MEITHRIN CYDWEITHIO

Adolygiad Blynyddol 2023-2024

Canolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth

Lansiwyd y Ganolfan Ddeialog ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Tachwedd 2022 i greu cyfleoedd newydd ac arloesol ar gyfer cydweithio rhwng ymchwilwyr, busnesau, llunwyr polisi a sectorau eraillErs hynny, rydym wedi bod ynghlwm â degau o ddigwyddiadau gwahanol, gan ddod â phobl ynghyd o’r tu mewn a’r tu hwnt i’r Brifysgol. Mae ein hadolygiad o flwyddyn academaidd 2023-2024 yn gofnod o’r flwyddyn lawn gyntaf o weithgareddau i’w trefnu gan y Ganolfan Ddeialog. Yn ystod y cyfnod hwn, buom yn canolbwyntio ar ddatblygu gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth newydd a phresennol yn ogystal â chynnal prosiectau peilot ymchwil ar y cyd a sefydlu Trafod Ymchwil, ein canolfan ar gyfer cynnal deialog ymchwil ar brif gampws y Brifysgol. 

Tŷ Trafod

Roedd agor ein Trafod Ymchwil ym mis Awst 2023 yn un o uchafbwyntiau blwyddyn academaidd 2023-24. Mae’n lleoliad sy’n cefnogi nid yn unig gweithgareddau’r Ganolfan Deialog ond hefyd nod ehangach y Brifysgol o drawsnewid ffyrdd o weithio ar draws y sefydliad.

Mewn dim o amser, mae’r man cyfarfod hyblyg, cyfoes hwn yng nghanol Campws Penglais wedi dod yn ganolbwynt bywiog ar gyfer cynnal deialog ymchwil a sesiynau cydweithredol eraill – o seminarau a hacathonau i hyfforddiant hwyluso, diwrnod ymbweru awduron ymylol a bwtcamp masnacheiddio ymchwil.

Mae adborth gan academyddion sydd wedi defnyddio Tŷ Trafod yn ystod y flwyddyn aeth heibio yn dangos pa mor addas mae’r lleoliad wrth fynd ati i ddatrys problemau ar y cyd, cyd-greu atebion a datblygu prosiectau ymchwil cydweithredol.

Tŷ Trafod digwyddiadau a phobl
AberCollab Lunch

Quotation mark Dyma fy 11eg flwyddyn yn Aberystwyth, a gallaf ddatgan yn onest fod y Ganolfan Ddeialog wedi bod yn un o’r datblygiadau newydd mwyaf effeithiol o ran creu amgylchedd ymchwil gwirioneddol arloesol gyda ffocws ar gyfnewid gwybodaeth. Mae’r lleoliad ffisegol ei hun yn ddarpariaeth hynod o bwysig a chroesawgar. Rwyf wedi clywed llawer o gydweithwyr yn siarad yn gadarnhaol am y lle ac yn gwneud sylwadau ar ba mor arwyddocaol yw cael lleoliad a rennir sy’n addas at y diben. Yr un mor bwysig fu’r math o ddigwyddiadau a rhaglenni yr ydych wedi’u harwain, o AberCollab i ddigwyddiad hwyluso heddiw a gynlluniwyd i gefnogi ymchwilwyr i ddatblygu cyfranogiad cleifion a’r cyhoedd mewn ymchwil gofal iechyd. Mae’r digwyddiadau hyn wedi llwyddo i adeiladu momentwm sylweddol ar draws y Brifysgol, gan hwyluso cyflwyniadau i gydweithwyr y gallem fel arall ei chael yn anodd cysylltu â nhw, a datblygu sgiliau hanfodol mewn hwyluso a chyfnewid gwybodaeth sy’n greiddiol i ymchwil o ansawdd uchel. Yn fwy personol, maent wedi bod yn gatalydd hanfodol i’m cynlluniau ymchwil datblygol fy hun ac edrychaf ymlaen at gymryd rhan mewn llawer mwy dros y blynyddoedd i ddod. Quotation mark

Quotation mark Dim ond gair o ddiolch diffuant gan aelod o’r tîm ar eich cwrs hynod anarferol ond eithriadol ac atyniadol heddiw. Fe wnaethoch chi ei “hoelio’n llwyr” fel y bydden nhw’n dweud! Braf oedd gweld aelodau iau o’r staff yn magu cymaint o hyder o’r profiad. Rwyf wedi cael tipyn o brofiad a hyfforddiant yn y maes hwn yn y gorffennol ond roeddwn i mor falch o gael y cyfle i fynychu a gallu adnewyddu a dysgu mewn ffordd hollol newydd. Fe wnes i gofleidio’n llwyr a dysgu a myfyrio cymaint o’r profiad newydd hwnnw. Byddwn yn dweud nad wyf erioed wedi gadael ystafell ar ôl digwyddiad neu gyfarfod gan wybod enwau pawb, beth sy’n eu symbylu a’r hyn maen nhw’n ei gynrychioli.  Roedd hynny’n glyfar – da iawn chi! Quotation mark

