Adroddiad AberCollab 2024-25

AberCollab 2024-25

Mae meithrin cydweithrediad rhwng academyddion, busnesau, llunwyr polisi a sectorau eraill yn allweddol i’n cenhadaeth fel Canolfan Ddeialog.  

Fe’i gwneir am ein bod yn gwybod y gall cydweithio gryfhau canlyniadau ymchwil, hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth gwerthfawr a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymdeithas. 

Roedd y fenter yn cynnig cefnogaeth i weithdai a digwyddiadau rhwydweithio oedd yn hwyluso cydweithrediad rhwng ymchwilwyr a phartneriaid allanol y Brifysgol ac yn helpu i ddatblygu ymchwil sydd o fudd i’r cyhoedd ehangach.    

Roedd AberCollab yn agored i ymchwilwyr o bob disgyblaeth ac yn cynnwys hyfforddiant gofynnol mewn arwain gweithdai cydweithredol yn ogystal â chefnogaeth i gynnal digwyddiad ymchwil neu brosiect oedd yn cynnwys partneriaid a chymunedau allanol. 

Ar ôl cwrdd â chynifer o hwyluswyr dawnus sy’n gweithio yn yr ardal, mae Canolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cyfarfod anffurfiol i ddod â rhai ohonoch at ei gilydd. Efallai’ch bod chi’n gweithio ym maes datblygu cymunedol, cynaliadwyedd, meithrin cyswllt, hyfforddi neu gyfranogi, neu ddim ond yn eich cael eich hun yn rheolaidd yn helpu grwpiau i feddwl, siarad a gweithio’n well gyda’i gilydd.

  • 6 Hydref
  • 19:00
  • Gwin y Môr, Aberystwyth

Cynhelir yr achlysur hwn er anrhydedd i Sarah Fielding ac Ireland Twiggs o Co-operation Ireland, sy’n ymweld ag Aberystwyth i ddysgu o’r Ganolfan Ddeialog a rhannu eu profiad eu hunain. Mae Sarah yn gweithio ar adsefydlu cyn-garcharorion a chyn-ymladdwyr, ac mae Ireland yn gweithio ar ddemocratiaeth gydgynghorol, deialog a thechnoleg heddwch.

Dewch draw i gwrdd â’r hwyluswyr a’r ymarferwyr cymunedol eraill, cyfnewid straeon a syniadau, a threulio amser gyda phobl sy’n gwybod mai nid ar chwarae bach mae cael grŵp o bobl i gydweithio’n dda â’i gilydd.

Ar gyfer staff Prifysgol Aberystwyth a myfyrwyr PGR yn unig. E-bostiwch jew51@aber.ac.uk i fynegi diddordeb mewn ymuno.

Arweiniwyd y prosiectau gan academyddion ar wahanol gyfnodau yn y cylch ymchwil – o’r rhai yn y cyfnod cwmpasu a’r rhai wrthi’n ymchwilio’n weithredol, i brosiectau ymchwil yn eu cyfnod diweddarach oedd yn ceisio ehangu eu potensial i greu argraff. Roeddent yn cynnwys:

 

