Astudiaethau Achos AberCollab

Chwilio am atebion ar gyfer technoleg y genhedlaeth nesaf

micro circuit

Wrth i’n dyfeisiau electronig ddod yn fwyfwy soffistigedig, mae angen cael sglodion cylched integredig silicon sy’n gallu gwneud mwy tra’n lleihau’n barhaus o ran maint.

Wrth chwilio am dechnolegau newydd i fodloni gofynion dyfeisiau’r genhedlaeth nesaf, mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio maes ymchwil sy’n dechrau dod i’r amlwg sef dyddodiad ardal ddethol (neu ASD). Mae ASD yn caniatáu gosod patrymau ar raddfa nano ar ddeunyddiau gan ddisodli’r defnydd traddodiadol o gamau ffotolithograffig ac ysgythriad sy’n llafurus, yn ddrud ac sy’n wastraffus o ran deunyddiau.

Dr Anita Brady-Boyd in Belgium
Dr Anita Brady-Boyd in Belgium
Dr Anita Brady-Boyd in Belgium

Diolch i raglen AberCollab, cafodd  Dr Anita Brady-Boyd o Adran Ffiseg Aberystwyth gefnogaeth i gryfhau’r cydweithio ag Imec, canolfan ymchwil a datblygu nanoelectroneg annibynnol blaengar yng Ngwlad Belg.

“Mae fy ymchwil presennol yn canolbwyntio ar ddyddodiad ardal ddetholus fel dull nano-wneuthuriad o’r gwaelod i fyny ar gyfer dyfeisiau electronig cenhedlaeth nesaf. Mae’n faes ymchwil cyffrous ond cymharol newydd a allai arwain at newid mawr yn y ffordd y caiff dyfeisiau eu creu. Trwy ein prosiect AberCollab, roeddem am rannu gyda diwydiant yr arbenigedd gwyddor wyneb arbennig sydd gennym yn Aberystwyth ac egluro’r gwahanol nodweddion a mesuriadau y gallwn eu cynnig yn ogystal ag archwilio sut y gallwn gydweithio ar atebion posibl. Roedd gennym gysylltiadau eisoes ag Imec, sy’n rhyngwladol flaenllaw ym maes lled-ddargludyddion a nanoelectroneg, ac mae AberCollab wedi ein galluogi i gryfhau’r cydweithio hwn yn ogystal â mynd ar drywydd amcanion ymchwil eraill.” 

Adroddiad AberCollab ac Astudiaethau Achos

Adroddiad AberCollab

Rhoi llais i lenorion
ar y cyrion

Twristiaeth a’r economi llety gwyliau gosod
ôl-bandemig

Dod â’r corff i mewn
i bolisi