Gŵyl Ymchwil

Arweiniodd y Ganolfan Deialog y gwaith o gynllunio a chyflwyno Gŵyl Ymchwil y Brifysgol a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2023. Roedd gennym raglen drawsddisgyblaethol, chwe diwrnod o hyd, yn cynnig cyfuniad o brif siaradwyr, anerchiadau, paneli trafod ac arddangosiadau o brosiectau ymchwil ar y thema Hawlio Heddwch. Cynhaliwyd ugain o ddigwyddiadau mewn amrywiaeth o leoliadau, gan ddenu cyfanswm cynulleidfaoedd o fwy na 600, yn eu plith staff, myfyrwyr ac aelodau o’r gymuned leol. Buom yn gweithio mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gan ddefnyddio rhai o’u mannau eiconig i gynnal digwyddiadau ac arddangosiadau yn ogystal â lle i fudiadau cymunedol osod stondin.

Roedd partneriaid lleol eraill yn cynnwys Amgueddfa Ceredigion lle cynhaliwyd ein digwyddiad Ceredigion Gynaliadwy, gan ddod ag ymchwilwyr, sefydliadau lleol, aelodau o’r gymuned, a myfyrwyr graddedig ynghyd mewn sgyrsiau am fentrau newid hinsawdd a heddwch.

Yn ein sesiwn Heddwch Dros Ginio, gwahoddwyd ymchwilwyr sy’n gweithio ar draws gwahanol ddisgyblaethau i ddod ynghyd i drafod sut y gallai eu gwaith ym Mhrifysgol Aberystwyth helpu i hybu heddwch a datrys gwrthdaro naill ai ar raddfa leol neu fyd-eang, ac i nodi prosiectau cydweithredol posibl.

Quotation mark Fe wnes i fwynhau caffi heddwch a newid hinsawdd Ceredigion Gynaliadwy yn fawr iawn, yn enwedig gan ei fod yn dod â phobl o gefndiroedd mor gymysg at ei gilydd. Roedd yn teimlo fel pe dylai fod yn ddechrau rhywbeth, ond beth? Gellid parhau â rhai o’r sgyrsiau hynny i gefnogi unigolion i wneud newid gwirioneddol. Quotation mark 

Quotation mark Roedd y trafodaethau trawsddisgyblaethol yn arbennig o ddefnyddiol, a’r awyrgylch yn hynod effeithiol a chadarnhaol wrth greu gofod i rannu barn a straeon. Gwnaed trefniadau da ar gyfer cynnwys yr iaith Gymraeg yn y digwyddiad. Quotation mark

Sustainable Ceredigion event
Festival of Research
Festival of Research event

Darlith Newid Hinsawdd y BBC

Ym mis Mawrth 2024, bu galw mawr am docynnau ar gyfer digwyddiad wnaethon ni drefnu gyda Golygydd Newid Hinsawdd y BBC, Justin Rowlatt. Yn ogystal â siarad am ei brofiadau yn gohebu ar newid yn yr hinsawdd, bu Rowlatt hefyd yn sgwrsio â’n cynulleidfa o 200 o bobl ynghylch canfyddiadau’r cyhoedd a’r ymdrechion i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yn y DG ac yn fyd-eang. Arweiniodd cysylltiadau a wnaed yn ystod ymweliad Rowlatt ac aelodau eraill o dîm amgylchedd y BBC ag Aberystwyth at sylw proffil uchel i nifer o brosiectau ymchwil y Brifysgol, gyda’r Adran Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus yn cydlynu. 

Justin Rowlatt

Rhaglen Hwyluswyr Gwadd

Mae cyfnewid gwybodaeth, arbenigedd ac arfer gorau newydd yn hynod o bwysig i ni fel Canolfan Deialog. Dyma un o’r rhesymau pam y lansiwyd ein Rhaglen Hwyluswyr Gwadd ym mis Mawrth 2024. Ein gwestai cyntaf oedd Mary Robson o Brifysgol Durham, un o brif hwyluswyr creadigol y DG ym maes prosiectau ymchwil rhyngddisgyblaethol. Yn ogystal â chynnal sesiynau briffio a chyfarfodydd, arweiniodd Mary ddau weithdy gydag ymchwilwyr. Roedd y naill yn canolbwyntio ar adeiladu a hwyluso timau ymchwil cryf a gofalgar tra bod y llall yn ystyried arferion gorau o ran cynnwys cleifion a’r cyhoedd mewn ymchwil feddygol.