  • Gweithdy ac arddangosfa safle ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dod ag amrywiaeth o bartneriaid at ei gilydd i archwilio cyfleoedd i gynyddu cynaliadwyedd y system fwyd, rhoi gwerth ar wastraff ac arloesi cynhwysion cylchol. (Gwyddorau Bywyd)
  • Dod ag academyddion, artistiaid a chynrychiolwyr o gymdeithasau proffesiynol dethol, sefydliadau diwylliannol a sefydliadau treftadaeth ynghyd. Gyda’r nod o ddatblygu prosiect ymchwil sy’n edrych ar hanes a dylanwad theatr safle benodol yng Nghymru. (Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu)
  • Cyfarfodydd ffurfiol gydag uwch ffigyrau yn y Llywodraeth, addysg a’r Gymraeg i ffurfio canolbwynt ar gyfer cyflymu ymchwil yr Ysgol Ieithoedd a Llen i ysgolion (Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd)
  • Gweithgaredd ymchwil a rhwydweithio personol wedi’i lunio o amgylch gweithdy Perfedd-Ymennydd Alzheimer yn San Diego er mwyn dylanwadu ar gynllunio astudiaeth yn y dyfodol, cyfleoedd cydweithredol, a lleoliad strategol rhaglen ymchwil. (Gwyddorau Bywyd)
  • Gweithdy undydd i lansio canfyddiadau prosiect a ariennir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (Hyb ACE Cymru), Llwybr Cymreig at Heddwch. Roedd y gweithdy’n arddangos deunyddiau ac yn ail-ymgysylltu â chydweithwyr gwreiddiol, gyda’r nod o sefydlu cynlluniau ar gyfer hyrwyddo’r datblygiad a’r drafodaeth ynghylch Llwybr Cymreig at Heddwch yn y dyfodol ac adrodd straeon digidol fel methodoleg. (Hanes a Hanes Cymru/Gwleidyddiaeth Ryngwladol)
  • Creu cyfleoedd rhyngweithio newydd rhwng ymchwilwyr ar wahanol bwyntiau yn eu gyrfaoedd sy’n gweithio ar ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol mewn sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru, trwy gyfres o weithdai ar-lein, gweithdy cyfnewid gwybodaeth, a chynnal paneli yng nghynhadledd flynyddol WISERD. (Gwleidyddiaeth Ryngwladol)
  • Datblygu rhwydwaith o sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio ym maes cyflogaeth anabledd – daethpwyd â sefydliadau ynghyd na fyddent wedi cwrdd â’i gilydd fel arall; nodwyd bod llawer o bocedi o enghreifftiau o arfer da o gyflogaeth anabledd ledled Cymru. (Yr Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear/Ysgol Fusnes)
  • Gweithgareddau a gynhelir rhwng Prifysgolion Aberystwyth a Bangor i annog prosiectau a chydweithio ym maes ymchwil niwrowyddoniaeth. (Seicoleg/Cyfrifiadureg/Gwyddorau Bywyd)
  • Cysylltu myfyrwyr ar ddechrau eu gyrfaoedd, ôl-raddedigion ac ysgolheigion â chynulleidfa fwy o ymgyrchwyr a llunwyr polisi mewn digwyddiad gwrth-hiliaeth gyda Race Council Cymru. (Yr Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear)
  • Datblygu ar berthynas sefydledig rhwng Prifysgol Aberystwyth a Coed Cadw i gychwyn grŵp cydweithredol trawsddisgyblaethol, aml-sefydliadol fydd yn meddwl am gwestiynau ymchwil a chyfleoedd ariannu, ac yn datblygu cais ymchwil sy’n canolbwyntio ar archwilio effeithiolrwydd a manteision amgylcheddol ailgoedwigo ucheldiroedd gyda dull amaeth-goedwigaeth. (Yr Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear)
  • Gweithdy deuddydd fel man cychwyn ar gyfer cydweithredu rhwydwaith agosach gan arwain at gyngor polisi ymarferol ar reoli ac ennill goruchafiaeth mewn sefyllfaoedd o ddwysáu niwclear. Rhagwelir y bydd hyn yn arwain yn y pen draw at friffiau polisi y gall asiantaethau perthnasol y llywodraeth eu defnyddio wrth gyflawni’r amcanion a nodwyd yn yr Adolygiad Amddiffyn Strategol. (Gwleidyddiaeth Ryngwladol)
  • Cynhaliwyd gweithdy ar y cyd gan Brifysgol Aberystwyth a Mentera ym mis Mai 2026 i ymchwilio i’r heriau i Stiwardiaeth Gwrthficrobaidd a wynebir gan y sector anifeiliaid anwes yng Nghymru. Gwahoddwyd Milfeddygon a Nyrsys Milfeddygol Cofrestredig o bob rhan o Gymru i fynychu diwrnod o weithdai i adnabod yr heriau a wynebir wrth ragnodi gwrthfiotigau a sut y gallai rhwydwaith Hyrwyddwyr Rhagnodi Milfeddygol (VPC) gefnogi eu hanghenion. (Gwyddorau Bywyd/Ysgol Filfeddygol)
  • Digwyddiad lansio ar gyfer y grŵp EMPOWER, sy’n ymrwymo i gynnal ymchwil a chreu dulliau arloesol i wella canlyniadau mewn gofal endometriosis. Sefydlodd y digwyddiad rwydwaith o weithwyr proffesiynol ac ymchwilwyr sy’n gweithio yn y maes hwn. (Seicoleg)
  • Daeth grŵp o 10 unigolyn gyda phrofiad bywyd mewn gwahanol feysydd ynghyd i greu panel o ‘arbenigwyr trwy brofiad’ mewn amrywiol feysydd. Mae’r meysydd yn cynnwys iechyd meddwl a’r defnydd o wasanaethau iechyd meddwl, iechyd corfforol megis goroesi strôc, ymgysylltiad â’r gwasanaeth cyfiawnder troseddol, cyfrifoldebau gofalu, a gwasanaethau milwrol. Trwy gysylltu’r panel ag ymchwilwyr PA rhoddir y cyfle iddynt ymgysylltu â chymunedau cyn iddynt lunio eu hymchwil. (Seicoleg)
  • Bu ymweliad rhwydweithio rhwng ymchwilwyr IBERS, Techion, Coleg Sir Gâr, a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn gyfle i adeiladu a chryfhau rhwydweithiau newydd a chyfleoedd ymchwil cydweithredol ar draws ystod enfawr o bynciau gan gynnwys monitro iechyd da byw a chanfod clefydau’n gynnar, strategaethau rheoli tir cynaliadwy, a’r defnydd o fetabarcodio DNA i ddadansoddi diet da byw a monitro bioamrywiaeth. Fe aethant ati hefyd i edrych ar y ffordd mae technolegau sy’n dod i’r amlwg gan gynnwys dronau, deallusrwydd artiffisial, ac offer synhwyro uwch yn trawsnewid ymchwil amaeth-amgylchedd ac yn cefnogi systemau ffermio mwy doeth, mwy cynaliadwy. (Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig)
  • Cyfarfu ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth â rhanddeiliaid allweddol o gwmnïau diwydiant allweddol, y llywodraeth, ac ymchwilwyr, i drafod arloesedd mewn gwyddor pobi, cynhwysion swyddogaethol, a bwydydd grawnfwyd iachach. Amlygodd y trafodaethau hyn ddiddordeb cryf yn arbenigedd Prifysgol Aberystwyth a chyfrannu at ddatblygu gweithgareddau dilynol, gan gynnwys gweithdai cydweithredol ac ymgysylltu â rhwydweithiau becws yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop. (Gwyddorau Bywyd)
  • Fe wnaeth un o brosiectau AberCollab ei gwneud yn bosib creu grŵp cynnwys y cyhoedd sy’n canolbwyntio ar ardaloedd gwledig i ddatblygu syniadau a blaenoriaethau ymchwil ymhellach ac i greu strategaeth ar gyfer ffurfioli cyfranogiad y cyhoedd yn ymchwil iechyd gwledig Prifysgol Aberystwyth. (Seicoleg)
  • Cynhaliwyd Gweithdy ar ddatblygu thygwellt lluosflwydd yn ffynhonnell brotein gynaliadwy yn y bio-burfa BEACON i ddarpar bartneriaid academaidd a masnachol y dyfodol, gyda’r nod o ddatblygu ceisiadau a phrosiectau grantiau cydweithredol yn y dyfodol. (Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig)

