Adroddiad AberCollab 2024-25


Cafodd dros 200 o unigolion ar draws 17 o brosiectau ymchwil eu dwyn ynghyd mewn rhaglen arloesol i feithrin cydweithredu a chyfnewid gwybodaeth rhwng academyddion a phartneriaid allanol.
Gyda chyllid o du Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru Medr, cefnogodd rhaglen AberCollab 2024–25 brosiectau amrywiol yn cynnwys adfywio canol trefi, datblygu lliwiau naturiol o ffyngau, grymuso awduron ar y cyrion, a diogelu ein dyfrffyrdd rhag rhywogaeth granc goresgynnol niweidiol.
Mae’r rhaglen yn cynnig grantiau bach hyd at £3,000 tuag at gynnal gweithdy, digwyddiad neu weithgaredd sy’n hwyluso cydweithredu rhwng ymchwilwyr y Brifysgol a phartneriaid allanol, ac sy’n symud y broses ymchwil yn ei blaen.
Mae ymchwilwyr hefyd yn derbyn hyfforddiant ar adeiladu cydweithrediadau ymchwil er mwyn datblygu eu sgiliau o ran cynllunio ac arwain sesiynau rhyngweithiol effeithiol.
Dywedodd Susan Ferguson, Swyddog Effaith Ymchwil a Gwybodaeth yn Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi:
“Rydyn ni am i’n hymchwil helpu i wella bywydau, meithrin gwybodaeth, adeiladu cymunedau a chryfhau Cymru a’r byd ehangach. Trwy feithrin cydweithrediadau dyfnach rhwng ymchwilwyr a rhanddeiliaid allanol, gallwn dynnu ar brofiad a gwybodaeth ar y cyd i gyd-greu atebion i heriau’r byd go iawn.
“Dyma’r ail flwyddyn i ni redeg ein rhaglen AberCollab ac unwaith eto, cawson ni’n hysbrydoli nid yn unig gan amrywiaeth ac effaith y prosiectau ymchwil, ond hefyd gan broffesiynoldeb ac ymrwymiad pawb a gymerodd ran. Mae’r cyllid sbardunol a roddir i academyddion yn gweithredu fel platfform ar gyfer prosiectau ymchwil mwy sy’n cynnwys cydweithredu allanol, ac edrychwn ymlaen at weld datblygiadau pellach ac effaith hirdymor.”
Ar draws y 17 prosiect a dderbyniodd cyllid yn 2024–25, cafwyd partneriaid allanol o sefydliadau academaidd yn ogystal â’r llywodraeth, awdurdodau lleol, y trydydd sector, diwydiant a chymunedau amrywiol yng Nghymru ac Ewrop.
Arweiniwyd y prosiectau gan academyddion ar wahanol gamau yn y cylch ymchwil – o’r cam archwilio i brosiectau ymchwil gweithredol ac ymchwil yn y camau diweddarach sy’n anelu at ehangu eu potensial i greu effaith. Ymhlith y prosiectau roedd:
- meithrin cysylltiadau rhwng ymchwilwyr yn Aberystwyth ac Ewrop sy’n gweithio ar ddulliau o reoli poblogaeth gynyddol y granc Tsieineaidd goresgynnol (Dr Joe Ironside, Adran y Gwyddorau Bywyd)
- ehangu cyfranogiad mewn gŵyl lenyddol, gan sicrhau llwyfan i leisiau ar y cyrion, denu cynulleidfaoedd amrywiol a gwneud lleoliadau’n gwbl hygyrch (Dr Jacqueline Yallop, Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol)
- datblygu dulliau o ddisodli lliwiau synthetig gyda dewisiadau ecogyfeillgar, diwenwyn sy’n deillio o gynhyrchion amaethyddol fel pigmentau naturiol o dyfu ffyngau (Dr Amanda Lloyd, Adran y Gwyddorau Bywyd)
- defnyddio LEGO® fel dull hygyrch a chynhwysol i ddod â chyfranogwyr ynghyd a hwyluso trafodaethau i nodi cyfleoedd a heriau ar gyfer cynnwys dinasyddion mewn gwneud penderfyniadau (Dr Anwen Elias, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol)
