Prifysgol Aberystwyth i gynnal sesiynau trawsnewidiol yng Ngŵyl y Gelli 2024: Ail-ddychmygu Democratiaeth, Heddwch a Bioamrywiaeth
28 Mawrth 2024
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi ei bod yn cymryd rhan yng Ngŵyl y Gelli 2024, sy’n enwog am ddod â meddylwyr, awduron ac artistiaid ynghyd i archwilio pŵer syniadau ac adrodd straeon. Eleni, mae’r ŵyl yn ehangu ei gorwelion gyda’r thema “Ail-ddychmygu ein Byd a’n Creadigrwydd,” gan ganolbwyntio ar ddemocratiaeth, heddwch, a chadwraeth bioamrywiaeth.
Bydd y tair sesiwn yn ymchwilio i bynciau democratiaeth, heddwch a bioamrywiaeth, gan drafod llwybrau tuag at ddyfodol sy’n cyd-fynd â’n delfrydau cyfunol a lles ein planed.
Mae rhwydweithiau a sefydliadau o amgylch y byd yn hyrwyddo gwedd newydd ar ddemocratiaeth ac yn ceisio creu dulliau sy’n fwy cyfranogol, hygyrch a chynhwysol. Ymunwch â Dr Anwen Elias, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, a Dr Jennifer Wolowic, Prif Arweinydd Canolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth, wrth i ni drafod y modd y mae Prifysgol Aberystwyth yn ceisio cefnogi’r gwaith hwn trwy gelfyddyd, ffotograffiaeth a collage dan arweiniad y gymuned, a hynny i helpu i lunio polisïau a sefydliadau ar gyfer dyfodol egnïol. Mae’r ymgyrch hon yn ymuno â galwad i weithredu i groesawu llwybrau arloesol mewn democratiaeth, gan gyfuno dinasyddiaeth weithredol â mynegiant artistig. Dewch i ni drawsnewid democratiaeth gyda’n gilydd.
A all ymdrechion heddwch dinasyddion cyffredin effeithio ar fyd sydd wedi ymgolli mewn rhyfel? Gan mlynedd yn ôl meiddiodd merched Cymru ddychmygu byd heb ryfel a chymryd camau i gyflawni hynny: arwyddodd bron i 400,000 ddeiseb yn apelio ar fenywod America i gefnogi eu galwad am heddwch. Ymunwch â Mererid Hopwood a Jenny Mathers, golygyddion Yr Apêl 1923–24, wrth iddynt drafod stori ryfeddol Deiseb Heddwch Merched Cymru gyda’r newyddiadurwraig Betsan Powys, a cheisio ysbrydoliaeth ar gyfer cenhedlaeth newydd o heddychwyr. Bydd y drafodaeth hon yn tynnu cymariaethau â gwrthdaro cyfoes, gan gynnig mewnwelediad i’r ymchwil barhaus am heddwch a rôl dinasyddion cyffredin wrth lunio byd di-ryfel.
Mae bywyd gwyllt ac ecosystemau ledled y byd yn wynebu bygythiadau enfawr ond mae nodi blaenoriaethau a dulliau cadwraeth yn codi llawer o gwestiynau heriol. Sut mae cydbwyso’r awydd i warchod rhywogaethau bywyd gwyllt sydd dan fygythiad ag anghenion poblogaethau dynol? Pwy sy’n penderfynu? Ymunwch â sgwrs rhwng Pennaeth Ysgol Milfeddygaeth Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Darrell Abernethy, a chynrychiolydd o WWF i drafod sut mae gweithgareddau dynol ac argyfyngau naturiol yn effeithio ar rai o rywogaethau mwyaf gwerthfawr y byd.
I gael rhagor o wybodaeth am y sesiynau ac i brynu tocyn ewch i wefan Gŵyl y Gelli.
Ymunwch â ni yng Ngŵyl y Gelli 2024 am daith o ddarganfod ac ysbrydoliaeth.