Gareth Bonello/The Gentle Good, Mererid Hopwood, Dairena Ní Chinnéide

Digwyddiad: Gareth Bonello/The Gentle Good, Mererid Hopwood, Dairena Ní Chinnéide

Amser: 7.30yh

Dyddiad: Nos Fawrth 10 Mawrth

Lleoliad: Canolfan Arad Goch, Stryd y Baddon, Aberystwyth

Tocynnau: Am ddim ond rhaid cadw lle ymlaen llaw trwy e-bostio post@aradgoch.org

 

Gareth Bonello / The Gentle Good singer playing guitar
Dairena Ní Chinnéide

Ar y 10fed o Fawrth yng Nghanolfan Arad Goch, bydd Gareth Bonello / the Gentle Good yn sgwrsio gyda’r Athro Mererid Hopwood am ei albwm Elan, ac yn perfformio’r caneuon a ysbrydolwyd gan dirwedd a hanes Cwm Elan.

Bydd y bardd o Iwerddon Dairena Ní Chinnéide hefyd yn perfformio ei cherddi, a chawn glywed cyfieithiadau Cymraeg Mererid o’i gwaith. Bardd dwyieithog sy’n ysgrifennu mewn Gwyddeleg a Saesneg yw Dairena Ní Chinnéide. Ei dwy gyfrol ddiweddaraf, o’r 12 a gyhoeddodd eisoes, yw Teacht Aniar Meascra Dánta 2004-2024’ (Éabhlóid 2024),  a Tairseach (Éabhlóid, 2022); deleted, (Salmon Poetry, 2019) yw ei chasgliad cyntaf yn Saesneg. Mae hi’n gyfieithydd, ac yn gyn-gynhyrchydd teledu a newyddiadurwraig.

Darperir cyfieithu ar y pryd. Ariennir y digwyddiad yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.

File sa dá theanga í Dairena Ní Chinnéide. I measc 12 gcnuasach foilsithe aici tá Teacht Aniar Meascra Dánta 2004-2024 (Éabhlóid 2024), Tairseach (Éabhlóid 2022), Fé Gheasa:Spellbound (Arlen House 2016), Cloithear Aistear Anama (Coiscéim 2013) agus An Trodaí & Dánta Eile / The Warrior & Other Poems (Cló Iar Chonnacht 2006).

Dathlu Dinas Llên

Mae’r digwyddiadau yma’n rhan o raglen o weithgareddau sy’n cael eu trefnu yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth 2026 i ddathlu cydnabyddiaeth Aberystwyth Ceredigion fel Dinas Llên gyntaf Cymru. Mae manylion pellach am ddigwyddiadau’r Brifysgol i’w cael ar y wefan yma a gwybodaeth am bartneriaeth Dinas Llên ar eu gwefan nhw.