Penguins, Rhinos, and Poverty: tackling uncomfortable questions in biodiversity conservation

Penguin

Rhif digwyddiad: 355 (Spring Stage yng Ngŵyl y Gelli 2024)

Siaradwyr:  Darrell Abernethy yn siarad â Jennifer Wolowic

Dyddiad/amser: 1:00yp, Dydd Sul 2 Mehefin 2024

Mae bywyd gwyllt ac ecosystemau ledled y byd yn wynebu bygythiadau enfawr ond mae nodi blaenoriaethau a dulliau cadwraeth yn codi llawer o gwestiynau heriol. Sut mae cydbwyso’r awydd i warchod rhywogaethau bywyd gwyllt sydd dan fygythiad ag anghenion poblogaethau dynol? Pwy sy’n penderfynu? Ymunwch â sgwrs rhwng Pennaeth Ysgol Milfeddygaeth Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Darrell Abernethy, a chynrychiolydd o WWF i drafod sut mae gweithgareddau dynol ac argyfyngau naturiol yn effeithio ar rai o rywogaethau mwyaf gwerthfawr y byd.

Mae’r sesiwn hon yn argoeli i fod yn archwiliad goleuedig o’r heriau sy’n wynebu cadwraeth bioamrywiaeth heddiw.

I gael rhagor o wybodaeth am y sesiynau ac i brynu tocyn ewch i wefan Gŵyl y Gelli.

Hay Festival