Cefndir
Mae Canolfan Ddeialog Aberystwyth yn lleoli’r Brifysgol fel catalydd a chynullydd ar gyfer dod â grwpiau amrywiol ynghyd i fynd i’r afael â heriau lleol a byd-eang. Mae’r prosiectau sy’n cael ein cefnogaeth yn creu effaith trwy weithio mewn partneriaeth â chymunedau amrywiol, rhannu a datblygu ar bob math o wybodaeth, a sbarduno ymchwil i ganfod datrysiadau parhaol i heriau sy’n peri pryder cyffredin.
Roedd y syniad o sefydlu Canolfan Ddeialog yn ffurfiol yn cyd-fynd â dau ddatblygiad allweddol – yr ymgyrch i drawsnewid adeilad eiconig Hen Goleg y Brifysgol a lansiad Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru 2020 gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, gyda’r nod o gefnogi gweithgareddau arloesi presennol a chynyddu gallu’r prifysgolion i gefnogi
sefydliadau ar draws eu rhanbarth.
Dychmygwyd y Ganolfan Ddeialog fel fframwaith cydlynol ar gyfer cadarnhau ac atgyfnerthu gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth y Brifysgol. Enillodd y cysyniad ei blwyf ymhellach yn dilyn cyfres o drafodaethau ac ymweliadau swyddogol rhwng Prifysgol Aberystwyth a Chanolfan Ddeialog Morris J. Wosk ym Mhrifysgol Simon Fraser Morris, Vancouver, Canada.
Lansiwyd y Ganolfan Ddeialog yn swyddogol ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddiwedd 2022, gyda’i Phrif Arweinydd, Dr Jennifer Wolowic, yn cychwyn ar ei rôl arweinyddol yn gynnar yn 2023. Yn ystod haf 2023, bydd Tŷ Trafod Ymchwil yn agor yn adeilad trawiadol y Ganolfan Ddelweddu ar Gampws Penglais. Bydd y gofod hwn, sydd wedi’i gynllunio’n bwrpasol, yn hwb i gyfleoedd busnes dydd i ddydd a datblygiadau ymchwil, yn ogystal ag yn lle i gynnal digwyddiadau deialog blaenllaw hygyrch a chynhwysol.
Mae darpar gartref pwrpasol y Ganolfan Ddeialog yn yr Hen Goleg yn datblygu ar draddodiad hir a chryf y Brifysgol o genhadaeth ddinesig, trwy greu cartref go iawn i gymunedau, busnes ac ymchwilwyr amrywiol i gyfarfod ac ysgogi creu newid cadarnhaol.
Yn y cyfamser, rydym yn pwyso ar arfer gorau o bob cwr o’r byd ac ar yr un pryd yn creu canolfan sy’n diwallu anghenion penodol ein Prifysgol ni a’n cymuned leol a byd-eang.
Camau Datblygu
Mae’r Ganolfan Ddeialog ar ddechrau rhaglen sy’n esblygu. Yn 2023, rydym yn cychwyn ar ein cyfnod tyfu gan weithio tuag at ddatblygu ein lleoliad a’n gweithgareddau at y dyfodol:
1. Creu
Cyfuno gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth newydd a phresennol o fewn fframwaith strategol y Ganolfan Ddeialog, sefydlu canolfannau strategol a chynnal prosiectau arddangos peilot.
2. Tyfu
Tyfu model cynaliadwy o ddarparu sgiliau gwasanaethau ymgynghori a chefnogaeth datblygu busnes sy’n ennyn enw da rhanbarthol cadarn.
3. Adleoli
Pan fydd gwaith adnewyddu ar yr Hen Goleg wedi’i gwblhau, bydd gan y Ganolfan Ddeialog gartref newydd ar bromenâd Aberystwyth. Bydd y cyfleusterau pwrpasol, rhaglenni ieuenctid, gwasanaethau ymgynghori arhaglenni cymorth entrepreneuriaeth yn datblygu enw da byd-eang.
4. Gweithredu Cynaliadawy
Mae’r cam olaf hwn yn canolbwyntio ar atgyfnerthu cynaliadwyedd ariannol y Ganolfan Ddeialog ar gyfer y dyfodol wrth hwyluso arloesi ac effaith. Ein huchelgais hirdymor yw i’r Ganolfan Ddeialog ddatblygu’n fagned byd-eang ar gyfer arloesi ym maes cyfnewid gwybodaeth ac arfer a hwyluso deialog.