Amdanom Ni

Rydyn ni’n gweithio gydag ymchwilwyr, busnesau, arweinwyr cymunedol, a sefydliadau’r trydydd sector i gefnogi dysgu a gweithio ar y cyd.

Ymchwilwyr

Rydyn ni’n gweithio gydag ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r tu hwnt i gryfhau eu cydweithredu a’u cyfnewid gwybodaeth mewn modd ystyrlon ar bob cam o’u gwaith ymchwil.

Rydym yn cefnogi ymchwilwyr drwy drefnu:

  • Cyrsiau hyfforddiant byrdymor a phreswyl, sy’n meithrin ymchwilio ar y cyd, gweithio mewn partneriaeth, ac arwain drwy gydweithredu.
  • Hwyluso prosiectau ymchwil a phartneriaethau, gan gynnwys gweithdai, llunio agendâu, a sgyrsiau strategol.
  • Meithrin cyswllt â’r cyhoedd a chyfnewid gwybodaeth, gan gynnwys dylunio a hwyluso digwyddiadau cyhoeddus a gweithgareddau rhannu ymchwil.
  • Cymorth ar gyfer prosiectau ymchwil strategol a chymhwysol, yn enwedig y rhai sy’n ymchwilio i heriau cymhleth ym meysydd cymdeithas, cymunedau, a systemau.

Busnesau

Rydyn ni’n helpu busnesau a sefydliadau i weithio’n fwy effeithiol gyda’i gilydd, yn enwedig lle mae angen arwain drwy gydweithredu, trawsnewid strategol, a rheoli newid.

Mae ein gwaith gyda busnesau’n cynnwys:

  • Gweithdai ffi-am-wasanaeth ar gyfer hwyluso a meithrin gwaith tîm, a gynlluniwyd er mwyn meithrin ymddiriedaeth, hybu cyfathrebu, a chefnogi sesiynau datrys problemau’n gydweithredol a/neu sesiynau strategaeth.
  • Hyfforddiant arwain a datblygu sgiliau, gan gynnwys arwain drwy gydweithredu, cyfathrebu, ac ymdopi ag anghytundeb yn adeiladol.
  • Dylunio a hwyluso digwyddiadau i grwpiau mawr megis cynadleddau a chyfarfodydd partneriaeth.

Y Sector Cyhoeddus ac Awdurdodau Lleol

Rydym yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus a chyrff llywodraethol i gefnogi deialog ar faterion cymhleth a dadleuol. Rydym yn helpu sefydliadau eraill i ddatblygu dealltwriaeth ac arweiniad cydweithredol ar gyfer heriau lleol a rhanbarthol.

Rydym yn cefnogi arweinyddiaeth gymunedol drwy:

  • Hwyluso trafodaethau penderfynu’n strategol, gan gynnwys cyfarfodydd partneriaethau a mentrau i leoliadau penodol
  • Hyfforddiant a datblygu arweinyddiaeth sy’n canolbwyntio ar arwain drwy gydweithredu a gweithio ar draws gwahaniaethau
  • Cynnal gweithgareddau meithrin cyswllt â’r cyhoedd a deialog ymgynghorol sy’n dod ag arferion gorau’r byd i amgylchiadau lleol.
  • Cynnal digwyddiadau cymunedol lle gall llunwyr polisi, ymarferwyr, ymchwilwyr, ac aelodau o’r gymuned gwrdd gyda’i gilydd

Sefydliadau'r Trydydd Sector

Rydym yn gweithio gydag elusennau a sefydliadau’r trydydd sector er mwyn cefnogi cydweithredu, dysgu a gweithio mewn partneriaeth.

Rydym yn gweithio gyda sefydliadau’r trydydd sector drwy:

  • Hwyluso ar gyfer datblygu tîm er mwyn cynorthwyo sefydliadau i fyfyrio, cyfannu, a gweithio’n fwy effeithiol gyda’i gilydd.
  • Hyfforddiant a datblygu sgiliau trafod, cyfathrebu, a hwyluso
  • Cyfranogiad mewn mentrau cymunedol, partneriaethau ymchwil, a gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth
  • Dylunio a chynnal uwchgynadleddau lle gall llunwyr polisi, ymarferwyr, ymchwilwyr ac aelodau o’r gymuned gwrdd gyda’i gilydd.

Cymunedau Lleol

Rydym yn gweithio ochr yn ochr â chymunedau lleol yn ardal Aberystwyth er mwyn dysgu am yr heriau a chyfleoedd sy’n wynebu’r ardal i gyd drwy drafod a chydweithio. Mae gan ein gwaith wreiddiau yn ei lleoliad a ffurf a gynlluniwyd gan ddefnyddio gwybodaeth a blaenoriaethau lleol.

Mae ein gwaith gyda chymunedau lleol yn cynnwys:

  • Mentrau a phrosiectau mewn lleoliadau penodol, er enghraifft Dinas Llên, Sofraniaeth Bwyd, Arloesi Democrataidd, Lles ar gyfer Iechyd ac Economïau, a Dathliadau’r Dref
  • Digwyddiadau sy’n canolbwyntio ar y gymuned, yn ogystal â gweithgareddau deialog a dysgu
  • Darparu cysylltiadau rhwng aelodau o staff academaidd ac arweinwyr cymunedol a sefydliadau lleol ar gyfer cydweithredu’n well ar y materion sy’n bwysig iddyn nhw