Cymunedau Creadigol Llewyrchus yn Aberystwyth

Ar 15 Gorffennaf 2023, daeth 35 aelod o gymunedau creadigol Aberystwyth at ei gilydd yn y Bandstand ar y prom i ystyried sut y gallai mentrwyr creadigol a’r diwydiannau creadigol yn yr ardal ‘flodeuo’. Cynhaliwyd y digwyddiad gan Ganolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth, ac fe gafodd ei ddylunio a’i hwyluso gan Dr. Eri Mountbattern-O’Malley, Cyfarwyddwr a Sylfaenydd y FlourishCafe™.

Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys artistiaid, ffotograffwyr, cerddorion a pherfformwyr unigol yn ogystal ag aelodau o Rotari Aberystwyth, Clwb Busnes Aberystwyth a staff o gyrff megis Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Theatr Arad Goch ac Amgueddfa Ceredigion. Roedd cynrychiolwyr etholedig o Gyngor Tref Aberystwyth a rhai o swyddogion Cyngor Sir Ceredigion hefyd yn bresennol.

Ar ddechrau’r prynhawn, cafwyd anerchiadau gan y siaradwyr gwadd Jacob Elis, Arweinydd Ysgogi Newid i Faterion Cyhoeddus a Chysylltiadau Rhyngwladol yn Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, a gan Julien Shelley sy’n berchennog busnes lleol. Yn ystod ail hanner y digwyddiad gofynwyd i’r cyfranogwyr feddwl am sut olwg fyddai ar ddiwydiannau creadigol llewyrchus yn Aberystwyth a’r fro, yn ogystal ag ystyried rhai o’r heriau a’r cyfleoedd.

I ganfod may am y themâu a daeth i’r amlwg yn ystod y digwyddiad, darllenwch yr adroddiad ‘Yr Hyn a Glywsom’.

Bydd y canfyddiadau yn llywio cyfleoedd ar gyfer cydweithio rhwng Cyngor Sir Ceredigion a Chanolfan Deialog Prifysgol Aberystwyth yn y dyfodol.