Creu cysylltiadau.
Cyfnewid gwybodaeth.
Cyflawni mwy ar y cyd.
Rydyn ni’n gweithio gydag ymchwilwyr, busnesau, arweinwyr cymunedol, a sefydliadau’r trydydd sector i gefnogi dysgu a gweithio ar y cyd.
Mae gweithgareddau a gynhelir gan y Ganolfan Ddeialog yn creu mannau lle mae cyfranogwyr yn symud o gwmpas, gwrando ar straeon grymus, meddwl gan ddefnyddio eu dwylo, a siarad gan gyfeirio at eu profiadau a’u harbenigeddau. Mae pob profiad yn cael ei drin fel profiad gwerthfawr, ac rydyn yn annog y rhai sydd mewn swyddi uchel i wrando, dysgu, ac ymgysylltu ag eraill fel cydweithwyr o statws cyfartal.
“Mae ein gwaith yn seiliedig ar fodelau deialog a thrafodaeth sy’n cael eu defnyddio’n llwyddiannus ledled y byd.
Mae’r broses yn cymryd mwy o amser, ond mae’r canlyniadau yn tueddu i fod yn fwy arloesol ac yn haws i’w rhoi ar waith.”