Dathlu Dinas Llên
Chwefror – Mawrth 2026
O grïwyr tref mewn gwisgoedd aur i straeon heddwch a rhyfeddodau Afon Rheidol, mae Prifysgol Aberystwyth yn trefnu ystod o weithgareddau ym misoedd Chwefror a Mawrth 2026 i ddathlu cydnabyddiaeth Aberystwyth Ceredigion fel Dinas Llên gyntaf Cymru. Mae’r rhaglen fywiog yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau creadigol sydd ar agor yn rhad ac am ddim i aelodau’r cyhoedd. Mae manylion prosiectau gwahanol y Brifysgol i’w cael isod ynghyd â gwybodaeth am sut i fod yn rhan o’r dathliadau.
Nid y Brifysgol yn unig sy’n dathlu dynodiad Dinas Llên. Mae gweithgareddau dathlu yn cael eu cynnal gan rai o aelodau eraill y bartneriaeth a ffurfiwyd yn 2021 i ddatblygu a chyflwyno’r cais am statws Dinas Llên i UNESCO. Mae’r bartneriaeth gyflawn yn cynnwys Cyngor Tref Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth, Cyngor Llyfrau Cymru, Cyngor Sir Ceredigion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (gan gynnwys Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Cyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau). Am fanylion pellach, ewch i wefan Dinas Llên Aberystwyth Ceredigion.
Darllen y Dirwedd: Cyfnod Preswyl
Cadw lle am ddim dydd Mercher 4/3
Cadw lle am ddim dydd Gwener 6/3
Dyddiadau: 4 a 6 Mawrth
Lleoliad: Adeilad Parry-Williams, Campws Penglais
Bydd y prosiect preswyl yma yn dwyn ynghyd pum artist o’r colectif SGÔR i Gampws Penglais o ddydd Llun 2 Mawrth i ddydd Gwener 6 Mawrth.
Ar y dydd Mercher am 16:00, cynhelir sesiwn agored yn y Sinema, Adeilad Parry-Williams gyda’r grŵp i drafod eu gwaith, ac ar y bore Gwener am 10:00 bydd perfformiad cyhoeddus o ffrwyth llafur yr wythnos yn cael ei ddangos yn Stwidio’r Ffowndri, i’w ddillyn gan drafodaeth gyda’r gynulleidfa.
Mae mynediad i’r ddau ddigwyddiad yn rhad ac am ddim ond mae angen cofrestru a chadw lle ymlaen llaw trwy Eventbrite.
Llinellau yn y dirwedd: Ymateb creadigol i Aberystwyth
Cadw lle am ddim
Amser: 10:30 – 12:30
Dyddiad: Sadwrn 7 Mawrth
Man Cychwyn: Gorsaf Reilffordd Aberystwyth*
Ymunwch â’r artist Nuala Dunn a’r awdures Eluned Gramich ar daith gerdded greadigol o amgylch Aberystwyth. Gyda’n gilydd, byddwn yn archwilio sut rydym yn gweld, clywed a phrofi amgylchedd unigryw’r dref — o’r orsaf i’r castell, y promenâd ac ymhellach. Bydd y gweithdy anffurfiol hwn yn cynnwys taith gerdded gylchol fer, ymarferion arsylwi, ysgrifennu nodiadau, a chreu marciau gyda siapiau a llinellau. Nid oes angen unrhyw brofiad — croeso cynnes i bawb. Prosiect ar y cyd yw hwn rhwng Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth a rhwydwaith Spineless Wonders.
*Mewn tywydd garw iawn (e.e. glaw trwm), byddwn yn archwilio tirweddau o’r gof a’r dychymyg yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Spineless Wonders: gweithdy rhwymo llyfrau
Cadw lle am ddim
Amser: 14:00 – 16:00
Dyddiad: Sadwrn 7 Mawrth
Lleoliad: Ysgol Gelf Aberystwyth, Buarth Mawr, SY23 1NG
Cyfle i ddysgu hanfodion strwythurau celf llyfrau, gan ddilyn templedi i greu detholiad o arteffactau wedi’u plygu. Gan ystyried y llyfr fel cynhwysydd athraidd, bydd y gweithdy hwn yn archwilio dulliau megis plygu, torri, rhwygo, coladu, olrhain a dileu, i greu dilyniannau sy’n cael eu cadw o fewn ei ffurf. Caiff y gweithdy ei arwain trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan yr artist gweledol Catrin Menai a Harriet Fuller sy’n arbenigo ar argraffu. Darperir yr holl ddeunyddiau ond fe’ch gwahoddir i ddod ag unrhyw bapurau, darnau, nodiadau neu elfennau rydych chi wedi’u canfod ac yn teimlo y dylid eu cynnwys yn y broses. Mae’r gweithdy yn rhad ac am ddim ond mae angen cadw lle ymlaen llaw.
Er Mwyn Dyn
Manylion pellach
Dyddiad: Sul 8 Mawrth
Lleoliad: Canol tref Aberystwyth
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth, caiff darn newydd o waith comisiwn gan Courtney Olwen, awdur ifanc a myfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth, ei gyhoeddi ar lafar ar hyd y dre, gan gynnwys Sgwâr Glyndŵr, y castell a’r bandstand. Bydd y darn yn ymateb i enwebiadau a dderbyniwyd gan brosiect Er Mwyn Dyn, sydd wedi bod yn gwahodd aelodau’r cyhoedd i ysgrifennu llythyr caru at fenyw maen nhw eisiau ei dathlu. Caiff geiriau Olwen eu bloeddio gan Grïwyr Aber, criw unigryw o grïwyr tref benywaidd mewn gwisgoedd sequins aur a hetiau tri chornel traddodiadol.
Rhwng Dydd Santen Dwynwen ar 25 Ionawr a Dydd San Ffolant ar 14 Chwefror, derbyniwyd dros 160 o enwebiadau fel rhan o’r prosiect sy’n cael ei arwain gan Dr Louise Ritchie o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu y Brifysgol.
Gareth Bonello / The Gentle Good, Dairena Ní Chinnéide, Mererid Hopwood
Cadw lle am ddim
Amser: 19:30
Dyddiad: Nos Fawrth 10 Mawrth
Lleoliad: Canolfan Arad Goch, Stryd y Baddon
Bydd Gareth Bonello/The Gentle Good yn sgwrsio gyda’r Athro Mererid Hopwood am ei albwm Elan, ac yn perfformio’r caneuon a ysbrydolwyd gan dirwedd a hanes Cwm Elan. Bydd y bardd o Iwerddon Dairena Ní Chinnéide hefyd yn perfformio ei cherddi, a chawn glywed cyfieithiadau Cymraeg Mererid o’i gwaith. Darperir cyfieithu ar y pryd.
Mae mynediad am ddim ond mae nifer y llefydd yn gyfyngedig felly e-bostiwch Arad Goch i gadw lle: post@aradgoch.org
Llun: Rhodri Brooks Photography
Mwy na dim ond llinell ar y map: Afon Rheidol
E-bostiwch i gadw lle am ddim
Amser: 12:30 – 20:30
Dyddiad: Sadwrn 14 Mawrth
Lleoliad: Aberystwyth
Ymunwch â sgwennwyr, artistiaid a daearyddwyr ar deithiau cerdded a gweithdai creadigol er mwyn archwilio tirweddau newidiol afonydd ac arfordir Aberystwyth a dechrau taith sgwennu newydd. Arweinir y gweithgaredd gan Nuala Dunn, Hywel Griffiths, Dewi Roberts, Brian Swaddling a Stephen Tooth.
Gan gychwyn am 12:30 ger ‘The Hut’ ar draeth y de, bydd y grŵp yn ceredded ar hyd glannau afon Rheidol cyn dychwelyd i Ganolfan Arad Goch am 17:30 ar gyfer lluniaeth ac yna gweithdy ysgrifennu creadigol.
