Defnyddio collage fel dull creadigol ar gyfer deialog

An audience at the Hay Festival listening to Dr Jen Wolowic and Dr Anwen Elias discuss 'Doing Demcracy Differently'

29 Mai 2024

Mae Canolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth a Chanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (CWPS) wedi lansio pecyn cymorth unigryw yn dangos sut y gall gwneud collage helpu pobl i drafod materion pwysig yn fwriadol. 

Mae Deialog Mewn Collage: Dull Creadigol at Greu Sgyrsiau Cydystyried yn cynnig canllaw cam wrth gam ar gyfer cynnal gweithdy dwy awr lle mae gwneud collage yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o drafod heriau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd.  

Cafodd y pecyn cymorth ei ddadorchuddio yng Ngŵyl y Gelli ddydd Mawrth 28 Mai 2024 yn dilyn sesiwn ar dan arweiniad Dr Anwen Elias, Cyd-gyfarwyddwr CWPS, a  Dr Jennifer Wolowic, Prif Arweinydd y Ganolfan Ddeialog.cyd 

Dywedodd Dr Elias, sydd wedi’i leoli yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth: “Mae diddordeb cynyddol ledled y byd mewn gweithgareddau sy’n dod â dinasyddion ynghyd i glywed a thrafod gwahanol safbwyntiau ar bynciau anodd a dod i safbwynt gwybodus. Mae ein pecyn cymorth yn defnyddio collage fel dull creadigol o sefydlu sgyrsiau a rhoi ffordd wahanol i bobl fynegi eu barn a’u teimladau am bwnc.” 

Ychwanegodd Dr Wolowic: “Rydym wedi dylunio’r pecyn cymorth yma fel ei fod yn hygyrch i bawb ac yn hawdd i’w ddefnyddio. Mae’n seiliedig ar egwyddorion a dulliau deialog a thrafod, ac mae’n cynnig dull creadigol syml – sef gwneud collage – fel ffordd o ystyried syniadau a safbwyntiau ar bwnc penodol. Gellir ategu’r broses hon o ddeialog greadigol â gweithgareddau cydystyried i helpu cyfranogwyr i bwyso a mesur  gwahanol opsiynau a chyfaddawdau, i ystyried blaenoriaethau a chanfod atebion.” 

Cynhyrchwyd y pecyn cymorth yn dilyn prosiect peilot dan arweiniad CWPS a gynhaliodd gyfres o weithdai creu collage gyda grwpiau cymunedol yng Nghasnewydd, De Cymru, yn edrych ar sut y gellid llywodraethu Cymru yn y dyfodol. 

Gellir lawrlwytho pecyn cymorth Deialog Mewn Collage o wefan y Ganolfan Deialog neu gallwch anfon e-bost at deialog@aber.ac.uk i ofyn am gopi caled.

Lawrlwytho'r pecyn cymorth

Gallwch lawrlwytho ac argraffu gopi PDF o’r llyfryn Deialog Mewn Collage: Dull Creadigol at Greu Sgyrsiau Cydystyried gan Dr Anwen Elias a Dr Jennifer Wolowic.

Lawrlwytho'r pecyn