Hawlio Heddwch - Cwestiynau Cyffredin 2023
![Teal turret outline](https://dialogue.aber.ac.uk/wp-content/uploads/sites/40/2023/08/Teal-turret-outline-1.png)
Trosolwg
Rhaglen
Cwestiynau Cyffredin
![Teal turret outline longer2](https://dialogue.aber.ac.uk/wp-content/uploads/sites/40/2023/08/Teal-turret-outline-longer2-1.png)
Beth yw’r Ŵyl Ymchwil?
Mae’r Ŵyl yn ddigwyddiad blynyddol sy’n tynnu sylw at yr ymchwil o’r radd flaenaf sy’n cael ei wneud gan academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dan arweiniad y Ganolfan Ddeialog, un o amcanion allweddol yr Ŵyl yw cysylltu gyda chymunedau lleol gan annog trafodaeth a rhannu syniadau. Mae mynychu’r Ŵyl yn rhad ac am ddim ac mae’n agored i bawb – nid yn unig staff, myfyrwyr a chynfyfyrwyr y Brifysgol ond y cyhoedd yn gyffredinol. Ein gobaith yw bod ein rhaglen yn cynnwys rhywbeth at ddant pawb.
Ble a phryd mae’n digwydd?
Mae’n Gŵyl Ymchwil yn para 7 diwrnod, o ddydd Mercher 1 Tachwedd tan ddydd Mawrth 7 Tachwedd. Caiff digwyddiadau eu cynnal ar Gampws Penglais, yn y dref ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae rhestr isod o rai o brif leoliadau’r Ŵyl, gyda dolenni at fapiau a chyfarwyddiadau.
Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth
Sinema, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Sut alla i gael tocynnau?
Mae tocynnau ar gyfer pob digwyddiad ar gael yn rhad ac am ddim drwy Eventbrite: https://bit.ly/3DDgJSu
Mae archebu lle yn hanfodol gan fod nifer y tocynnau yn gyfyngedig.
Sut gallaf ddychwelyd tocynnau os na allaf fynychu mwyach?
Pan fyddwch yn archebu tocyn drwy Eventbrite, byddwch yn derbyn e-bost gyda manylion y digwyddiad y gwnaethoch archebu tocyn ar ei gyfer. Ar waelod yr e-bost, bydd dolen i weld a rheoli eich archeb ar-lein. Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i wefan Eventbrite lle byddwch yn gallu canslo eich archeb. Os cewch unrhyw anawsterau gyda’ch tocyn, cysylltwch â deialog@aber.ac.uk
Oes rhaid i mi dalu i fynychu?
Mae holl ddigwyddiadau’r Ŵyl yn rhad ac am ddim, ac mae croeso cynnes i bawb.
At bwy mae’r Ŵyl wedi ei hanelu?
Gyda rhaglen amrywiol dros gyfnod o saith diwrnod, mae’r Ŵyl yn cynnig rhywbeth at ddant pawb ac mae croeso cynnes i bob un – yn aelodau’r gymuned leol yn ogystal â staff a myfyrwyr y Brifysgol ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymchwil. Mae yna weithgareddau sy’n addas ar gyfer plant ar ddydd Sadwrn 4 Tachwedd ac mae’r holl fanylion i’w gweld yn ein rhaglen.
Pwy yw’r siaradwyr?
Bydd ystod o siaradwyr gwahanol yn ystod yr Ŵyl, yn cynnws un o brif ymgyrchwyr heddwch Gogledd Iwerddon Eileen Weir. Mae fanylion llawn am y digwyddiad hwn a’r holl siaradwyr eraill i’w gweld yn ein rhaglen.
Sut gallaf gysylltu â threfnwyr yr Ŵyl?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch ebost at deialog@aber.ac.uk