Adrodd eich Stori Ymchwil
06 Mawrth 2024
Ar 6 Mawrth 2024, daeth y Ganolfan Ddeialog â ffisegwyr, biolegwyr, damcaniaethwyr theatr, gwyddonwyr gwleidyddol ac arbenigwyr cynaliadwyedd at ei gilydd ar gyfer arbrawf. A allai gemau theatr ein helpu ni ym Mhrifysgol Aberystwyth i gysylltu ac adrodd straeon gwell am ein hymchwil? A allai’r dulliau hyn weithio yng Nghymru?
Dyma’r hyn a ddywedodd Dr. Jennifer Wolowic ar ôl y gweithdy:
“Heddiw, cefais y pleser hyfryd o weld Patricia Raun o Ganolfan Cyfathrebu Gwyddoniaeth Virginia Tech ar waith.
Gwnaethom agor y sesiwn trwy dorri bara gyda’n gilydd ac yna mynd i mewn i ofod o anghysur mawr. Gofynnodd Patty inni symud ein cyrff a rhoddodd ganiatâd i ni gamu i mewn a chymryd perchnogaeth o’n harbenigedd. Gwnaethom wrthsefyll. Daliodd ati. Gwnaethom wrthsefyll. Daliodd ati. Rhoddodd hi ysbrydoliaeth i ni fod yn ddewr.
Yna rhoddodd ganiatâd i ni fethu. Nid dim ond methu, ond dathlu methiant a’i ddathlu mor uchel ag y gallem. Dathlwch gyda’ch gilydd. A thrwy’r methiant hwnnw, gwnaed cysylltiadau. Cawsom ein hatgoffa o bwysigrwydd gwrando, cyswllt llygad, a rhoi cynnig ar bethau newydd fel cydweithredwyr. Ac ie, weithiau rydych chi’n methu ac mae hynny’n iawn.
Yna gwnaethom adrodd straeon—yn gyntaf amdanom ein hunain, yna mewn ffyrdd a helpodd ni i gymryd perchnogaeth o fod ar y llwyfan a gwneud i bobl chwerthin. A pha chwerthin a gawsom – chwerthin dwfn, uchel, a llawn llawenydd! Roeddem yn dal ychydig yn anghyfforddus, ond roedd mwy o hwyl yn yr anghysur nawr.
Roedd cysylltiadau a pherthnasoedd yn trawsnewid.
Ac yn olaf daethom yn ôl at ymchwil. Rhannu pam fod ein gwaith yn bersonol bwysig i ni, pam ei fod yn bwysig i’r maes, ac yna pam ei fod yn bwysig i’r byd. Gwnaethom rannu ac yna gwrando wrth i’n partner grynhoi’r hyn a glywon nhw. Roedd canolbwynt ein disgrifiadau yn dechrau newid. I ffwrdd o ddulliau a jargon tuag at gysylltiad ac effaith.
Newidiodd fy atebion fy hun hefyd. Pan ddaeth yn amser adrodd yn ôl, dyma fy mhartner yn crynhoi: ‘Mae’r Ganolfan Ddeialog yn bwysig oherwydd mae’n ein helpu i fod yn ddewr.’ Gwenodd fy nghalon.
Rwy’n credu bod yr arbrawf wedi gweithio. Gwelsom newidiadau cadarnhaol yn newrder a grymuso ein gilydd. A gwnaethom rannu llawer o wenu. Diolch i Patty, byddaf yn dod â mwy o waith corff a gemau theatr i mewn i fy ymarfer personol, fy hwyluso, a gweithdai y tu mewn a thu hwnt i’n prifysgol.
Efallai bod Patty wedi bod yn Aberystwyth ers ychydig ddyddiau yn unig ond mae ein cysylltiad am byth. Rwy’n ddiolchgar tu hwnt ac ni allaf ganmol ei gwaith ddigon.”