Hawlio Heddwch - Cwestiynau Cyffredin 2023

Trosolwg

Rhaglen

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw’r Ŵyl Ymchwil?

Mae’r Ŵyl yn ddigwyddiad blynyddol sy’n tynnu sylw at yr ymchwil o’r radd flaenaf sy’n cael ei wneud gan academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dan arweiniad y Ganolfan Ddeialog, un o amcanion allweddol yr Ŵyl yw cysylltu gyda chymunedau lleol gan annog trafodaeth a rhannu syniadau. Mae mynychu’r Ŵyl yn rhad ac am ddim ac mae’n agored i bawb – nid yn unig staff, myfyrwyr a chynfyfyrwyr y Brifysgol ond y cyhoedd yn gyffredinol. Ein gobaith yw bod ein rhaglen yn cynnwys rhywbeth at ddant pawb. 

Ble a phryd mae’n digwydd?

Mae’n Gŵyl Ymchwil yn para 7 diwrnod, o ddydd Mercher 1 Tachwedd tan ddydd Mawrth 7 Tachwedd. Caiff digwyddiadau eu cynnal ar Gampws Penglais, yn y dref ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae rhestr isod o rai o brif leoliadau’r Ŵyl, gyda dolenni at fapiau a chyfarwyddiadau.

Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth

Sinema, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Prif Neuadd, Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Sut alla i gael tocynnau?

Mae tocynnau ar gyfer pob digwyddiad ar gael yn rhad ac am ddim drwy Eventbrite: https://bit.ly/3DDgJSu

Mae archebu lle yn hanfodol gan fod nifer y tocynnau yn gyfyngedig.

Sut gallaf ddychwelyd tocynnau os na allaf fynychu mwyach?

Pan fyddwch yn archebu tocyn drwy Eventbrite, byddwch yn derbyn e-bost gyda manylion y digwyddiad y gwnaethoch archebu tocyn ar ei gyfer. Ar waelod yr e-bost,  bydd dolen i weld a rheoli eich archeb ar-lein. Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i wefan Eventbrite lle byddwch yn gallu canslo eich archeb. Os cewch unrhyw anawsterau gyda’ch tocyn, cysylltwch â deialog@aber.ac.uk

Oes rhaid i mi dalu i fynychu?

Mae holl ddigwyddiadau’r Ŵyl yn rhad ac am ddim, ac mae croeso cynnes i bawb.  

At bwy mae’r Ŵyl wedi ei hanelu?

Gyda rhaglen amrywiol dros gyfnod o saith diwrnod, mae’r Ŵyl yn cynnig rhywbeth at ddant pawb ac mae croeso cynnes i bob un – yn aelodau’r gymuned leol yn ogystal â staff a myfyrwyr y Brifysgol ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymchwil. Mae yna weithgareddau sy’n addas ar gyfer plant ar ddydd Sadwrn 4 Tachwedd ac mae’r holl fanylion i’w gweld yn ein rhaglen

Pwy yw’r siaradwyr?

Bydd ystod o siaradwyr gwahanol yn ystod yr Ŵyl, yn cynnws un o brif ymgyrchwyr heddwch Gogledd Iwerddon Eileen Weir. Mae fanylion llawn am y digwyddiad hwn a’r holl siaradwyr eraill i’w gweld yn ein rhaglen.

Sut gallaf gysylltu â threfnwyr yr Ŵyl?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch ebost at deialog@aber.ac.uk