Menter
Rydym yn cefnogi datblygu busnes, twf entrepreneuriaeth a buddsoddiad trwy gysylltu meddylwyr arloesol ag adnoddau, hyfforddiant sgiliau a chyfleoedd i feithrin rhwydweithiau ac ymgysylltu â defnyddwyr terfynol. Er enghraifft, rydym yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol i gefnogi:
- Y Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth a Menter yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi sy’n darparu porth i sefydliadau allanol ddarganfod a chyfranogi mewn cyfnewid gwybodaeth.
- Ymchwilwyr sy’n cydweithio ag ymchwil a datblygu busnes i greu cyfleoedd masnachol ac Eiddo Deallusol.
- Partneriaethau rhwng cymunedau a diwydiant sy’n sbarduno ffyniant economaidd.
- Ystod gynyddol o raglenni Prifysgol sy’n helpu arloeswyr i ddatblygu syniadau, dechrau busnes, a chysylltu â chyfleoedd academaidd, corfforaethol, diwydiannol a llywodraethol.