Visiting Facilitator Programme

Gŵyl y Gelli

Yng Ngŵyl y Gelli eleni, fe wnaethon ni lansio pecyn cymorth unigryw yn dangos sut y gall proses greadigol collage helpu pobl i ystyried materion pwysig.

Mae Deialog Mewn Collage: Dull Creadigol ar gyfer Creu Sgyrsiau yn cynnig canllaw cam wrth gam ar gyfer cynnal gweithdy dwy awr lle defnyddir y grefft o wneud collage fel ffordd o ystyried heriau gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd. Cafodd y pecyn ei greu ar y cyd â Dr Anwen Elias o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac mae’n adeiladu ar ei gwaith hi gyda’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru lle bu’n defnyddio collage fel dull o annog trafodaeth ar faterion cymhleth.

Roedd y digwyddiad yn Y Gelli dan ei sang ac roedd galw mawr am gopïau caled o’r pecyn cymorth, sydd ar gael i’w lawrlwytho o’n gwefan.

Buom hefyd yn arwain y gwaith o gynllunio dau ddigwyddiad arall yng Ngŵyl y Gelli yn tynnu sylw at waith ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth, gan gynnwys canmlwyddiant Apêl Heddwch Menywod Cymru a gwyntyllu cwestiynau anghyfforddus ynghylch cadwraeth bioamrywiaeth. 

An audience at the Hay Festival listening to Dr Jen Wolowic and Dr Anwen Elias discuss 'Doing Demcracy Differently'
The cover of a booklet / downloadable toolkit offering a simple step-by-step guide to running a two-hour workshop using collage making as a method of setting up deliberative conversations and exploring political, social and economic challenges.

Sioe Frenhinol Cymru

Cynhelir y Sioe Frenhinol yn flynyddol yn Llanelwedd ym Mhowys, a hon yw prif ffenest siop y diwydiant amaeth – gan ddenu dros 250,000 o ymwelwyr o 40 o wledydd gwahanol dros bedwar diwrnod ym mis Gorffennaf. Mae’n lle pwysig i gynnal sgyrsiau ynghylch sut y gall ein hymchwil helpu i wella bywydau gwledig. Fel Canolfan Ddeialog, fe wnaethon ni helpu i lunio ffocws ymchwil strategol i weithgareddau’r Brifysgol ar faes y sioe yn ystod yr wythnos, a oedd yn cynnwys digwyddiadau a oedd yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a sectorau allweddol eraill.

Royal Welsh Show

AberCollab

Un o dargedau allweddol Strategaeth Arloesedd a Chyfnewid Gwybodaeth y Brifysgol yw meithrin rhagor o gydweithredu rhwng academyddion, busnesau, llunwyr polisi a sectorau eraill – gan helpu i sicrhau bod effaith ein hymchwil yn arwain at newid cadarnhaol yn y byd go iawn. Ym mis Mawrth 2024 fe wnaethom lansio AberCollab, rhaglen beilot yn darparu hyfforddiant a chyllid sbarduno i gefnogi ymchwilwyr i adeiladu a chryfhau rhwydweithiau allanol, datblygu sgiliau ar gyfer arwain gweithdai cydweithredol a sicrhau’r effaith ac arloesedd mwyaf posibl.

Cefnogwyd tri ar ddeg o brosiectau peilot at ei gilydd, yn amrywio o ddatblygu nanoelectroneg y genhedlaeth nesaf i sefydlu rhwydwaith ar gyfer awduron ymylol a nodi tueddiadau a heriau yn y farchnad gosod gwyliau yng nghefn gwlad Cymru. Roedd yr ystod o weithgareddau rhyngddisgyblaethol yn cynnwys sefydliadau academaidd eraill yn ogystal â gwneuthurwyr polisi, sefydliadau anllywodraethol, diwydiant, a chynrychiolwyr o gymunedau perthnasol yng Nghymru ac Ewrop. Mae llawer o’r prosiectau peilot hyn wedi mynd ati i adeiladu ar y cydweithio a’r cysylltiadau a ffurfiwyd i atgyfnerthu a chreu effaith bellach yn y blynyddoedd i ddod. Gallwch ddarllen mwy am y rhaglen yma: dialogue.aber.ac.uk/cy/gweithgareddau/ymchwil/abercollab/adroddiad-abercollab/

