicrhau bod llenyddiaeth yn cyfoethogi bywyd pawb drwy’r Ddinas gyfan.
Mae Geiriau a Straeon Bob Dydd yn seiliedig ar y gred y gall llenyddiaeth a chreadigrwydd gyfrannu at les, cysylltiad a pherthyn pan fyddant yn dod yn rhan o fywyd bob dydd. Mae’r thema hon yn ceisio democrateiddio llenyddiaeth trwy greu cyfarfyddiadau llawen ac ystyrlon gyda straeon ac iaith mewn lleoliadau bob dydd. Uchelgais hirdymor y thema hon yw cryfhau cydlyniant cymunedol, lleihau rhwystrau i gyfranogiad a chreu diwylliant lle caiff mwy o bobl weld perthnasedd llenyddiaeth a chreadigrwydd i’w bywydau eu hunain.
Agor Llyfrau
Nod: Cyfrannu at atal y dirywiad a welir ar hyd y Deyrnas Unedig o ran cariad at lyfrau ac at ddarllen, a chynyddu lefelau llythrennedd er mwyn budd addysgol a lles.
Mae Agor Llyfrau yn canolbwyntio ar adeiladu diwylliant cryfach o ddarllen yn ardal y Ddinas a helpu mwy o bobl i ddatblygu perthynas gydol oes â llyfrau a straeon. Ei nod yw ehangu cyfranogiad, cefnogi llythrennedd a lles, a chreu cyfleoedd i blant, teuluoedd a chymunedau ymgysylltu ag ysgrifennu a darllen mewn ffyrdd ystyrlon a pharhaol.
Pontydd Llenyddol
Nod: Cysylltu ieithoedd sydd mewn perygl er mwyn meithrin gwytnwch ar gyfer amrywiaeth ieithyddol gynaliadwy ledled y byd.
Mae Pontydd Llenyddol yn seiliedig ar y ddealltwriaeth bod ieithoedd yn cario diwylliant, hunaniaeth a ffyrdd o ddeall y byd. Mae’r thema hon yn cydnabod bod angen sgwrsio a pherthynas ystyrlon rhwng cymunedau er mwyn cryfhau amrywiaeth ieithyddol. Uchelgais hirdymor y thema hon yw adeiladu gwytnwch diwylliannau lleiafrifol ac amlieithog trwy greu cyfleoedd i gysylltu, cyfnewid a chydweithio rhwng awduron, cymunedau a lleoedd ar draws rhwydwaith UNESCO a thu hwnt.
Goleudai Llên
Nod: Defnyddio ein treftadaeth lenyddol unigryw i helpu i ddatblygu model twristiaeth gynaliadwy sy’n adfywio cymunedau, iaith, diwylliant ac amgylchedd.
Mae’r Goleudai Llên yn seiliedig ar y gred y gall llenyddiaeth a threftadaeth ddiwylliannol sbarduno datblygiad cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd ehangach. Mae’r thema hon yn ceisio cryfhau lleoedd fel canolfannau creadigrwydd a chysylltiad, gan ddefnyddio hunaniaeth lenyddol i gefnogi cymunedau bywiog a thwristiaeth ddiwylliannol gynaliadwy. Yr uchelgais hirdymor yma yw creu rhwydwaith o gyrchfannau llenyddol a diwylliannol sy’n cryfhau balchder lleol, yn creu cyfle ac yn cyfrannu at leoedd ac economïau gwydn.
Heddwch Cadarnhaol
Nod: Cryfhau enw da a safle Cymru fel Cenedl Noddfa a Chenedl Heddwch.
Mae Heddwch Cadarnhaol yn seiliedig ar y ddealltwriaeth bod heddwch yn cael ei feithrin trwy berthnasoedd, sgwrsio a chyd-ddealltwriaeth yn hytrach na dim ond diffyg gwrthdaro. Mae’r thema hon yn archwilio sut y gall llenyddiaeth, adrodd straeon a chreadigrwydd greu cyfleoedd ar gyfer empathi, cysylltiad a chodi pontydd rhwng cymunedau a diwylliannau. Uchelgais hirdymor y thema hon yw cryfhau diwylliannau heddwch, cynhwysiant a pherthyn yn lleol ac yn rhyngwladol trwy ddulliau creadigol sy’n cefnogi dealltwriaeth a chymodi.