 

Meddai Dr Jennifer Wolowic, Prif Arweinydd y Ganolfan Ddeialog: “Mae AberCollab wedi bod yn enghraifft wych o sut y gall deialog ac ymgysylltu ag eraill gyfrannu at bob cam o’r broses ymchwil – o gynhyrchu syniadau a phrosiectau sy’n dod i’r amlwg i ehangu a derbyn rhaglenni ymchwil. 

“Mae’r adborth o’r rownd gyntaf o gyllid AberCollab wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae ymchwilwyr wedi mynegi eu bod yn teimlo bod y broses yn gyffrous a’i bod wedi arwain at gysylltiadau newydd a pherthnasoedd cryfach. Bydd sawl un yn arwain at geisiadau am gyllid yn y dyfodol ac mae pob un wedi helpu i eglurhau’r potensial ar gyfer cydweithio yn y dyfodol. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut bydd ein hymchwilwyr yn mynd ar drywydd y camau nesaf.”  

Datblygwyd rhaglen AberCollab fel rhan o Strategaeth Arloesi a Chyfnewid Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth 2023-2028, sy’n derbyn cyllid gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru Medr.

Astudiaethau Achos AberCollab 2024-25

Rôl ffermwyr mewn gwyddoniaeth
hinsawdd a llunio polisïau

Rheoli poblogaethau crancod Tsieineaidd goresgynnol drwy gydweithio Ewropeaidd  

Creu Cylchgrawn Cydweithredol: Adfywio Economaidd a Datblygu Cymunedol