Mwy na dim ond llinell ar y map: Teithiau cerdded a gweithdai ysgrifennu
Dyddiadau: 14 a 15 Mawrth 2026
Ydych chi wastad wedi eisiau sgwennu am eich milltir sgwâr, ond yn ansicr lle i ddechrau? Ydych chi erioed wedi eisiau gwybod sut mae afonydd ac arfordir Aberystwyth wedi newid dros amser?
Sut allwn ni ‘ddarllen’ a ‘sgwennu’ tirwedd Aberystwyth? Pa ysbrydoliaeth allwn ni ei ganfod yn ei amgylchedd newidiol?
Ymunwch â sgwennwyr, artistiaid a daearyddwyr ar deithiau cerdded a gweithdai ysgrifennu creadigol er mwyn archwilio tirweddau newidiol afonydd ac arfordir Aberystwyth a dechrau taith sgwennu newydd.
Gallwch ddewis dod naill ai ar ddydd Sadwrn 14 Mawrth neu ddydd Sul 15 Mawrth neu’r ddau ddiwrnod – ac mae croeso i chi aros am yr wyth awr neu fynd a dod yn ôl eich dymuniad. Mae manylion pellach yn cynnwys yr amserlen i’w cael isod.
Does dim angen profiad blaenorol o ysgrifennu ac mae croeso mawr i bawb, gan gynnwys plant cyhyd a bod rhiant neu warcheidwad gyda nhw.
Mae’r gweithgareddau yn rhad ac am ddim ond mae nifer y llefydd yn gyfyngedig felly mae angen cofrestru ymlaen llaw trwy e-bostio hmg@aber.ac.uk erbyn diwedd dydd Mercher 11 Mawrth, gan nodi unrhyw anghenion dietegol neu hygyrched.
Bydd angen dillad addas ar gyfer y tywydd ac esgidiau cyffyrddus.
Mae’r digwyddiadau yma’n rhan o raglen o weithgareddau sy’n cael eu trefnu yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth 2026 i ddathlu cydnabyddiaeth Aberystwyth Ceredigion fel Dinas Llên gyntaf Cymru. Mae manylion pellach am ddigwyddiadau’r Brifysgol i’w cael ar y wefan yma a gwybodaeth am bartneriaeth Dinas Llên ar eu gwefan nhw.
Dyddiad: Dydd Sadwrn 14 Mawrth
Amser: 12:30 – 20:30
Lleoliad: Aberystwyth
Mwy na dim ond llinell ar y map – Afon Rheidol
Taith gerdded a gweithgareddau creadigol dan ofal Nuala Dunn, Hywel Griffiths, Dewi Roberts, Brian Swaddling a Stephen Tooth.
Amserlen y dydd
12.30 – Cwrdd ger yr ‘Hut’ ar draeth y de
12.30-16.30 – taith gerdded a gweithgareddau creadigol ar hyd afon Rheidol
16.30-17.30 – lluniaeth yng Nghanolfan Arad Goch, Stryd y Baddon.
18.00-20.30 – gweithdy yng Nghanolfan Arad Goch, Stryd y Baddon.
Mae’r digwyddiad am ddim ond mae angen cadw lle ymlaen llaw trwy e-bostio hmg@aber.ac.uk erbyn 11 Mawrth, gan nodi unrhyw anghenion dietegol neu hygyrchedd.
Dyddiad: Dydd Sul 15 Mawrth
Amser: 12:30 – 20:30
Lleoliad: Aberystwyth
Mwy na dim ond llinell ar y map: Arfordir Aber
Taith gerdded a gweithgareddau creadigol dan ofal Nuala Dunn, Hywel Griffiths, Dewi Roberts, Brian Swaddling a Stephen Tooth.
Amserlen y dydd
12.30 – Cwrdd ger yr ‘Hut’ ar draeth y de
12.30-16.30 – taith gerdded a gweithgareddau creadigol ar hyd y prom
16.30-17.30 – lluniaeth yng Nghanolfan Arad Goch, Stryd y Baddo.
18.00-20.30 – gweithdy yng Nghanolfan Arad Goch, Stryd y Baddon
Mae’r digwyddiad am ddim ond mae angen cadw lle ymlaen llaw trwy e-bostio hmg@aber.ac.uk erbyn 11 Mawrth, gan nodi unrhyw anghenion dietegol neu hygyrchedd.
Cysylltwch â ni | Contact Us
Dr Jennifer Wolowic
Principal Lead, Dialogue Centre
✉️ jew51@aber.ac.uk
📞 0 77700 43721
✉️ dialogue@aber.ac.uk
🌐 aber.ac.uk/dialogue