AberCollab
Mae meithrin cydweithrediadau rhwng academyddion, busnesau, gwneuthurwyr posi a sectorau eraill yn allweddol i’n cenhadaeth fel Canolfan Ddeialog.
Mae’n holl bwysig i ni am ein bod yn gwybod bod gweithio ar y cyd yn gallu cryfhau canlyniadau ymchwil, hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymdeithas.
Cynlluniwyd AberCollab i gefnogi’r amcanion hyn ac i helpu ymchwilwyr i gysylltu a chydweithio â grwpiau a phartneriaid allanol. Lansiwyd rhaglen beilot AberCollab yng ngwanwyn 2024, gan ddarparu hyfforddiant ac arian i gynorthwyo ymchwilwyr i adeiladu a chryfhau eu rhwydweithiau allanol, gwella eu hyder wrth arwain gweithdai cydweithio a gwireddu’r potensial llawn o ran effaith ymchwil ac arloesedd.
Defnyddiwch y dolenni isod i ganfod mwy am y 13 o brosiectau cyntaf a gafodd gefnogaeth gan y Ganolfan Ddeialog fel rhan o Strategaeth Arloesi a Chyfnewid Gwybodaeth y Brifysgol.
Adroddiad AberCollab