Mae mynediad am ddim ond rhaid cadw lle ymlaen llaw drwy e-bostio hmg@aber.ac.uk cyn 11 Mawrth, gan nodi unrhyw anghenion diet.
Mwy na dim ond llinell ar y map: arfordir Aberystwyth
E-bostiwch i gadw lle
Amser: 12:30 – 20:30
Dyddiad: Sul 15 March
Lleoliad: Aberystwyth
Ymunwch â sgwennwyr, artistiaid a daearyddwyr ar deithiau cerdded a gweithdai creadigol er mwyn archwilio tirweddau newidiol afonydd ac arfordir Aberystwyth a dechrau taith sgwennu newydd. Arweinir y gweithgaredd gan Nuala Dunn, Hywel Griffiths, Dewi Roberts, Brian Swaddling a Stephen Tooth.
Gan gychwyn am 12:30 ar ddydd Sul 15 Mawrth ger ‘The Hut’ ar draeth y de, bydd y grŵp yn ceredded ar hyd y prom a’r arfordir cyn dychwelyd i Ganolfan Arad Goch am 17:30 ar gyfer lluniaeth ac yna gweithdy ysgrifennu creadigol.
Mae mynediad am ddim ond rhaid cadw lle ymlaen llaw drwy e-bostio hmg@aber.ac.uk cyn 11 Mawrth, gan nodi unrhyw anghenion diet.
Goleuo Castell Aberystwyth
Amser: O fachlud haul tan yn hwyr
Dyddiad: 20 – 22 Mawrth
Lleoliad: Castell Aberystwyth
Am dair noson, bydd gwaith gan chwe artist lleol ar thema heddwch cadarnhaol yn cael ei daflunio ar dŵr Castell Aberystwyth. Mae’r tafluniadau yn dwyn ynghyd chwedlau, llên gwerin yr arfordir, iaith a golygfeydd bob dydd, gan greu collage symudol o ddelweddau sy’n fyfyrdod ar heddwch, lle a’r cymunedau sy’n llunio’r arfordir hwn. Mae gwahaoddiad i bawb i grwydro draw ac, ar gychwyn tymor y Gwanwyn, ymuno â ni i edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod.
Digwyddiad ar y cyd yw hwn rhwng Canolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth a Big Wave/ Ton Fawr, fel rhan o’u tymor Heddwch a Chariad.
Llinellau yn y dirwedd: Ymateb creadigol i Aberystwyth
Cadw lle am ddim
Amser: 10:30 – 12:30
Dyddiad: Sadwrn 21 Mawrth
Man Cychwyn: Rheilffordd y Graig
Gall y dirwedd siarad â ni… os ydyn ni’n fodlon gwrando. Bydd y gweithdy tywys hwn yn dechrau gyda thaith gerdded hamddenol lle gaiff y sawl sy’n cymryd rhan eu hannog i arsylwi ar ac amsugno’r amgylchedd o’u cwmpas. Gyda’n gilydd byddwn yn clywed y drudwy yn clicio ac yn chwibanu, yn arogli ewyn y môr neu’n sylwi ar arlliw adfeilion y castell. Byddwn yn rhyngweithio â’r dirwedd trwy iaith a chelf, gan feddwl am yr hyn y gall ein hamgylchedd ei ddweud wrthym a sut y gallwn ymateb. Caiff y sawl sy’n cymryd rhan gyfle i ysgrifennu a darlunio’r dirwedd a throi’r cyffredin yn rhywbeth rhyfeddol, a byddan nhw’n gadael gyda llyfryn bach yn llawn eu gwaith creadigol nhw. Arweinir y gweithdy gan yr awdur Mari Ellis Dunning a’r artist Emily Wilkinson fel rhan o brosiect ar y cyd rhwng Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth a rhwydwaith Spineless Wonders.
