Inspiration for a New Generation: The Welsh Women’s Peace Petition
Rhif digwyddiad: 231 (Meadow Stage yng Ngŵyl y Gelli 2024)
Siaradwyr: Mererid Hopwood a Jenny Mathers yn siarad â Betsan Powys
Dyddiad/amser: 11:30yb, Dydd Iau 30 Mai 2024
A all ymdrechion heddwch dinasyddion cyffredin effeithio ar fyd sydd wedi ymgolli mewn rhyfel? Gan mlynedd yn ôl meiddiodd merched Cymru ddychmygu byd heb ryfel a chymryd camau i gyflawni hynny: arwyddodd bron i 400,000 ddeiseb yn apelio ar fenywod America i gefnogi eu galwad am heddwch. Ymunwch â Mererid Hopwood a Jenny Mathers, golygyddion Yr Apêl 1923–24, wrth iddynt drafod stori ryfeddol Deiseb Heddwch Menywod Cymru gyda’r newyddiadurwraig Betsan Powys, a cheisio ysbrydoliaeth ar gyfer cenhedlaeth newydd o heddychwyr. Bydd y drafodaeth hon yn tynnu cymariaethau â gwrthdaro cyfoes, gan gynnig mewnwelediad i’r ymchwil barhaus am heddwch a rôl dinasyddion cyffredin wrth lunio byd heb ryfel.
Bydd y mynychwyr yn gadael wedi’u hysbrydoli gan straeon heddychwyr y gorffennol ac yn meddu ar gipolwg ar feithrin heddwch yn y byd cymhleth sydd ohoni. Mae’r digwyddiad hwn yn dyst i rym gweithredu ar y cyd ac ysbryd parhaol y Cymry.
I gael rhagor o wybodaeth am y sesiynau ac i brynu tocyn ewch i wefan Gŵyl y Gelli.