Pecyn Cymorth: Deialog Mewn Collage

Fel Canolfan Ddeialog, rydym yn defnyddio dulliau traddodiadol, profedig o hwyluso sgyrsiau ar faterion sydd o bwys i bobl. Ond rydyn ni hefyd yn chwilio am ffyrdd newydd o ddod â chymunedau ynghyd i gydystyried pynciau mawr y dydd a thrafod atebion posibl. 

Roeddem am rannu gyda chi becyn cymorth newydd a ddatblygasom gyda chydweithwyr yng Nghanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, sy’n defnyddio collage fel dull at greu sgyrsiau cydystyried.

Mae’r pecyn yn cynnig canllaw cam-wrth-gam, syml ar gyfer cynnal gweithdy dwy awr lle mae gwneud collage yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o drafod heriau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd.

Gellid lawrlwytho copi yma a’i ddefnyddio’n ddigidol neu argraffu copïau. Os oes angen copi caled arnoch, ebostiwch deialog@aber.ac.uk ac fe anfonwn un yn y post.

 

Pecyn Cymorth i’w Lawrlwytho: Deialog Mewn Collage