Spineless Wonders: gweithdy rhwymo llyfrau
Cadw lle am ddim
Amser: 14:00 – 16:00
Dyddiad: Sadwrn 21 Mawrth
Lleoliad: Ysgol Gelf Aberystwyth, Buarth Mawr, SY23 1NG
Cyfle i ddysgu hanfodion strwythurau celf llyfrau, gan ddilyn templedi i greu detholiad o arteffactau wedi’u plygu. Gan ystyried y llyfr fel cynhwysydd athraidd, bydd y gweithdy hwn yn archwilio dulliau megis plygu, torri, rhwygo, coladu, olrhain a dileu, i greu dilyniannau sy’n cael eu cadw o fewn ei ffurf. Caiff y gweithdy ei arwain trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan yr artist gweledol Catrin Menai a Harriet Fuller sy’n arbenigo ar argraffu. Darperir yr holl ddeunyddiau ond fe’ch gwahoddir i ddod ag unrhyw bapurau, darnau, nodiadau neu elfennau rydych chi wedi’u canfod ac yn teimlo y dylid eu cynnwys yn y broses. Mae’r gweithdy yn rhad ac am ddim ond mae angen cadw lle ymlaen llaw. Mae hwn yn brosiect ar y cyd rhwng Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth a rhwydwaith Spineless Wonders.
Gweithdy Tirio
Cadw lle am ddim
Amser: 11:00 – 13:30
Dyddiad: Llun 23 Mawrth
Lleoliad: Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig felly cofrestrwch nawr i fod yn rhan o sesiwn creadigol, cymdeithasol a di-straen!
Darllen y Dirwedd: Symposiwn Ar-lein
Cadw lle am ddim
Amser: 14:00 – 15:00
Dyddiad: Mercher 25 Mawrth
Lleoliad: Ysgol Gelf Aberystwyth
Gan fynd i’r afael â thema Darllen y Dirwedd, bydd y digwyddiad Zoom ar-lein hwn yn dwyn ynghyd gasgliadau arbennig o Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth; Coleg Prifysgol Llundain (UCL); Llyfrgell Senate House, Prifysgol Llundain (SHL); a Sefydliad Ymchwil a Llyfrgell John Rylands, Prifysgol Manceinion. Gyda chyflwyniadau gan Timothy Cutts a Miidong P. Daloeng o’r Llyfrgell Genedlaethol; Liz Lawes, UCL; Tansy Barton a Leila Kassir, SHL, a Tabitha Tuckett, Prifysgol Manceinion, byddwn yn rhannu cyhoeddiadau gweisg bach ac effemera eraill sy’n ymwneud â Darllen y Dirwedd, sy’n un o brif themâu Dinas Llên Aberystwyth Ceredigion, rhan o rwydwaith UNESCO o ddinasoedd creadigol. Dan ofal Ysgol Gelf y Slade.
Dyma ran gyntaf Symposiwm wyneb-yn-wyneb a gynhelir yn Ysgol Gelf Aberystwyth rhwng 2yp a 6yh – manylion isod.
Darllen y dirwedd: Symposiwm
Cadw lle am ddim
Amser: 14:00 – 18:00
Dyddiad: Mercher 25 Mawrth
Lleoliad: Ysgol Gelf Aberystwyth, Buarth Mawr, SY23 1NG
Symposiwm wyneb-yn-wyneb dan ofal Miranda Whall – artist rhyngddisgyblaethol, academydd, a hyfforddwr/mentor – a myfyrwyr doethur Ysgol Gelf Aberystwyth, Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ac Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol y Brifysgol. Bydd y siaradwyr gwadd fydd Ben Porter ac Elinor Gwynn, y cadeiryddion Zoe Quick a Heledd Wyn Hardy, a’r myfyrwyr doethur yn dod ynghyd i archwilio ffyrdd newydd o fod, canfod, cynrychioli ac ailddychmygu tirwedd Cymru. Mae’r awr gyntaf yn cynnwys y symposiwm ar-lein uchod. Am ragor o wybodaeth ac i archebu eich lle am ddim, ewch i’n tudalen Eventbrite.