- archwilio modelau newydd o ddylanwadu, hysbysu a chyd-greu polisi hinsawdd drwy gyfres o drafodaethau bwrdd crwn gyda ffermwyr lleol, gwyddonwyr defnydd tir a llunwyr polisïau (Dr Hannah Hughes, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol; Yr Athro Mariecia Fraser, IBERS)
- archwilio sut y defnyddiwyd ymyriadau creadigol yn y gorffennol i gefnogi adferiad iechyd meddwl a goroesi, a sut y gellir defnyddio’r wybodaeth hon i adeiladu arferion presennol a’r dyfodol (Dr Elizabeth Gagen, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau’r Ddaear)
- defnyddio dulliau creu zîn i ddadansoddi’n greadigol ac asesu’r heriau sy’n wynebu adfywio economaidd a datblygu cymunedol yn Aberystwyth a’r Wyddgrug yng Nghymru ac yn Mürzzuschlag yn Awstria (Dr Lyndon Murphy, Ysgol Fusnes Aberystwyth)
- dwyn ymchwilwyr ym maes amaethyddiaeth ynghyd â thîm Cyswllt Ffermio i ddatblygu prosiectau ymchwil cydweithredol (Dr Natalie Meades, IBERS)
- gyda chefnogaeth Cyngor Ffoaduriaid Cymru, defnyddio technegau tecstiliau arloesol a chwiltio traddodiadol Cymreig i archwilio sut y gall ymarfer creadigol helpu i adeiladu cysylltiadau o fewn ac ar draws cymunedau, cefnogi dealltwriaeth a gofal ar y cyd, a llywio gweithgareddau a pholisïau lloches (Dr Katy Budge, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol; Dr Naji Bakhti, Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol)
- adeiladu consensws rhwng Llywodraeth Cymru, partneriaid cyflenwi a busnesau fferm ar reoli clafr defaid yng Nghymru, gan gyfrannu at well iechyd anifeiliaid a lliniaru straen ar ffermwyr (Dr Simon Payne, Adran Seicoleg)
- sefydlu rhwydwaith academaidd Cymru-Iwerddon i lywio polisi cysylltedd digidol yng Nghymru ac Iwerddon er budd llunwyr polisïau, awdurdodau lleol a chymunedau gwledig (Dr Aloysius Igboekwu, Ysgol Fusnes Aberystwyth)
- sefydlu rhwydwaith ymchwil ar rawnfwydydd bach a glaswellt ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar o amryw sefydliadau (Dr Aiswarya Girija, IBERS)
- cyd-greu strategaeth ymchwil a nodi prosiectau ymchwil cydweithredol posibl i fynd i’r afael ag anghenion ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol gwledig Canolbarth Cymru (Dr Thomas Wilson, Adran y Gwyddorau Bywyd; Dr Rachel Rahman, Adran Seicoleg; Dr Otar Akanyeti, Adran Gyfrifiadureg)
- sefydlu Rhaglen Dadansoddi Bwyd ar gyfer Powys i werthuso ansawdd maethol, blas a chynaliadwyedd ffrwythau a llysiau a dyfir yn lleol o’i gymharu â chynnyrch archfarchnadoedd (Dr Thomas Wilson a Dr Manfred Beckmann, Adran y Gwyddorau Bywyd)
- cynhyrchu adnoddau i gefnogi’r pontio rhwng addysg gynradd ac uwchradd yng Nghymru, wedi’u cyd-greu gyda athrawon, disgyblion ac swyddogion addysg (Dr Siân Lloyd-Williams, Ysgol Addysg)
- gweithdy rhyngweithiol yn dod â deg cyfranogwr ynghyd o Colombia, Mecsico, yr UD, Nigeria, Norwy a Tsieina i rannu straeon unigol am ymfudo ac ymgartrefu oddi mewn i Gymru amlddiwylliannol (Diana Valencia-Duarte ac Yi Li, Hanes a Hanes Cymru)
Datblygwyd rhaglen AberCollab fel rhan o Strategaeth Arloesi a Chyfnewid Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth 2023-2028, sy’n derbyn cyllid gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru Medr.
Mae ceisiadau ar agor nawr ar gyfer rownd gyllido 2025–26, gyda’r dyddiad cau am 4pm ar 17 Hydref 2025: https://www.aber.ac.uk/cy/rbi/support-services/funding/abercollab