Sut mae’n gweithio
Mae Dinas Llên yn croesawu syniadau gan staff ar gyfer gweithgareddau a phrosiectau. Yn hytrach na gofyn am gynnig gorffenedig, byddwn yn gweithio gyda chi i ddatblygu eich syniad. Mae hyn yn helpu i gysylltu pobl sy’n gweithio ar themâu tebyg, datblygu partneriaethau cryfach a gwella prosiectau cyn gwneud penderfyniadau cyllido.
Mae’r broses hefyd yn rhoi lle i ni roi syniadau newydd ar brawf a dysgu o’r hyn rydym ni’n ei wneud.
1. Rhannwch eich syniad a threfnwch sgwrs
Llenwch y ffurflen fer i roi gwybod inni am eich syniad a threfnu sgwrs 30 munud.
Nid oes angen i’ch syniad fod wedi ei ddatblygu’n llawn.
Rhannu eich syniad a threfnu sgwrs
2. Sgwrs anffurfiol
Cewch drafodaeth anffurfiol gydag un aelod o Dinas Llên a thîm arweinyddiaeth cyfraniadau dinesig lleol. Mae’r tîm yn cynnwys y Cadeirydd, Matthew Jarvis, Dirprwy Gadeirydd, Dr Hywel Griffiths, Arweinydd y Ganolfan Ddeialog, Dr Jen Wolowic.
Sgwrs ddatblygu yw hon, nid cyfarfod cymeradwyo.
Byddwn yn trafod ac yn rhoi adborth ar:
- beth rydych chi eisiau ei wneud
- sut mae’n cefnogi thema Dinas Llên
- ei effaith ddinesig bosib
- partneriaid a chydweithredwyr
- cyfleoedd am gymorth neu gyllid
3. Datblygwch eich syniad
Defnyddiwch y sgwrs i ddatblygu eich prosiect a dod â phartneriaid neu gyfranogwyr perthnasol yn rhan o’r syniad.
Yna llenwch y Templed Cysyniad Prosiect.
Lawrlwytho Templed Cysyniad Prosiect
4. Cyflwyno i’w adolygu
Cyflwynwch Dempled Cysyniad Prosiect wedi’i lenwi erbyn y dyddiad cau chwarterol nesaf.
Cofiwch gynnwys:
- nod y prosiect a thema Dinas Llên
- partneriaid a chydweithredwyr
- sut y gwnaeth eraill helpu i lunio’r prosiect
- canlyniadau arfaethedig
- cyllideb ac amserlen
Caiff y prosiectau eu hadolygu o ran aliniad, cydweithio, effaith, dysgu, gwerthuso, dichonoldeb a’r potensial ar gyfer cyllid yn y dyfodol.
Dyddiadau cau 2026/27:
- 20 Hydref, 2026
- 5 Ionawr 2027
- 1 Ebrill 2027
- 30 Gorffennaf 2027
5. Derbyn argymhelliad
Mae’r canlynol yn bosib yn y broses argymell:
- ariannu’r prosiect neu ei ariannu’n rhannol
- ariannu’r prosiect gyda newidiadau
- dychwelyd y prosiect i’w ddatblygu ymhellach
- cysylltu’r prosiect â gweithgaredd arall neu bartneriaid eraill
- cyfeirio’r prosiect at sylw partneriaeth ehangach Dinas Llên
- cadw’r prosiect ar gyfer y rownd gyllido nesaf
6. Cyflwyno eich prosiect
Ar ôl ei gymeradwyo, bydd eich prosiect yn cael ei adolygu gan bartneriaeth Dinas Llên ar gyfer caniatâd brandio, a byddwch yn derbyn gwybodaeth cyfarwyddyd, brandio a gwerthuso Dinas Llên.
Bydd arweinwyr prosiect yn mynychu diweddariadau prosiect rheolaidd, yn rhannu cynnydd ac yn gweithio gyda’r Ganolfan Ddeialog ar werthuso.

Beth rydym ni’n ceisio ei gyflawni?
Mae Tyfu Aberystwyth yn cydnabod bod cymunedau’n ffynnu pan fydd gan bobl fynediad dibynadwy at fwyd iach, cyfleoedd i ddatblygu sgiliau ymarferol, a mwy o allu i ymdopi â newid economaidd ac amgylcheddol. Nod y thema hon yw cryfhau diogelwch bwyd lleol drwy gefnogi tyfu bwyd, datblygu sgiliau, rhannu gwybodaeth a chyfranogiad cymunedol. Bydd hefyd yn edrych ar sut y gall asedau’r Brifysgol a’r gymuned nad ydynt yn cael eu defnyddio i’w llawn botensial greu cyfleoedd newydd i gynhyrchu bwyd yn lleol, dysgu a byw’n fwy cynaliadwy. Yn y tymor hir, ein huchelgais yw helpu Aberystwyth i fod yn lle mwy gwydn, lle mae pobl yn gallu dibynnu mwy ar fwyd a dyfir yn lleol. Drwy greu cyfleoedd i gydweithio, cymryd rhan, arloesi a gofalu am yr amgylchedd, gallwn helpu i adeiladu systemau bwyd lleol cryfach sy’n cyfrannu at les y gymuned, cynaliadwyedd a gwydnwch y rhanbarth.