Llinellau yn y dirwedd: Ymateb creadigol i Aberystwyth
Cadw lle am ddim
Amser: 10:30 – 12:30
Dyddiad: Sadwrn 28 Mawrth
Man Cychwyn: Bandstand Aberystwyth
Gall y dirwedd siarad â ni… os ydyn ni’n fodlon gwrando. Bydd y gweithdy tywys hwn yn dechrau gyda thaith gerdded hamddenol lle gaiff y sawl sy’n cymryd rhan eu hannog i arsylwi ar ac amsugno’r amgylchedd o’u cwmpas. Gyda’n gilydd byddwn yn clywed y drudwy yn clicio ac yn chwibanu, yn arogli ewyn y môr neu’n sylwi ar arlliw adfeilion y castell. Byddwn yn rhyngweithio â’r dirwedd trwy iaith a chelf, gan feddwl am yr hyn y gall ein hamgylchedd ei ddweud wrthym a sut y gallwn ymateb. Caiff y sawl sy’n cymryd rhan gyfle i ysgrifennu a darlunio’r dirwedd a throi’r cyffredin yn rhywbeth rhyfeddol. Arweinir y gweithdy gan yr awdur Mari Ellis Dunning a’r artist Elin Crowley fel rhan o brosiect ar y cyd rhwng Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth a rhwydwaith Spineless Wonders.
Spineless Wonders: gweithdy rhwymo llyfrau
Cadw lle am ddim
Amser: 14:00 – 16:00
Dyddiad: Sadwrn 28 Mawrth
Lleoliad: Ysgol Gelf Aberystwyth, Buarth Mawr, SY23 1NG
Cyfle i ddysgu hanfodion strwythurau celf llyfrau, gan ddilyn templedi i greu detholiad o arteffactau wedi’u plygu. Gan ystyried y llyfr fel cynhwysydd athraidd, bydd y gweithdy hwn yn archwilio dulliau megis plygu, torri, rhwygo, coladu, olrhain a dileu, i greu dilyniannau sy’n cael eu cadw o fewn ei ffurf. Caiff y gweithdy ei arwain trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan yr artist gweledol Catrin Menai a Harriet Fuller sy’n arbenigo ar argraffu. Darperir yr holl ddeunyddiau ond fe’ch gwahoddir i ddod ag unrhyw bapurau, darnau, nodiadau neu elfennau rydych chi wedi’u canfod ac yn teimlo y dylid eu cynnwys yn y broses. Mae’r gweithdy yn rhad ac am ddim ond mae angen cadw lle ymlaen llaw ar Eventbrite. Mae hwn yn brosiect ar y cyd rhwng Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth a rhwydwaith Spineless Wonders.
Darllen y dirwedd: Arddangosfa a Darlleniadau
Amser: 16:00 – 18:00
Dyddiad: Sadwrn 28 March
Lleoliad: Ysgol Gelf Aberystwyth, Buarth Mawr, SY23 1NG
Digwyddiad i ddathlu’r gwaith creadigol a wnaed gan fynychwyr gweithdai, Symposiwm y myfyrywyr doethur a chyfranwyr eraill fel rhan o’r prosiect cydweithredol yma rhwng Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth a rhwydwaith Spineless Wonders. Bydd arddangosfa pop-yp o’r gwaith rhwng 4yp a 6yh, gyda darlleniadau gan y sawl sydd wedi cyfrannu at neu fynychu digwyddiadau Darllen y Dirwedd: Spineless Wonders rhwng 5yp a 6yh. Mae croeso i bawb ac nid oes angen cadw lle ymlaen llaw.
