AberCollab
Dewch a ychydig o hud a lledrith cydweithredol i gam nesaf eich ymchwil
Mae cyfnewid gwybodaeth, arloesedd, hyfforddiant sgiliau ac adeiladu gallu wrth wraidd Strategaeth Arloesi a Chyfnewid Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth. Mae cydweithio yn ddigwydd ym mhob cam o’r broses ymchwil a bwriad y Ganolfan Ddeialog yw i gryfhau’r broses o weithio ar y cyd.
Mae rhaglen 2024-25 AberCollab wedi’i chynllunio i gyflawni’r amcanion hyn. Rydym yn edrych ymlaen i fynd ati i helpu ymchwilwyr i gysylltu a chydweithio â grwpiau a phartneriaid allanol. Bydd AberCollab yn darparu hyfforddiant ac arian i helpu ymchwilwyr i adeiladu a chryfhau eu rhwydweithiau allanol, gwella eu hyder wrth arwain gweithdai cydweithio a gwireddu’r potensial llawn am effaith ymchwil ac arloesedd.
Gobeithiwn y bydd AberCollab yn dod ag ychydig o hud a lledrith cydweithredol i brosiectau ymchwil Prifysgol Aberystwyth.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan YBA.
Defnyddiwch y dolenni isod i ganfod mwy am y 13 o brosiectau cyntaf.
Adroddiad AberCollab