Researchers who took part in Aberystwyth University's AberCollab programme gather around tables to discuss their projects.
AberCollab Lunch

Partneriaethau

Yn ogystal â meithrin cydweithrediadau ymchwil, mae’r Ganolfan Ddeialog hefyd yn darparu sesiynau hyfforddi ar gyfer staff academaidd, yn meithrin perthnasoedd uniongyrchol â rhanddeiliaid allanol allweddol, ac yn cynnig gwasanaethau ymgynghori am ffi i fentrau ymgysylltu sy’n ymwneud â democratiaeth a deialog. Dyma flas o’r math o waith a welwyd yn ystod 2023-2024: 

  • Trefnu sesiynau hyfforddi ar gyfer academyddion mewn cyfnewid gwybodaeth, cydweithio, cyfathrebu a Chynnwys y Cyhoedd a Chleifion mewn ymchwil feddygol 
  • Gweithio gyda’r Sefydliad Materion Cymreig i nodi opsiynau ar gyfer mwy o arloesiadau i hybu democratiaeth yng Nghymru 
  • Creu cynnwys ar gyfer ymgysylltiad democrataidd ar Ap Aberystwyth 
  • Arwain sesiwn ar ymgysylltu democrataidd gyda Chyngor Tref Aberystwyth  
  • Darparu 210 o oriau hyfforddi un-i-un gyda staff ar bob lefel, gan gynnwys academyddion, gwasanaethau proffesiynol, rheolwyr ac uwch arweinwyr.

I gefnogi ymchwil arloesol pellach yn y Brifysgol, bu’r Ganolfan Deialog yn rhan o ddau gais llwyddiannus am gyllid yn ystod 2023-24 a bydd yn cyfrannu ei harbenigedd dros gyfnod y ddau brosiect. 

  1. Mae Cymru Wledig LPIP Rural Wales yn brosiect pum mlynedd, gwerth £5m a ariennir gan UKRI, sy’n cysylltu ymchwilwyr, cymunedau a llunwyr polisi i gefnogi datblygu cynaliadwy, cynhwysol. Bydd ymchwilwyr a llunwyr polisi yn gweithio gyda chymunedau o bob rhan o Gymru wledig i archwilio atebion arloesol i amrywiaeth o heriau mawr a wynebir gan gymunedau gwledig
  2. Mae COAST-R yn brosiect pedair blynedd gyda’r nod o wella gwytnwch arfordiroedd y DG. Yng Nghymru, bydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar arfordiroedd gogledd Ceredigion a Gwynedd, gan edrych ar sut mae newid hinsawdd a chodiad yn lefel y môr yn rhyngweithio yn ogystal â chadwraeth natur, heriau gwledig, datblygiad economaidd, cwestiynau iaith a diwylliant, a lles emosiynol.
Knowledge Exchange Workshop
Rural landscape
Coastal

Ar Y Gweill

Wrth inni gychwyn ar flwyddyn academaidd newydd, byddwn yn parhau i adeiladu ar genhadaeth ddinesig a gweithgareddau ymgysylltu’r Ganolfan Deialog yn ogystal â datblygu model cynaliadwy o ddarparu sgiliau, gwasanaethau ymgynghori a chymorth datblygu busnes sy’n hybu twf economaidd. Mae ein cynlluniau’n cynnwys lansio cymuned ymarfer ffurfiol i gefnogi a datblygu ymhellach sgiliau’r 40 o staff gwasanaethau academaidd a phroffesiynol a gymerodd ran yn sesiynau hyfforddiant hwyluso’r Ganolfan Ddeialog yn ystod 2023-24. Rydym hefyd yn gyffrous i fod yn gweithio ar godi arian ac ar fanylion cartref newydd y Ganolfan Ddeialog, sy’n dechrau datblygu fel rhan o’r gwaith o adnewyddu’r Hen Goleg ar bromenâd Aberystwyth gyda’r nod o’i gwblhau yn 2026.

Quotation mark Mae meithrin cydweithrediad rhwng academyddion, busnesau, llunwyr polisi a sectorau eraill yn allweddol i’n cenhadaeth fel Canolfan Deialog. Rydym yn gwneud hynny am ein bod yn gwybod y gall gweithio ar y cyd gryfhau canlyniadau ymchwil, hyrwyddo’r broses werthfawr o gyfnewid gwybodaeth a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymdeithas. Quotation mark

Dr Jennifer Wolowic, Prif Arweinydd, Canolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth