Hawlio Heddwch
Trosolwg
Rhaglen
Cwestiynau Cyffredin
Hawlio Heddwch
1 – 7 Tachwedd 2023
Bydd Gŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth 2023 yn rhoi sylw i’r modd y gall dyhead unigolion a phenderfyniad cydweithredol gael dylanwad sylweddol yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Nod yr ŵyl hon yw dathlu’r unigolion, y grwpiau, a’r syniadau sydd wedi llunio heddwch yn y gorffennol, ynghyd ag archwilio ffyrdd y gellir llunio dyfodol o heddwch.
Ganrif yn ôl, â doluriau rhyfel dinistriol a phandemig byd-eang yn parhau’n fyw iawn, cynhaliwyd cynhadledd Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru yn Aberystwyth. Yr amcan oedd sicrhau dyfodol heddychlon a llewyrchus i bawb. Yn ystod y gynhadledd, cynigiodd Annie Hughes Griffiths y dylai merched Cymru apelio ar eu chwiorydd yn yr UDA i sicrhau aelodaeth eu gwlad fawr yng Nghynghrair y Cenhedloedd. Yn y misoedd dilynol aethpwyd ati i drafod â merched o bob cefndir ar hyd a lled Cymru, a chasglwyd 390,296 o lofnodion. Bellach, gan mlynedd yn ddiweddarach, mae’r ddeiseb hanesyddol wedi dychwelyd adref o sefydliad y Smithsonian yn Washington D.C. i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.
Wrth i ni wynebu amgylchiadau anodd gan gynnwys pandemig byd-eang, rhyfeloedd yn Ewrop a chyfandiroedd eraill, a grymoedd dybryd yr argyfwng hinsawdd, mae cenhedlaeth newydd o ddinasyddion, arweinwyr, a meddylwyr arloesol o Aberystwyth a mannau eraill yn codi i chwilio am atebion i heriau heddiw. Maent yn sefydlu rhwydweithiau dylanwadol ac yn chwilio am yr heolydd all hawlio dyfodol heddychlon a llewyrchus.
Ar drywydd heddwch yng Ngogledd Iwerddon: Sgwrs gydag Eileen Weir
Amser: 13:00 – 14:00
Dyddiad: 4 Tachwedd
Lleoliad: Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch iawn o groesawu Eileen Weir fel prif siaradwr yr Ŵyl Ymchwil eleni.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch iawn o groesawu Eileen Weir fel prif siaradwr yr Ŵyl Ymchwil eleni.
Tocynnau am ddim
Lansio Llyfr Yr Apêl: Stori deiseb heddwch menywod Cymru 1923-24
Amser: 17:00 – 18:30
Dyddiad: 3 Tachwedd
Lleoliad: Archif Ddarlledu Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Ymunwch â ni ar gyfer lansiad y llyfr dwyieithog hynod ddiddorol hwn gan nifer o awduron, sy’n rhannu stori ryfeddol y ddeiseb 7 milltir a drefnwyd gan fenywod Cymru i’w hanfon ben arall y byd i America.
Dyma stori wir am fenywod o bob cefndir a heriodd awdurdod.
Tocynnau am ddim
Canolbarth Cymru: Arwain Dyfodol Heddychlon
Dyddiad: 3 Tachwedd
Lleoliad: Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynhyrchu amrywiaeth eang o syniadau a dulliau arloesi sy’n gallu cyfrannu’n sylweddol at fyw’n heddychlon.
Ymunwch â ni wrth i ni archwilio sut mae ymchwil ym maes gwleidyddiaeth wledig, AI, ysgrifennu creadigol a phrofiadau ceiswyr lloches, diogelwch bwyd a mwy yn diffinio sut gallwn leihau gwrthdaro a chyd-greu dyfodol heddychlon gyda’n gilydd.
Tocynnau am ddim
Ymunwch â ni o 1-7 Tachwedd, 2023, i ddathlu dulliau a luniodd heddwch yn y gorffennol ac i archwilio ffyrdd o ddiffinio presennol a dyfodol heddychlon. Bydd yr ŵyl yn cynnwys lansiadau llyfrau, trafodaethau cyweirnod a fydd yn cwmpasu disgyblaethau amrywiol, ffair gymunedol, celfyddyd a cherddoriaeth, yn ogystal â deialogau, gweithdai a phob math o weithgareddau a fydd a’u heffaith yn bell-gyrhaeddol.