Maes Dysgu Aber Learning Field
Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn cyfuno hanes, tyfu bwyd, bioamrywiaeth, lles a chymuned sy’n barod i dorchi llewys?
Yn 2026, dechreuodd Prifysgol Aberystwyth ac Eco Hub Aber gydweithio ym Maes Dysgu Aber Learning Field. Mae’r prosiect yn cynnig rhandiroedd cymunedol, gweithgareddau tyfu cynaliadwy a ffyrdd newydd i bobl leol gymryd rhan mewn tyfu bwyd, dysgu a threulio amser yn yr awyr agored.
Mae’r bartneriaeth yn adeiladu ar safle nad yw llawer o bobl leol efallai’n gwybod amdano. Ychydig dros bedair blynedd yn ôl, creodd staff yr Adran Hanes a Hanes Cymru ardd ‘Dig for Victory’, wedi’i hysbrydoli gan ganllawiau garddio a’r ymgyrchoedd tyfu cymunedol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ers hynny, mae’r safle wedi parhau i dyfu. Bellach mae’n croesawu mwy na 30 o fyfyrwyr ar y tro yn rheolaidd ac mae’n cynnwys sawl man tyfu unigryw.
Wrth ymyl Perllan Ffrwythau a Chnau Treftadaeth Penglais, gall ymwelwyr weld Gwely’r Tair Chwaer, sy’n cael ei reoli gan fyfyrwyr ac sydd wedi’i ysbrydoli gan ddulliau tyfu brodorol Mesoamerica. Mae Gardd Berlysiau Meddyginiaethol Ganoloesol Aber yno hefyd, sy’n archwilio planhigion meddyginiaethol a bwydydd a ddefnyddid yn yr Oesoedd Canol.
Gyda’i gilydd, mae’r mannau hyn yn adrodd stori gyffredin: ar draws cyfnodau a diwylliannau, mae cymunedau trefol wastad wedi dod o hyd i ffyrdd o dyfu bwyd yn agos at adref, rhannu gwybodaeth a chefnogi ei gilydd.
Bellach, mae Eco Hub yn helpu i barhau â’r stori hon yn Aberystwyth drwy sefydlu rhagor o randiroedd cymunedol ac ehangu’r gwaith compostio a’r dulliau tyfu cynaliadwy ar y Maes Dysgu.
Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys systemau compostio gwell, toiled compostio a thwnnel polythen. Bydd y rhain yn dangos ffyrdd ymarferol o gynhyrchu bwyd a byw gan leihau’r effaith ar yr amgylchedd.
Mae gweithgareddau Eco Hub ar y maes yn cael eu cefnogi gan gyllid gan Gyngor Sir Ceredigion, Partneriaeth Bwyd Ceredigion a Cadwch Gymru’n Daclus.
Bydd yr ychwanegiadau newydd hyn yn cyd-fynd â mannau dysgu hanesyddol y safle, gan gysylltu gwersi o’r gorffennol â’r ffordd y mae pobl yn tyfu bwyd heddiw.

Beth rydym yn ceisio ei gyflawni?
Mae Aberystwyth Gynhwysol yn cydnabod bod ymdeimlad o berthyn, cael eich gweld a’ch cydnabod, a pherthnasoedd ystyrlon rhwng pobl o wahanol gefndiroedd yn cryfhau cymunedau. Nod y thema hon yw dathlu amrywiaeth Aberystwyth, gan gynnwys ei hunaniaeth ddwyieithog Gymraeg a Saesneg, ei chymunedau LGBTQ+ a rhyngwladol, a’i hunaniaethau cymunedol ehangach, gan greu cyfleoedd i bobl gysylltu a rhannu profiadau. Yn y tymor hir, ein huchelgais yw meithrin diwylliant dinesig hyderus a chroesawgar, lle caiff amrywiaeth ei chydnabod fel cryfder a lle mae pobl yn profi Aberystwyth fel lle bywiog, cynhwysol sydd â chysylltiadau â’r byd.