Doing Democracy Differently

Doing Democracy Differently

Rhif digwyddiad: 164 (Meadow Stage yng Ngŵyl y Gelli 2024)

Siaradwyr: Anwen Elias yn siarad â Jennifer Wolowic

Dyddiad/amser: 4:00yp, Dydd Mawrth 28 Mai 2024

Mae rhwydweithiau a sefydliadau o amgylch y byd yn hyrwyddo gwedd newydd ar ddemocratiaeth ac yn ceisio creu dulliau sy’n fwy cyfranogol, hygyrch a chynhwysol.

Ymunwch â Dr Anwen Elias, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, a Dr Jennifer Wolowic, Prif Arweinydd Canolfan Ddeialog Prifysgol Aberystwyth, wrth i ni drafod y modd y mae Prifysgol Aberystwyth yn ceisio cefnogi’r gwaith hwn trwy gelfyddyd, ffotograffiaeth a collage dan arweiniad y gymuned, a hynny i helpu i lunio polisïau a sefydliadau ar gyfer dyfodol egnïol.

Mae’r ymgyrch hon yn ymuno â galwad i weithredu i groesawu llwybrau arloesol mewn democratiaeth, gan gyfuno dinasyddiaeth weithredol â mynegiant artistig. Dewch i ni drawsnewid democratiaeth gyda’n gilydd.

I gael rhagor o wybodaeth am y sesiynau ac i brynu tocyn ewch i wefan Gŵyl y Gelli.

Hay Festival