Adroddiad AberCollab
Mae meithrin cydweithrediad rhwng academyddion, busnesau, llunwyr polisi a sectorau eraill yn allweddol i’n cenhadaeth fel Canolfan Deialog.
Rydyn ni’n gwneud hynny am ein bod yn gwybod y gall cydweithio o’r fath gryfhau canlyniadau ymchwil, hybu cyfnewid gwybodaeth gwerthfawr a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymdeithas.
I gefnogi’r gwaith o greu gwell cyfleoedd i gydweithio a chyfnewid gwybodaeth, aethon ni ati i lunio rhaglen beilot newydd o’r enw AberCollab, oedd yn cynnig cyllid a hyfforddiant. Fe’i lansiwyd ar 1 Mawrth 2024.
Roedd y fenter yn cynnig cefnogaeth ar gyfer cynnal gweithdai a digwyddiadau rhwydweithio fyddai’n hwyluso cydweithio rhwng ymchwilwyr y Brifysgol a phartneriaid allanol ac yn helpu i ddatblygu ymchwil fyddai o fudd i’r cyhoedd yn ehangach.
Roedd AberCollab yn agored i ymchwilwyr o bob disgyblaeth ac yn cynnwys hyfforddiant gofynnol mewn arwain gweithdai cydweithredol yn ogystal â chefnogaeth i gynnal digwyddiad neu brosiect ymchwil oedd yn cynnwys partneriaid a chymunedau allanol.
Ariannwyd cyfanswm o 13 o brosiectau gan adrannau ar draws y Brifysgol. Daeth y cydweithrediadau amrywiol hyn ag ymchwilwyr a rhanddeiliaid ynghyd i:
- drafod y rhwystrau a wynebir gan lenorion ar y cyrion a dulliau o annog amrywioldeb ym maes ysgrifennu a chyhoeddi
- rannu gwybodaeth ac arbenigedd ar ddelio â gwymon ymledol Undaria
- ystyried ffyrdd o wella’r profiad pontio i ddisgyblion sy’n mynd o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd
- ddatblygu strategaethau ar gyfer defnyddio ysgrifennu creadigol i wella profiad cleifion sy’n mynd trwy driniaeth ffrwythlondeb, beichiogrwydd a genedigaeth
- ddatblygu dealltwriaeth a galluogi mwy o gydweithio ar gymhwyso croestoriad mewn arferion polisi Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant
- gynnal a datblygu cysylltiadau newydd â diwydiant ym maes nanoelectroneg ac egin dechnoleg microsglodyn y genhedlaeth nesaf
- gyfnewid gwybodaeth rhwng academyddion ac ymarferwyr ar ddulliau amgen, tosturiol o ymdrin ag iechyd, pwysau a lles
- lywio polisi a hyrwyddo gwell dealltwriaeth o’r tueddiadau presennol yn yr economi gosod llety gwyliau a thwristiaeth yng Ngorllewin Cymru
- archwilio blaenoriaethau a phryderon cymunedau ffoaduriaid yng Nghymru
- ehangu prosiect ymchwil Ewropeaidd cyfredol ar ddiraddiad rhewlifau a newid hinsawdd
- edrych ar ddefnyddio dulliau cyfrifiannol i atal ffibriliad atrïaidd, sy’n achosi i’r galon guro’n afreolaidd ac yn aml yn annaturiol o gyflym
- gryfhau ymgysylltiad ag awdurdodau lleol ar faterion yn ymwneud â thrafnidiaeth ac iechyd.
Dywedodd Dr Jennifer Wolowic, Prif Arweinydd y Ganolfan Ddeialog: “Mae AberCollab wedi bod yn enghraifft wych o sut mae deialog ac ymgysylltu ag eraill yn gallu cyfrannu at bob cam o’r broses ymchwil – o gynhyrchu syniadau ac egin brosiectau i ehangu rhaglenni ymchwil a rhoi eu canfyddiadau ar waith.
“Bu’r adborth o’n rownd gyntaf o gyllid AberCollab yn hynod gadarnhaol. Mae ymchwilwyr wedi dweud wrthym iddyn nhw gael eu grymuso gan y broses ac iddi arwain at greu cysylltiadau newydd a chryhau partneriaethau oedd eisoes yn bodoli. Bydd sawl un yn mynd ati i wneud ceisiadau am gyllid yn y dyfodol ac mae pob un wedi cael eglurder ar gyfer cydweithredu posib yn y dyfodol. Edrychaf ymlaen at weld ar drywydd pa gamau bydd ein hymchwilwyr yn mynd nesaf.”
Datblygwyd AberCollab fel rhan o Strategaeth Arloesedd a Chyfnewid Gwybodaeth 2023-2028 Prifysgol Aberystwyth, sy’n derbyn cyllid gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru.
Astudiaethau Achos AberCollab
Chwilio am atebion ar gyfer technoleg
y genhedlaeth nesaf
Rhoi llais i lenorion ar y cyrion
Twristiaeth a’r economi llety gwyliau
gosod ôl-bandemig