16 Mehefin 2023
Mae gwaith wedi dechrau ar greu Tŷ Trafod Ymchwil newydd yn y Ganolfan Ddelweddu ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth.
Mae’r cyntedd ar lawr gwaelod yr adeilad yn cael ei drawsnewid i ddarparu man cwrdd wedi’i ddylunio’n bwrpasol ar gyfer gweithgareddau ymchwil a chyfnewid gwybodaeth, dan ofal Canolfan Ddeialog y Brifysgol.
Bydd y lleoliad ar ei newydd wedd yn cynnig mannau cwrdd ffurfiol ac anffurfiol ar gyfer staff ymchwil a’u partneriaid allanol yn ogystal ag ar gyfer digwyddiadau cyfenwid gwybodaeth.
Bydd defnyddwyr cyson y Ganolfan Ddelweddu yn sylwi bod y brif fynedfa’n cael ei symud i ochr yr adeilad, gan ganiatáu defnydd mwy hyblyg o’r cyntedd mawr â’i dalcen gwydr nodedig. Bydd y Tŷ Trafod hefyd yn defnyddio’r landin ar y llawr cyntaf fel man cwrdd tawelach.
Dywedodd Dr Jennifer Wolowic, Prif Arweinydd y Ganolfan Ddeialog:
“Ers cynnal ein digwyddiad cyntaf ym mis Tachwedd 2022, mae’r Ganolfan Ddeialog wedi bod yn ymwneud ag ystod eang o weithgareddau ar draws y Brifysgol a thu hwnt lle mae deialog a phrosesau deialog yn elfennau allweddol. Rydyn ni’n falch iawn nawr i allu cynnig y lleoliad pwrpasol hwn yng nghanol campws Penglais. Bydd yn caniatàu i ni barhau â’n rhaglen amrywiol yn hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth ac ymgysylltu rhwng ymchwilwyr academaidd, llywodraeth, diwydiant, sefydliadau trydydd sector a chymunedau amrywiol.”
Mae’r gwaith adeiladu yn cael ei oruchwylio gan Adran Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd y Brifysgol, a disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Awst gyda digwyddiad lansio cyhoeddus wedi’i gynllunio ar gyfer mis Medi 2023.
Dywedodd Rheolwr Prosiect, Jonathon Lubikowski:
“Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda’r Ganolfan Ddeialog a’r Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi i greu gofod hyblyg, cyfoes sy’n cefnogi gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth y Brifysgol. Mae’r Ganolfan Ddelweddu ar gampws Penglais yn un o’n hadeiladau blaenllaw ac wrth ail-bwrpasu’r cyntedd, rydym yn gallu defnyddio ein hystâd i ymateb i flaenoriaethau strategol ac anghenion ymchwil.”
Bydd gan y Ganolfan Ddeialog hefyd gartref yn yr Hen Goleg yn y dyfodol pan fydd yr adeilad yn ailagor ar ôl gwaith adnewyddu mawr.
I gael rhagor o wybodaeth am y Ganolfan Ddeialog Ymchwil neu waith y Ganolfan Ddeialog yn gyffredinol, cysylltwch â deialog@aber.ac.uk.