Lleisiau a Gwelededdd: Straeon menywod ar draws amser
Cadw lle am ddim
Amser: 18:30
Dyddiad: Sadwrn 28 March
Lleoliad: Llyfrgell y Dref, Sgwâr y Frenhines, Aberystwyth
Mae’r digwyddiad hwn yn dwyn ynghyd awduron, artistiaid ac academyddion y mae eu gwaith yn ymgysylltu â phrofiadau hanesyddol a chyfoes menywod… disgwyliwch chwerthin, crïo ac ychydig o hud a lledrith! Ymhlith y siaradwyr bydd cyflwynydd The Aberystwyth Book Club, Hannah Loy; yr awdur Mari Ellis Dunning; Dr Jenny Mathers, cyd-olygydd llyfr Yr Apêl/The Appeal: Stori Ryfeddol Deiseb Heddwch Menywod Cymru, 1923-24 (Y Lolfa, 2023); Naomi Heath, cynhyrchydd celf cymunedol; Athika Ahmed, llysgennad iechyd menywod ifanc; Katja Birkitt, sy’n trefnu dosbarthiadau Jiu Jitsu i fenywod, a Dr Louise Ritchie o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu y Brifysgol, sy’n arwain prosiect Er Mwyn Dyn. Mae mynediad am ddim ac mae croeso i bawb ond mae angen cadw lle ymlaen llaw ar Eventbrite.
Aros am Heddwch
Dyddiad: Diwedd Mawrth
Lleoliad: Aberystwyth
Cydweithrediad rhwng Big Wave / Ton Fawr a Chanolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth yw’r prosiect hwn sy’n dod â gwaith celf cyhoeddus i strydoedd y dre. Fel rhan o dymor Heddwch a Chariad ehangach, bydd ‘Aros am Heddwch’ yn gosod gwaith celf ar thema Heddwch Cadarnhaol mewn tair arhosfan bws yn Aberystwyth – dwy ym Mhenparcau ac un ar riw Penglais ger Ysbyty Bronglais. Y nod yw cynnig eiliad o fyfyrdod i bobl yn ystod eu teithiau bob dydd. Bydd y gwaith yn ymddangos ar yr arosfannau bws yn ystod wythnos olaf mis Mawrth.
Gweithdai Awdur Preswyl
Cadw lle am ddim
Dyddiad: Mis Chwefror a Mis Mawrth 2026
Lleoliad: Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Mae Esyllt Lewis yn gweithio fel awdur preswyl yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth o ganol Chwefror tan ddiwedd mis Mawrth. Gan weithio gyda grwpiau ysgrifennu gwahanol a dosbarthiadau perfformio sy’n cwrdd yn y Ganolfan yn rheolaidd, bydd Esyllt yn arwain prosiect peilot ysbrydoledig sy’n ymgorffori llenyddiaeth ar draws rhaglenni dysgu creadigol a lles. Bydd hefyd yn gweithio’n agos gydag artistiaid, cyfranogwyr a chynulleidfaoedd o bob oedran i weld sut y gall y broses o ysgrifennu ymateb i gelf weledol ac arddangosfeydd; cefnogi lles a myfyrdod, ymgysylltu â phobl o bob oed a chefndir a bodoli fel ymarfer annibynnol yn ogystal â chael ei integreiddio i ffurfiau celf eraill.
Mae gweithdai Esyllt yn rhad ac am ddim ond argymhellir cadw lle ymlaen llaw. Am fanylion pellach, ewch i wefan Canolfan y Celfyddydau neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01970 623232.
Heolydd Heddwch
Dyddiad: Chwefror a Mawrth 2026
Lleoliad: Aberystwyth
Gweithdy a sesiynau dilynol dan ofal yr Athro Mererid Hopwood o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth i roi cychwyn ar brosiect Heolydd Heddwch. Y nod yw datblygu taith dywys lenyddol yn mapio’r cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a heddwch cadarnhaol yn ardal Aberystwyth a sir Ceredigion.
Mae’r prosiect yn dwyn ynghyd awduron, beirdd, ymchwilwyr, haneswyr ac arbenigwyr ar fapio creadigol, a bydd yn rhoi sylw i unigolion megis Gwenallt, T.E.Nicholas, T.H.Parry-Williams, Waldo Williams, Henry Richard ac eraill.
Ariennir y digwyddiadau uchod yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.
