Astudiaethau Achos AberCollab

Twristiaeth a’r economi llety gwyliau gosod ôl-bandemig

Pembroke

Gyda chyfyngiadau ar deithio dramor, arweiniodd pandemig Covid-19 at gynnydd yn y galw am lety gwyliau gosod yn y DG.  Mae’n duedd sydd wedi parhau ac roedd ymchwilwyr o Ysgol Busnes Busnes Aberystwyth yn awyddus i edrych yn fanylach ar y berthynas rhwng y cynnydd hwn mewn llety gwyliau a’r economi twristiaeth yng Ngorllewin a Gogledd Cymru.

Eu prif amcan oedd mesur maint yr economi llety gwyliau gosod yng Ngheredigion, Gwynedd a Sir Benfro ac asesu ei heffaith ehangach. Fel rhan o’u prosiect, cynhaliodd ymchwilwyr gyfweliadau â staff sy’n gweithio mewn sefydliadau, atyniadau a busnesau twristiaeth. Daethant hefyd â chynrychiolwyr o’r diwydiant twristiaeth ynghyd yn Aberystwyth ym mis Mehefin 2024 ar gyfer digwyddiad cyfnewid gwybodaeth arbennig, lle buon nhw’n cyflwyno ac yn trafod eu canfyddiadau.

AberCollab tourism event

Dywedodd Dr Maria Plotnikova, darlithydd Economeg yn Ysgol Fusnes Aberystwyth: “Yn ystod y digwyddiad, rhannodd y grŵp y materion sy’n dod i’r amlwg ac sy’n wynebu busnesau llety gwyliau gosod ac atyniadau. Mae’r rhain yn cynnwys y cynnydd yn y gyfradd deiliadaeth i fod yn gymwys ar gyfer y cyfraddau domestig, canfyddiad y cyhoedd o lety gwyliau gosod, a chydgysylltu a chydweithio rhwng atyniadau i wella’r profiad twristiaeth ymwelwyr.”

Ychwanegodd Dr Mandy Talbot, darlithydd yn Ysgol Fusnes Aberystwyth: “Canlyniad y gweithgaredd cydweithredol yma fu cyd-greu gwybodaeth newydd a chyd-ddealltwriaeth o’r materion sy’n wynebu busnesau. Bydd ein canfyddiadau yn helpu rhanddeiliaid twristiaeth i ddeall tueddiadau cyfredol, a’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu busnesau mewn amgylchedd sy’n newid yn gyflym. Byddwn hefyd yn cyflwyno adroddiad yn seiliedig ar ein canfyddiadau i Lywodraeth Cymru ac eraill sy’n gwneud penderfyniadau er mwyn helpu i lywio polisi a rheoleiddio.” 

Adroddiad AberCollab ac Astudiaethau Achos

Adroddiad AberCollab

Chwilio am atebion ar gyfer technoleg y genhedlaeth nesaf

Rhoi llais i lenorion
ar y cyrion

Dod â’r corff i mewn
i bolisi