Astudiaethau Achos AberCollab
https://dialogue.aber.ac.uk/cy/chwilio-am-atebion-ar-gyfer-technoleg-y-genhedlaeth-nesaf/?et_fb=1&PageSpeed=offDod â’r corff i mewn i bolisi
Gall trafodaethau am effaith gordewdra ar iechyd ac economi’r DG arwain at godi cywilydd a gwarth ar unigolion sydd dros eu bwysau, gan eu portreadu fel baich ar wasanaethau cyhoeddus, yn ôl ymchwilwyr. Ar ben hynny, maen nhw’n dweud bod mesuriadau safonol o iechyd fel BMI yn ymgorffori hiliaeth, yn ffafrio pobl abl ac yn atgyfnerthu anghydraddoldebau.
Fel rhan o’u prosiect AberCollab, aeth ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ati i ymgysylltu’n feirniadol â pholisi iechyd a chynnig gweledigaeth amgen a mwy cyfannol ar gyfer iechyd a llesiant pobl Cymru gan ddefnyddio egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae’r Ddeddf yn cynnig dull ‘tosturiol’ o ymdrin ag iechyd a llesiant sy’n hwyluso dealltwriaeth o les meddyliol ac yn annog gweithgarwch corfforol. Fodd bynnag, nid yw’n cynnwys camau manwl a phenodol, y tu hwnt i’r ffocws ar BMI, yn enwedig mewn perthynas â phwysau ac iechyd. Nod yr ymchwilwyr felly oedd datblygu prosiect a arweiniwyd gan ymarfer a oedd yn ceisio llywio datblygiad polisi yn y dyfodol, gan edrych ar agweddau amgen tuag at fwyd, maeth, maint y corff ac iechyd, wedi’u llywio gan agweddau gwahanol tuag at faeth a delwedd y corff. Cynhaliwyd gweithdy undydd gyda siaradwyr o ystod o ddisgyblaethau, gan gynnwys dieteg feirniadol, cymdeithaseg iechyd, astudiaethau anabledd critigol a daearyddiaeth ddynol.
Dywedodd Dr Emma Sheppard sy’n Ddarlithydd Cymdeithaseg yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth: “Roedd ein gweithdy’n canolbwyntio ar nodi elfennau cyffredin yn ein dulliau ein hunain o gysyniadoli iechyd a lles, cyn ystyried moeseg cynnal ymchwil a allai gyfrannu at bolisi iechyd. Gan fod ein siaradwyr yn cynrychioli ystod mor amrywiol o ddisgyblaethau, roedd yn ddefnyddiol gweld sut mae sgyrsiau am bwysau mewn cyfarfyddiadau gofal iechyd yn dod i’r amlwg ac yn cydblethu cymaint ag ystyriaethau dosbarth, hil, rhyw, anabledd ac oedran.”
Dywedodd Dr Elizabeth Gagen, Darlithydd Hŷn mewn Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Buom yn trafod prosiect ymchwil peilot ac wedi nodi dau ddull penodol yr ydym bellach yn eu hystyried yn fanylach. Byddai un o’r prosiectau hyn yn canolbwyntio ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a byddai’n golygu cynnal ymchwil i’r ffactorau sy’n annog pobl i ffynnu, o fewn a thu hwnt i fodelau traddodiadol megis penderfynyddion cymdeithasol iechyd. Byddai canlyniadau’r prosiect yn ailgysyniadoli’r dangosyddion sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd i fesur iechyd a lles yn y Ddeddf Llesiant. Rydym yn credu y byddai gweithredu gwahanol fesurau yn gwella’r gofal y mae pobl yn ei dderbyn drwy roi sylw i urddas, parch a dulliau sy’n seiliedig ar drawma o ymdrin ag iechyd a llesiant.”